Mae’r llyfr yn sôn am hanes ffeithiol, rhyfeddol un teulu ffarmio, arferol o Dynybraich, Cwm Maesglasau. Fel mae’r hanes yn mynd cafodd Rebecca (y fam) a’i gwr Evan Jones saith plant – Rebecca (yr awdur), Bob, Gruff, Wili, Ieuan, Olwen ac Lewis. Yn anffodus roedd tri ohonon nhw yn ddall ac fu ddau ohonynt farw. Ond, er fod tri ohonynt yn ddall, aethent ymlaen i ddilyn bywyd arferol ac roedden nhw’n alluog dros ben. Mae’r stori yn digalonni ar adegau ond eto, mae yna rhannau ddoniol hefyd, ond trwy gydol y llyfr mae’n diddorol ac eithaf emosiynol.
“Eisiau cofnodi hanes tri brawd dall fy nhaid a aned ar fferm Ty’n y- braich oeddwn i a chofnodi’r newidiadau cymdeithasol a welwyd yng nghefn gwlad Cymru yn yr ugeinfed canrif.” –Angharad Price (awdur)
Prif gymeriad y hunangofiant hon yw Rebecca Jones wrth gwrs gan fod ei hunangofiant hi ydyw a gwelir popeth trwy ei lygaid hi, hi sy’n adrodd hanes y teulu - "Roedd rhywbeth yn arbennig am y genhedlaeth. Roedd yna bedwar brawd, tri ohonyn nhw'n ddall ac un chwaer. Bu farw'r chwaer yn unarddeg oed......Roeddwn i'n meddwl y buasai ffigwr y chwaer yn un diddorol i allu canolbwyntio ar ddweud y stori....roedd hi'n gyfrwng i allu dweud stori'r lleill," - eglurodd Angharad. Mae’n atgofio pethau ers ei phlentyndod nes iddi troi’n hen wraig 90 mlwydd oed. O’i thristwch pan ni gafodd y siawns i cael addusg fel merch, i’w teimladau torcalonnus pan adawodd Angelo. Bu erioed iddi priodi neu cael perthynas, er gwaethaf ei theimladau tuag at Angelo. Roedd Angelo wedi dod i aros yn Nhynybraich fel carcharor Eidaleg yn ystod y rhyfel ac cwympodd Rebecca mewn cariad gyda fe. Wrth gwrs doedd dim byd yr alla hi ei wneud amdani achos cyn bo hir roedd yn rhaid i Angelo fynd yn ol i’r Eidal; “Pob eiliad yn werthfawr. Pob cam yn boen.” Wrth gwrs erbyn diwedd y nofel cyhoeddwyd bod Rebecca wedi marw’n 11 oed a bod hanes ei bywyd hi’n dychmygol.
Yn ogystal â Rebecca roedd chwech plentyn arall. Roedd Bob yn iau na Rebecca ac roedd yn gobeithio bod yn meddyg pan oedd yn hyn, ond roedd yn rhaid iddo weithio ar y fferm, ac mae’n debyg roedd yn ffermwr wael. Gruff oedd y mab nesaf a cafodd e ei enu’n ddall ond roedd yn alluog iawn ac astudiodd hanes ym Mhrifysgol Bryste, gan mynd ymlaen i fod yn ficer. Wili oedd y nesaf ac roedd e hefyd wedi’i enu’n ddall, mae e yn cyfieithu Braille. Cafodd y nesaf, Ieuan, ei enu heb nam ar ei olwg o gwbl, ond ar ei ben-blwydd yn 5 oed bu farw o diptheria. Y baban nesaf oedd merch arall ond gwaetha’r modd bu farw yn ond pythefnos oed – “Fe’i cofiaf yn awr yn gorwedd yn llonydd ac yn llwyd ym mreichiau fy mam.” Yr fab olaf i cael ei enu oedd Lewis, ac er iddo peidio cael ei enu’n ddall aeth yn ddall ar ol sbel, serch hynny mae e’n arlynydd! Lewis oedd wedi helpu Angharad i ysgrifennu’r llyfr.
Mewn 2 cymeriad mae yna datblygiad amlwg yn ystod y nofel, a nhw yw Gruff a Wili. Gan ei fod wedi orfod mynd i ‘Worcester College for the Blind’ ac aethant i ysgolion a brifysgolion Saesneg roedd effaith mawr ar y ffordd roeddent yn siarad; “A dysgasant siarad â Dduw – ac a’i gilydd – yn Saesneg ffurfiolaf y dydd.” Er fod dim gwrthdaro amlwg yn y llyfr, pan fyddai wraig Gruff yn ddod i ymweld byddai Evan Jones (y dad) yn mynd i’r gwely yn gynnar iawn er mwyn ei hanwybyddu. Ond nid achos casineb tuag ati, ond yn hytrach achos roedd hi ond yn siarad saesneg ac nid oedd Evan yn medru siarad Saesneg yn dda. Mae hyn yn dangos ei cymeriad hynod.
Un peth rydw i wedi sylweddoli ar yn y stori hon yw rol y merch yn y cymdeithas. Mae’n disgwyliedig i fenywod i ddilyn yr hen draddodiad o fod yn wraig yn aros yn y gartref, yn coginio ac yn glanhau, ac edrych ar ol y plant. “Diau bod ym Mhrifysgol Rhydychen gryn nifer o fyfyrwragedd,” “Nid oedd merched fel petaent bod yno.” Rydw i wedi newydd darllen Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Ellis, ac mae’r un fath o beth yn y nofel hwna, gyda rol y merch. Wrth gwrs mae’r ddau lyfr wedi’i osod tua’r un cyfnod.
Mae yna lawer o ragoriaethau gan y llyfr yma. Mae’r hunangofiant yn stori wir ac yn un diddorol dros ben, sy’n cadw’r darllenwr teimlo’n cyffrous ac yn glynu at y llyfr. Yn yr un modd mae yna llawer o disgrifiadau prydferth iawn o natur ac o ardal Maesglasau, er enghraifft:
“Llifa’n dawel a bwriadus a ymyl y graig cyn ddymchwel yn bistyll ewynnog, grymus, gannoedd o droedfeddi i lawr,”
“Mae curiad cyson y carnau’n mesmereiddio. Aur ac arian blodau’r haf yn glowyi yn y perthi. Arogl ddraenen wen yn meddwi.” Mae yna hefyd drisgifiadau drwyadl iawn ynglun a bywyd ffermio ac rwy’n siwr byddai unrhywun sydd erioed wedi byw ar fferm neu gewithio ar fferm gallu uniaethu gyda nhw;
“Gwasgaru’r gwair a ddeuai nesaf: mynd ati a phicwarch i ddatod y caglau llaith. Roedd yn hanfodol i’r gwair sychu’n drwyadl.”
“Torrid y gwellt yn fân a chadw’r torrion mewn sachau i’w ddefnyddio’n borthiant i’r anifeiliaid, i ymestyn y grawn gwerthfawr.”
Er i mi fwynhau’r llyfr ac gwerthfawrogi y straeon emosiynol a disgrifiadau ddel roedd y llyfr yn annodd i’w ddeall ar adegau. Mae’r iaith yn eitha annodd ac i ddweud y gwir, os fyddaf wedi darllen hyn ar fy ben fy hun bydda i wedi siwr o fod rhoi lan ar ol yr ail tudalen. Beth bynnag, rwy’n falch fy mod i wedi darllen y gyfrol hon, gan fod y stori yn arbennig ond eto’n gwir. Mae yna llawer o safbwyntiau arall am y llyfr;
“Mae hi’n em o gyfrol!” – Bethan Mair (Gwasg Gomer)
“gofid am barhad y gymdeithas Gymraeg i’w gweld yn nrych stori Rebecca Jones.” – Hywel Teifi Edward (Feirniad y cystadleuaeth)
Hoffwn ail-ddarllen y llyfr er mwyn sylwi ar unrhywbeth wnes i ddim sylweddoli tro cyntaf, byddaf yn cymryd mwy o sylw o digwyddiadau a disgrifiadau penodol. Mae gan y llyfr yma neges clir am fywyd, a hynny yw, mae bywyd yn newid trwy’r amser, dydy ni ddim yn gwybod beth sydd o’n blaen a dyle ni ddefnyddio’r amser yn ddoeth achos gall pethau drwg ddigwydd unrhyw bryd. Mae’r stori’n ddangos bod natur yn gallu bod yn greulon.