Cemegolion Tocsig
Mae rhaid storio cemegolion tocsig yn barod i’w casglu . Gall cael gwared a chyfeintiau bach gan hydoddi ac yna gwanedu a golchi i ffwrdd gyda dŵr.
Offer Miniog
Mae yna dau liw priodol ar gyfer offer miniog gan fod dau ohonynt yn cael ei gwared yn wahanol. Mae bocs melyn gyda phethau nid sydd angen ei llosgi. Mae bocs coch yw rhai sydd yn cael ei llosgi fel enghraifft nodwyddau.
Mae rhaid bod deunyddiau miniog megis gwydr a nodwyddau yn cael ei gosod mewn cynhwysydd caled gyda chlawr sydd ddim yn dod i ffwrdd.
Sylweddau sydd ddim yn heintiol
Gyda sylweddau sydd ddim yn heintiol mae rhaid lapio cynhwysydd gyda phapur amsugnol gyda padin i rwystro gollyngiad unrhyw hylifau a’i gosod mewn bag plastig.
Rhaid hefyd gosod y cynhwysydd tu fewn i gynhwysydd arall fel enghraifft bocs cardfwrdd cryf neu silindr metel yn dibynnu ar beth yw sylwedd.
Sylweddau cyrydol
Cyn cludo solidau cyrydol mae’n rhaid hydoddi solidau yn ofalus ac yma gwanedu yn llwyr. Os yw’n bosib gyda rhai sylweddau cyrydol rydych yn gallu niwtralu’n llwyr gyda sodiwm carbonad cyn golchi i ffwrdd gyda dŵr.
Hylifau Cyrydol
I gludo hylifau cyrydol mae rhaid gwanedu a niwtralu gan ddefnyddio sodiwm carbonad am asidau. Ond ar gyfer alcalïau mae rhaid defnyddio asid ethanoig cyn golchi gyda chyfeintiau mawr o ddŵr.
Un enghraifft o hylif cyrydol yw asid hydroclorid.
Solidau fflamadwy
Os oes gennych chi gyfeintiau mawr o solidau fflamadwy fel enghraifft potasiwm sylffad mae’n rhaid trefni gasgliad ar ei gyfer.
Solidau heintiol
Os oes gennych chi sylweddau heintiol mae rhaid i’r pecyn gynnwys y symbol diogelwch priodol er mwyn rhybuddio pobl o’r perygl. Mae rhaid bod y pecyn gyda solidau heintiol ynddynt wedi cael ei gosod mewn cynhwysydd arall sydd o gryfder synhwyrol a hefyd gydag ochrau sydd o leiaf 100mm³. mae’n bwysig hefyd bod y cynhwysydd yn wrth dŵr a gyda deunydd amsugnol o’i amgylch.
Carbon Deuocsid solid a hylifau Cryogenig
Wrth gludo Carbon deuocsid solid mae rhaid bod yna ffordd i nwy carbon deuocsid ddianc yn hawdd o’r deunydd pacio. Gan fod os nad ydi nwy yn dianc gall cyfeintiau mawr achosi ffrwydrad.
Mae hefyd rhaid gwneud yn siŵr bod nad oes yna gyfeintiau mawr o solid carbon deuocsid yn y cerbyd er mwyn diogelwch y gyrrwr gan fod cyfeintiau mawr o nwy carbon deuocsid hefyd yn gallu bod yn beryglus i iechyd. Felly mae’n bwysig bod gan y gyrrwr cyflenwad cyson o aer glan a bod solidau Carbon deuocsid yn cael ei chadw ar wahani’r gyrrwr.
Deunydd Ymbelydrol
Mae rhaid bod yna tystysgrif ar y pecyn er mwyn rhoi gwybodaeth i'r cludwyr am beth mae’n cludo a hefyd y perygl. Hefyd cyn iddi becyn cael ei symud mae angen iddo basio ‘drop test’ sef gollwng y pecyn o uchder o 9 metr i weld os yw pecyn yn gallu gwrthsefyll unrhyw drawiadau sydd yn gallu digwydd.
Tu allan i'r cerbyd mae angen symbol perygl ac mae rhaid bod y pecyn wedi labelu’n gywir. Mae hefyd angen i'r gyrrwr dderbyn hyfforddiant addas.
Mercwri
Mae rhaid fod y sample o mercwri wedi cael ei buro cyn iddo cael ei symud. Ac mae angen bod cyfeintiau bach wedi cael ei storio mewn potel gryf yn barod I gael ei chasglu gan unrhyw cofrestrif.
Addasiad i gerbydau
Mae angen I cerbydau cael y addasiadau rhain er mwyn cludo ynrhyw cemegolion neu sylweddau peryglus.
●Mae angen ardal sydd o dan tymheredd o 4˚c
●Mae angen bod yna llawr esmwyth er mwyn lanhau yn hawdd os oedd ynrhyw arllwysiadau.
● Mae angen cael llawr gwrth dwr
● Mae angen drws sydd yn cloi er mwyn diogeli chemegolion mwyaf peryglus.
● mae angen golau tu fewn
● Mae angen bod y symbol diogelwch priodol art u allan ir cerbyd.
● Mae angen bod y gyrrwr wedi cael hyfforddiant priodol.