Beth oedd effaith yr Ail Ryfel Byd ar fywyd gartref yng Nghymru a Lloegr?

Authors Avatar

Beth oedd effaith yr Ail Ryfel Byd ar fywyd gartref yng Nghymru a Lloegr?

        Roedd yr Ail Ryfel Byd (1939-45) yn ‘rhyfel llwyr’. Golygai hyn yr achosodd y rhyfel newid ym mywyd pob Cymro a Sais. Cafodd effaith ar y bobl gartre e.e. plant, menywod a’r oedrannus, yn ogystal ag aelodau’r fyddin Prydeinig oedd yn brwydro’n erbyn yr Almaen yn Ffrainc a Gwlad Belg. Ymgiliwyd plant i’u diogelu, cyflwynwyd doni i sicrhau bwyd i bawb a gorfodwyd menywod rhwng 19-30 oed i ymuno a’r lluoedd arfog neu i weithio yn y dywidiant rhyfel e.e. mewn ffatri arfau. Felly, roedd yr Ail Ryfel Byd yn cael canlyniad uniongyrchol ar bawb. Mae hyn yn atgyfnerthu’r faith y nid y fyddin yn unig oedd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch rhyfel, ond bod rhaid i bawb cydweithio a chyd-dynnu i sicrhau eu bd yn goroesi ac yn goresgyn Hitler a’r Almaen. Newidiodd pob agwedd o fywyd pobl Cymru a Lloegr i ryw raddau.

        Yn ystod cyfnod y Blitz (Medi 1940 hyd at Fai 1941) gorchmynnodd Hitler i’r Luftwaffe gollwng bomiau ar ddinasoedd Cymru a Lloegr e.e. Llundain ac Abertawe, yn fwriadol er mwyn ceisio effeithio ar ysbryd y bobl gartre, creu anrhefn yn y wlad a dinistrio ffatrioedd arfau a phorthladdoedd. Roedd rhai dinasoedd wedi cael eu difetha’n llwyr gan ymosodiadau’r Blitzkrieg. Cafodd 43,000 o bobl eu lladd a llawer mwy eu anafu ac roedd delio âg hyn yn anodd iawn yn ystod cyfnod y Blitz. Felly, er mwyn llwyddo i ennill y rhyfel er gwaethaf yr anawsterau, roedd rhiad i bawb addasu eu bywydau bob dydd.

        Gwnaeth y llywodreath nifer o baratoadau ar gyfer dechrau yr ail ryfel byd. Un o rian oedd i benderfynu pa plant dylai fod yn ymgilwyr. Dechreuodd paratoadau ymgilio cyn i’r rhyfel dechrau ar y 3ydd o Fedi 1939 fel sy’n cael ei ddangos yn ffynhonnell A8 sy’n erthygl modern papur newydd sy’n sôn am blant Manceinion yn cael eu ymgilio cyn i’r rhyfel dechrau. Dywedodd yr erthygl bod pamffledi wedi cael eu dosbarthu o amgylch y tai ac yn dweud, “We must prepare in good time against the possibility of war, however remote that possibility may be,” sy’n dangos paratoadau cynnar y llywodraeth. Awdur y ffynhonnell yw Keith Macdonald. Mae’r ffynhonnell yn ddibynadwyl i ryw raddau oherwydd mae’n llawn ffeithiau ac mae’n amlwg bod y gohebydd wedi caglu llawer o wybodaeth am y peth. Ond ar y llaw arall, mae’r cyfweliadau gyda’r ymgilwyr sy’n cael eu cynnwys yn yr erthygl wedi cael eu cynnal blynyddoedd maith ar ôl i’r bobl cael eu ymgilio felly mae’n siwr eu bod nhw wedi anghofio cryn dipyn gan iddynt fod mor ifanc yn ystod cyfnod yr ymgiliad. Bydd angen astudio ffynhonnellau o lygaid tystion cafodd eu gwneud yn ystod yr ymgiliad i gael dealltwriaeth well.

Join now!

        Lluniodd y llwyodraeth cynllun manwl ymlaen llaw oedd yn trefnu’r manylion lleiaf yn ofalus. Mae ffynhonnell A5 yn ategu hyn. Mae’n poster neu’n daflen swyddogol gan y llywodraeth i ddweud beth oedd angen ar ymgilwyr ar gyfer eu taith e.e. mwgwd nwy, brwsh dannedd a chrib a.y.y.b. Mae’r ffynhonnell yn ddibynadwy oherwydd ei fod yn ffurfiol ac yn dangos bod y llywodraeth wedi ceisio paratoi’r wlad yn drylwyr.

        Fel arfer ymgilwyr oedd plant ysgol, mamau a phlant ifanc, menywod feichiog, athrawon a phobl dall ac anabl. Dangoswyd hyn yn y ffynhonnell isod sy’n danogs niferoedd y bobl cafodd eu ymgilio:

...

This is a preview of the whole essay