Yn fy marn i fe ddylai fy graffiau mwy ne lai fod yn un llinell syth ac fod y cerrynt mewn cyfrannedd union ar voltedd, ond oherwydd mae tymhereth yn effeithio ar gwrthiant y wifren, (ac fy y wifren yn cynhesu wrth ir electronau fynd trwyddo) efallai fydd rhai or pwyntiau ar y graff allan o le ychydig. Fe ddylai fy graff gwrthiant yn erbyn hyd cael cydberthyniad posotif ac fod mwy na lai llinell syth ond eto mae hyn yn dirbynu ar y tymheredd ac os ydy e yn cael effaith ar y canlyniadau.
Offer
Pac pwer 2-12 volt
Gwifrau crocodeil (x6)
Ampmedr
Voltmedr
Gwifren haearn 100cm o hyd (fel y gwrthydd)
Pren mesur
Mat diogelwch (y diogelur bwrdd rhag tymhereth y gwifren)
Ffan batri (i oeri’r gwifren yn ystod yr arbrawf)
Dull
Yn yr arbrawf yma rydyn ni yn mynd defnyddio’r cylched yma:
Yn gyntaf fe fyddwn y n cysylltir holl offer gydai gilydd ac denyddio darn 100cm o hyd o wifren haerarn fel y gwrthydd. Yn gyntaf fe fydd ein gwrthydd yn 20cm o hyd ac fe fyddem yn cynnyddu hyd y wifren 4 mwy o weithiau yn ystod yr arbrawf (40cm, 60cm, 80cm, 100cm). Fe fydd person 1 yn yr arbrawf yma yn troi mlaen y pac pwer gan adael ir electronau teithio trwyr cylched. Yna fe fydd y person 2 yn cofnodi (yn gyflym) darlleniad sy’n dod i fynnu ar y voltmedr ar amedr. Yna fydd person 1 yn troi bant y pac pwer yn syth ar ol ir darlleniadau cael ei cymryd, fel bod y wifren ddim yn cael siawns i cynnhesu. Fe fydd yr arbrawf yma yn cael ei ail wneud eto ar pob voltedd sydd ar y pac pwer (sef 2V, 3V, 4V, 5V, 6V, 8V, 10V, 12V) ar gyfer pob hyd. Er mwyn sicrhau fod yr arbrawf yn un teg fe fydd yr arbrawf yn cael ei wneud 3 gwaith ac hefyd yn ystod yr arbrawf bydd person 1 yn defnyddio ffan batri i oerir gwifren fel ei bod e ddim yn twymo ac effeithio ar yr arbrawf.
George ohm
Fe wnaeth George Ohm darganfod fod yna cyfranedd union rhwng voltedd a cerrynt pryd wnaeth e gwneud union yr yn arbrawf a wnaethom ni. Fe wnaeth e ddarganfod fod os ydych yn cynnyddu voltedd rhywbeth fe fydd y cerrynt hefyd yn cynnyddu. Rhoddod ei data mewn tabl ac dechreuodd defeisio fformwla oedd yn cysylltu gwrthiant, voltedd a cerrynt y fformwla yw:
R= V/I (neu gwrthiant= voltedd ÷ cerrynt).
Ond darganfyddodd fod ei theori sef bod yna cyfranedd union rhwng voltedd a cerrynt dim ond yn gweithio os yw tymhereth y gwrthydd yn cael ei chadw yn cyson. Os nid yw tymheredd yn cael ei cadw’n cyson fe fydd y gwrthiant yn codi gan effeithio ar y canlyniadau
Fe ddefnyddiais fformla George Ohm R= V/I ar pob graff i ddarganfod gwrthiant pob hyd. Yna fe wnes i rhoi’r canlyniadau mewn i graff arall sef “gwrthiant yn erbyn hyd.”
Tabl hyd yn erbyn gwrthiant
Dadansoddiad or graffiau voltedd yn erbyn cerrynt.
Wrth edrych ar y graffiau “voltedd yn erbyn cerrynt” fe welaf fod yna cydberthyniad posotif ac fod y cerrynt yn cynnyddu wrth ir voltedd cynnyddu (cyfrannedd union). Mae’r pwyniau ar y graff mwy na lai yn hollol syth sydd yn meddwl fod yr arbrawf yn un posotif iawn ac fod yna cysylltiad mawr rhwng hyd wifren ac hefyd gwrthiant y gwifren. Mae’r ffaith fod y pwyntiau ddim yn creu llinell hollol syth yn gally profi rhan o fy rhagdybiaeth sef os yw gwifren yn cael siawn i twymo gall hyn gwneud ir gwrthiant cynnyddu gan effeithio ar yr adwaith.
Dadansoddi’r graff “Gwrthiant yn erbyn hyd”
Wrth edrych ar y graff “Gwrthiant yn erbyn hyd” gwelaf ei fod yn yn mynd i fynu yn syth ac ei fod yn cydberthyniad posotif. Mae hyn yn profi rhan o fy rhagdybiaeth sef “wrth i hyd wifren cynnyddu fe ddylai gwrthiant y gwifren cynnyddu hefyd.” Hefyd wrth edrych yn fwy fanwl ar y graff welaf os ydych yn dwblu’r hyd mae mwy na lai y gwrthiant yn dwblu hefyd sy’n profi darn arall o fy rhagfynegiad. Mae’r llinell ffit orau hefyd yn profi fod rhan arall o fy rhagdybiaeth yn gywir sef fod y hyd y wifren mwy na lai mewn cyfranedd union ar gwrthiant.
Gwerthusiad
Wrth edrych ar yr holl graffiau ac fy rhagfynegiad credaf fod llawer o’r gwybodaeth yn cyd fynd gyda fy rhagfynegiad e.e mae’r grafiau yn ddangos fod y voltedd mewn cyfranedd union ar cerrynt ac hefyd fod y hyd mewn cyfrannedd union ar gwrthiant. Mae hyn yn meddwl os ydw i yn hanneru’r gwifren mewn hyd fe ddylai’r gwrthiant hefyd hanneru. Mae hyn yn meddwl fod fy rhagdybiaeth yn cywir ac fod yr gwrthiant yn dyblu os ydych yn dyblu hyd y wifren. Fe wnaeth yr arbrawf mynd yn dda iawn wnaeth fi a fy partner troi’r pac pwer mlaen a bant cyn iddo twymo lan rhan fwyaf or amser. Ond wnaeth y wifren twymo ychydig weithiau a dyna pam dwin cedu fod fy graffiau ddim yn hollol syth. Rydw i’n credu os allaf gwneud yr arbrawf eto fe fyddaf yn gwneud yn siwr fod y wifren ddim yn cael siawns i twymo felly fe fyddaf yn defnyddio y ffan batri trwyr arbrawf i gyd. Hefyd gallaf gwellar arbrawf trwy gadael ir wifren cael yr un amser i oeri lawr pob tro rhwng pob arbrawf fel bod pob arbrawf yn dechrau bant ar yr yn tymheredd.
Cyfeiliornad canranol (% error)
Cyfeiliornad canranol yw ffordd o gweithio allan pa mor tebygol yw e o gael darlleniad wahanol mewn arbrawf neu pa mor dibynadwy yw y canlyniadau.
Dyma cyfeiliornad canranol y cerrynt ar gyfer yr arbrawf yma.
Gwahaniaeth mwyaf yn y cerrynt= 0.0 I
Cyfeiliornad canranol= (0.0÷0.49) x 100= 0%
Gwahaniaeth mwyaf yn y cerrynt= 0.0 I
Cyfeilirnad canranol= (0.0÷0.30) x 100= 0%
Gwahaniaeth mwyaf yn y cerrynt = 0.0 I
Cyfeiliornad canranol= (0.0÷0.20) x 100= 0%
Gwahaniaeth mwyaf yn y cerrynt = 0.0 I
Cyfeiliornad canranol= (0.0÷0.15) x 100= 0%
Gwahaniaeth mwyaf yn y cerrynt = 0.0 I
Cyfeiliornad canranol= (0.0÷0.12) x 100= 0%
Mae’r ffaith bod cyfeiliornad canranol pob hyd am y cerrynt yn meddwl fod pob cnlyniad yn dibynadwy ac fod yna 0% siawns o chael canlyniad wahanol.
Llyfryddiaeth
- Gwybodaeth am George Ohm o “Dictionary of scince” gan C Stockley, C Oxlade a J Wertheim.
-
Diagram o electronau yn mynd trwy gwifren a beth sy’n effeithio ar gwrthiant o BBC Byte size “http://www.bbc.co.uk/education/revision/”
- Diagram o’r cylched o “Ffiseg y llyfr Adolygu”
-
Gwybodaeth eraill am George Ohm e.e y fformwla “http://ns.headroyce.org/~edavidoff/physics/ohm.html”
-
Gwybodaeth eraill o fy nodiadau dosbarth Ffiseg