Beth ydych chi’n ceisio darganfod?

Authors Avatar

Gwaith Cwrs                Medi’r 7fed, 2001

        Ymchwiliad Osmosis

1.  Beth ydych chi’n ceisio darganfod?

Rydym yn ceisio darganfod os ydy silindrau tatws yn ennill mas mewn toddiant cryf ac yn colli mas mewn toddiant gwan.  Rydym am ffeindio allan pa effaith y mae newid crynodiad y doddiant halen yn ei gael ar fas y tatws.

2.  Rhestrwch y ffactorau sy’n effeithio ar eich ymchwiliad.

  • Offer.
  • Crynodiad y toddiant halen.
  • Tymheredd.
  • Amser
  • Arwynebedd y tatws.    

3.  Pa ffactor ydych chi’n mynd i newid?

Bwriadwn i newid crynodiad y toddiant halen.

4.  Sut byddwch yn gwneud eich prawf yn deg?

I sicrhau prawf teg, byddwn yn cadw’r un offer, yr un tymheredd, yr un amser ac yn cadw’r un arwynebedd ar bob tatws.

5.  Beth ydych yn meddwl bydd yn digwydd?

Wrth rhoi’r tatws mewn toddiant halen gwan-hypotonic, dywedwn bydd mas y tatws yn cynyddu oherwydd bydd y dwr yn symud o ardal crynodedig i ardal llai crynodedig.  Ar y llaw arall, wrth rhoi’r tatws mewn toddiant halen cryf-hypertonic, rydym yn meddwl bydd mas y tatws yn lleihau wrth i’r dwr symud allan i ardal llai crynodedig.

6. Esboniwch eich ddamcaniaeth trwy defnyddio gwybodaeth a ddysgoch yn eich gwersi gwyddoniaeth.

        Math penodol o drylediad yw Osmosis.  Trylediad yw molecylau yn symud o ardaloedd grynodiad uchel i ardaloedd grynodiad isel tan bod eu grynodiadau’n gyson.  Mae Osmosis yn digwydd pan fydd tyllau man mewn pilen sy’n gadael i ddwr llifo trwyddo ond yn rhwystro molecylau mwy fel siwgr.  Gelwir pilen fel hyn yn lledathraidd.  Wrth cymryd yr enghraifft o’r arbrawf gyda pilen lledathraidd, molecylau siwgr ac Osmosis, gallwn cadarnhau yn union beth yw Osmosis.  Mae pilen lledathraidd yn cael ei chlymu wrth diwb ac yna ei lenwi gyda toddiant siwgr cryf.  Mae’r bilen yn caelei osod mewn toddiant siwgr gwan ac mae’r hylif yn dechrau i codi fyny’rtiwb.  Mae’r hylif yn codi oherwydd  bod molecylau dwr yn tryledi trwy’r bilen o’r toddiant gwan i’r cryf.  Ni all molecylau siwgr dryledu fel hyn achos eu bod nhw’n rhy fawr i lifo trwy’r bilen.

Join now!

        Pan fydd pilen lledathraidd yn gwahanu toddiant gwan oddi wrth toddiant cryf, mae dwr pob amser yn llifo o’r toddiant gwan i’r toddiant cryf.  Osmosis yw’r trylediad dwr hyn.  Trwy Osmosis y mae dwr yn symud o gell i gell mewn planhigion.  Mae cellbilen cell planhigyn yn lledathraidd.  Felly mae Osmosis yn cymryd lle.  Gallwn hefyd dangos bod Osmosis yn cymeryd lle mewn meinwe byw drwy arbrofi ar daten e.e mewn ddisgl petri A mae taten wedi’i ferwi yn eistedd mewn ddwr, gyda halen ar y top.  Yn ddisgl petri B,mae taten heb ei ferwi yn eistedd mewn dwr hefyd ...

This is a preview of the whole essay