Mae’r diagram uchod yn dangos symudiad y molecylau o dwr os yw hyddodiant gyda crynodiad uchel o halen yn cael ei ddefnyddio.
Os yw’r crynodiad tu fewn i gell-nodd cell planhigyn a’r crynodiad tu fâs i’r gell yn hafal, mae’r pwynt ecwilibriwm yn cael ei chyraedd. Dyma pryd yr un nifer dwr yn symud mewn a mâs o’r gell-nodd.
Mae’r diagram ar y tudalen nesaf yn ddangos y pwynt ecwilibriwm, pryd un nufer o dwr yn symud mewn neu mâs o’r gell-nodd.
Ffactorau
Newidyn Mewnbwn (ffactorau annibynnol)
- Bydd angen newid crynodiad yr hydoddiant halen yn unig
Newidyn Allbwn (ffactorau dibynnol)
- Fyddwn yn mesur mâs y tatws cyn ei rhoi yn yr hydoddiant
- Fyddwn yn mesur mâs y tatws ar ôl tynnu o’r hydoddiant
- Fyddwn yn cadw nifer y disgiau tatws yn cyson
- Fyddwn yn defnyddio’r un offer trwy’r arbrawf
Newidyn Rheoledig
- Fydd rhaid cadw’r tymheredd ystafell yn gyson am yr arbrawf i gyd
- Fydd rhaid defnyddio’r un cyfaint o hydoddiant (40cm )
- Fydd rhaid cadw maint y tatws yr un peth (0.3cm)
- Fydd rhaid mesur y cyfaint o amser mae’r tatws yn yr hydoddiant am (2 awr)
- Fydd rhaid defnyddio’r un cynhwysedd
- Fydd rhaid sychu’r tatws am yr un cyfaint o amser (5 eiliad)
Offer
- Tatws
- Bicer
- Disgl Petri
- Clorian
- Stop Cloc
- Hydoddiant Halen
- Scalpal
- Cyllell
- Borer
- Dwr Distyll
- Teilsen Wên
- Papur Sychu
- Sticeri
Arbrawf Rhagarweiniol
Dyma’r canlyniadau o’r arbrawf rhagarweiniol :
Tabl Canlyniadau
Tabl Cyfartaledd
Camau Diogelwch
- Fod yn ofalus gyda’r cyllel wrth torri’r tatws
- Glanhau unrhyw arllwysiadau sy’n digwydd
- Gwisgo sbectol diogelwch
- Dilyn rheolau Trydan / Tân
Dull
- Casglu’r offer i gyd at ei gilydd
- Labelu’r disglau petri gyda’r crynodiadau wahanol o’r hydoddiant (0.05/0.10/0.15/0.20/0.25)
- Glanhau’r silindrau mesur, gan defnyddio dwr distyll
- Mesur 40cm o’r hydoddiant efo silindr mesur
- Arllwys y 40cm o hydoddiant i mewn i disgl petri
- Glanhau’r silindr mesur gyda dwr distyll
- Ail-adrodd camau 4,5 a 6 gyda gweddill y disglau petri
- Defnyddio’r borer i torri darn o tatws
- Defnyddio’r cyllell i torri 15 disg bach o tatws gan cadw maint y disgiau yn gyson
- Sychu’r tatws gyda papur glas
- Pwyso’r tatws gan nodi’r pwysau ar y tabl
- Gosod 3 disgen tatws ym mhob disgl petri
- Dechrau’r stop cloc
- Aros am 2 awr
- Tynnu’r tatws allan ag ei rhoi ar papur glas
- Sychu’r tatws i gyd am yr un cyfnod o amser (5 eiliad)
- Pwyso’r tatws ac nodi’r pwysau yn y tabl
- Glanhau’r offer
- Rhoi’r offer i cadw
Dadansoddi
Wrth edrych ar y graff, gallwn weld y perthynas rhwng crynodiad yr hydoddiant a mâs y tatws. Wrth i crynodiad y hydoddiant cynyddu, mae mâs y tatws yn lleihau. Mae hyn yn digwydd oherwydd mae mwy o ddwr yng nghell-nodd y celloedd . Felly mae’r proses Osmosis yn achosi i’r dwr tu fewn i gell-nodd y cell symud allan o’r gell i lle mae crynodiad isel o dwr, sef tu fas i’r gell.
Hefyd gwelwn, wrth i crynodiad yr hydoddiant lleihau, mae mâs y tatws yn cynyddu, mae hyn yn digwydd oherwydd mae yna mwy o dwr tu fas i’r gell nag sydd yn cell-nodd y cell, mae Osmosis yn achosi i’r dwr symud i mewn i’r gell-nodd sydd yn cynyddu mâs y cell.
Wrth edrych ar y llinell ffit orau, gwelwn fod y pwynt ecwilibriwm tua 0.135
Nid yw’r crynodiad hyn yn achosi i’r gell ennill neu colli mâs,felly mae’r crynodiad hon yn hafal i’r crynodiad tu fewn i gell-nodd y celloedd.
Credai’i fod fy canlyniadau yn cefnogi fy rhagfynegiad.
Gwerthusiad
Credaf i fod yr arbrawf yn llwyddiannus oherwydd mae’r arbrawf wedi dilyn beth mae fy rhagfynegiad yn ei ddweud.
Roedd fy canlyniadau yn gywir, nid oedd amrediad y canlyniadau yn fawr
Doedd dim canlyniadau afreolaidd, roedd fy canlyniadau i gyd yn dilyn yr un patrwm, h.y colli mâs mewn crynodiad uchel, ac ennil mâs mewn crynodiad isel.
Pethau Gallwn Wedi Wneud Yn Wahanol
Gallwn wedi defnyddio sychwr gwallt yn lle sychu’r tatws wrth law. Gallwn hefyd wedi air-dymheru i cadw tymheredd yr ystafell yn gyson, roedd tymheredd yr ystafell yn newid oherwydd dechreuwyd yr arbrawf yn y bore, pryd mae’r aer yn oer ac gorffenwyd yr arbawf dechrau’r prynhawn, pryd mae’r oer wedi ei twymo gan gwres yr haul.
Gallwn wedi defnyddio mwy o disgiau tatws mewn llawer mwy o disglau petri. Hefyd gallwn fod wedi mesur crynodiad yr hydoddiant i 3 neu 4 pwynt degol, er mwyn cael crynodiad agosach at crynodiad tu fewn i gell-nodd y celloedd tatws.
Gallwn fod wedi mesur hyd y disgiau mwy manwl, a hefyd mesur mâs y disgiau yn mwy manwl. Gallwn wedi lleihau amrediad y crynodiad yn fwy.