I fabi gael ei eni gyda Ffibrosis Codennog ma’n rhaid i’r ddau riant fod yn cludo’r genyndiffygiol. Mae’r diagram yn dangos sut mae Ffibrosis Codennog yn cael ei etifeddu. Pan mae’r ddau riant yn cludo’r genyn diffygiol mae gan pob plenty siwans o 1 mewn 4 o gael Ffibrosis Codennog, siwns 2 mewn 4 o fod yn gludwr a siawns o 1 mwen 4 o beidio achel y genyn diffygiol.
Mam Tad
Cludwr Cludwr
Sut mae Ffibrosis Codennog yn cael ei adnabod?
Mae Ffibrosis Codennog yn cael ei adnabod fwy fwy y dyddiau hyn drwy sgrinio, ond mae rhai babanod a phlant hŷn ( a hyd yn oed rhai oedolion) yn cael eu darganfod yn dilyn salwch anesboniadwy.
Mae tri math o sgrinio ar gyfer Ffibrosis Codennog :
Sgrinio babanod newydd-anedig,
Profi am gludwyr
Sgrinio cyn geni.
Sgrinio babanod newydd-anedig
Yn dilyn ymgyrch gan yr Ymddiredolaeth Ffibrosis Codennog, fe argymhellodd fod pob babi yn cael ei sgrinio am Ffibrosis Codennog. Mae hyn nawr yn cael ei weithredu dros y Daeyrnas Unedig i gyd.
Pigiad bychan yn sawdl y babi yw’r prawf gwaed. Y cyntaf y bydd y clefyd yn cael ei adnabod y cyntaf y gall triniaeth addas ddechrau.
Profi am gludwyr
Gall prawf golch–ceg syml ddewud os ydych yn gludwr a’i peidio. Mae hyn yn bwysig os os gennych berthynas sy’n dioddef o’r cyflwr neu os yw’n gludwr. Mae’n bwysig iawn i gael y prawf os yw eich partner yn gludwr.
Sgrinio cyn geni.
Mae’r prawf yn cael ei ddefnyddio yn gynnar yn ystod beichiogrwydd i ddewud os oes Ffibrosis Codennog ar y babi. Fel arfer mae’r prawf yn cael ei gynnig i famau sy’n cael eu hadnabod o fod gyda risg uchel o gael plentyn gyda Ffibrosis Codennog.
Profion eraill
Prawf arall am Ffibrosis Codennog yw y prawf chwys ( mae gan bobl sy’n dioddef o’r cyflwr mwy o halen yn eu chwys ) neu brawf genetig ble mae sampl yn cael ei gymeryd o du mewn i’r foch i brofi am y genyn diffygiol.
Ffisiotherapi
Ffisiotherapi yw ffordd o glirio y mwcws gludiog a thrwchus o’r ysgyfaint. Mae rhieni yn cael eu addysgu ar sut i wneud hyn ar gyfer eu plentyn mewn clinic Ffibosis Codennog. Gall oeolin ddysgu sut i wneud hyn iddynt eu hunain.
Pam fod ffisiotherapi yn bwysig?
Mae ffisiotherapi ar yr ysgyfaint yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn atal y mwcws gludiog rhag ceulo’r tiwbiau. Mae hyn yn helpu i afiechyd gael ei rwystro ac i atal niwed i’r ysgyfaint.
Mae gwahanol fathau o ffisiotherapi ar gael ac mae hyd y sesiynnau yn amrywio. Dylid dechrau ar y ffisiotherapi o’r adeg y mae’r cyflwr yn cael ei ddarganfod.
Maethiad
Mewn llawer o bobl sy’n dioddef o Ffibrosis Codennog mae’r siannelau bychain sy’n cludo y suddoedd treulio yn cael eu hatal gan fwcws gludiog. Mae ensymau yn cynyddu yn y pancreas sy’n cael ei niweidio dros gyfnod o amser.
Mae effaith Ffibrosis Codennog ar y pancreas yn amrywio o berson i berson gyda 5 i 10% o bobl gyda’r cyflwr yn cael peth defnydd o’u pancreas. Mae’n rhaid i ran fwyaf gymeryd meddiginiaeth i helpu treulio bwyd.
Mae diet addas yn bwysig iawn i bobl gyda Ffibrosis Codennog. Gall pwysau corff da helpu i ymladd yn erbyn llid ar yr ysgyfaint a helpu’r corff petaent yn colli pwysau yn ystod salwch.
Mae diet cywir mewn dioddefwyr yn uchel mewn caloriau ond mae faint yn amrywio yn dibynnu ar oedran o berson i berson.
Ymarfer corff
Mae ymarfer corff yn bwysig iawn fel rhan o driniaeth dioddefwyr. Mae annog ymarfer corff yn helpu gan ei fod yn atal dirywiad ac yn helpu gyda chryfder. Dylai plant sy’n dioddef gael eu hannog i wneud gymait o ymarfer corfforol ag sydd yn bosib- y math o ymarfer yw: rhedeg, nofio, pêl-droed a thenis – unrhyw ymarfer sy’n eich gwneud yn fyr eich anadl.