Mae rhai bobl yn symud i Gymru oherwydd bod prysiau tai mor drud. A i ddweud y gwir mae prysiau tai y dyddiau yma yn barbaraidd! Ond mae’r Saeson yn credu bod prysiau y tai yng Nghymru yn rhesymol tu hwnt. Mae hyn yn gallu denu lot o bobl yn enwedig Saeson i’r ardal. Yn enwedig yn gwlad yma fel Cymru, mae’r golygfeydd yn godidog iawn, gallwch gael ddistawrwydd os y dymunwch a byw mewn ardal cyfeillgar, lle mae pawb fel yn teulu mawr. Beth arall yr ydyn nhw eisiau!? Ond mae hwn yn gallu cael effaith ar y cymdeithas, oherwydd er engraifft, yn Trawsgoed, y pentref lle yr rwyf i yn byw, mae ffarm Iger yn cai lawr, ac ar yr un amser mae llawer o pobl wedi cael ei wneud yn ddi-waith yn barod. Roedd rhai o’r gweithwyr a bu’n rhentu tŷ ar y ffarm, yn rhaid symud allan. Pobl Saesneg sydd wedi symud yn ôl mewn i’r tai hynny. Mae hyn yn ffordd o boddi’r Cymry a’r iaith Cymraeg. Gwarthus yn fy marn i! Mae yna hefyd ddyn o Loegr wedi prynnu dwy dae enfawr yma ac yn cynllunio ei ail-osod gyda rhagor o dai. Ond pwy ydy’r dyn yma, does dim clem ganddo am hanes ein pentref, dim clem am hanes y bobl sy’n byw yma. Mae pawb yn gwybod pawb, ac yn siarad ein iaith, yn ceisio cadw’r iaith yn fyw. Pwy a wyr pa fath o bobl wneuth y cynllun yma denu. Mae angen rhyw fath o gyfraith ar hyn yn fy marn i, neu mae angen barn y pentref / cymdeithas cyn ddechrau unrhyw adeiladwaith, mae angen rheoli syniadau y pobl yma!
Mae yna hefyd rhai bobl yn prynnu tai yma, a’i ail-werthu yn syth i gael fwy o arian! Ystyriwch yr elw mae’r bobl hynny yn gwneud. Wrth gwrs mae prysiau tai rhan fwyaf o’r llefydd yn Lloegr yn llawer fwy na’r prysiau yma yng Nghymru, felly mae’r pobol o’r ardaloedd hynny yn disgwyl talu pris tua yr un faint a gwerth eu tŷ nhw am tŷ yn y wlad hyn, ond be fydd yn digwydd ar ôl i hynny ddigwydd tro ar ôl tro? Fe fydd y cymdeithasau fach wedi troi yn ardaloedd llawn pobl diethr, ond yn wath na hynny, troi yn ardaloedd saesneg, dim ond ychydig o gymraeg yn cael ei siarad. Ond dylai pob cyngor y cymdeithas fod a’r gallu i reoli faint o bobl sydd yn symud i mewn. Ydych chi’n cytuno? Credaf y dylai’r iaith fod yn ffactor pwysig wrth benderfynnu ddatblygiad economaidd ardal.
Heddiw mae busnes neu’r cyfraniad ir economi lleol mae’r mewnfudwyr yn dod gyda nhw, yn digwydd yn mwy aml wrth y dydd. Er engraifft mae llawer ohonynt yn dod a busnes ei hun gennynt, rhai yn busnesu fawr, lleill yn rhai fach, fel siop teuluol a.y.b, wrth gwrs mae hyn yn elw dda, ac yn ddelwedd positif i gael fwy o bobl i’r ardal. Ond serch hynny mae yna ochr negyddol i’r ddadl yma hefyd, boddi busnesu y Cymry! Mae hi’n anheg iawn ar rhai pobl sydd yn dibynnu ar ei busnes i fyw, a sydd yn siwr a fod cael cyflog eithaf isel.
Mae teulu’r Ruytsh yn esiampl dda o’r pwynt nesaf ac yr un olaf, sydd yn fy marn i yn un o’r rhoi pawysicaf rwyn mynd i godi. Roedden nhw hefyd ar y fideo ‘Croeso i Gymru.’ Teulu saesneg iawn ydyn nhw, wedi symud i Cribyn am ffordd well o fyw. Mae ganddynt pedwar o blant. Tri ohonyn yn mynychu yr ysgol gynradd lleol, a un yn mynychu Ysgol Uwchradd Llambed. Mae hi’n dweud yn y fideo bod y plant a’r gŵr yn parod iawn i ddysgu’r iaith, ond bod y wraig yn llai parod. Mae’n amlwg bod y teulu yn gwneud ymdrech mawr i gael ei dderbyn yn y cymuned. Ond, mae lot o’r season sydd wedi mewnfudo yma, ddim yn gwneud ddim ymdrech o gwbwl. Credaf bod hynnu yn anheg iawn. Beth yn y byd yr ydyn yn gwneud yn y wlad yma heb hyd yn oed rhoi ychydig o ymdrech i fewn, rhan bwysig o’n wlad ydy ein iaith, ac yn fy marn i heb amheuaith y dylai pob un yn ein wlad siarad ein iaith. Eto mae angen cadw ein iaith yn fyw. Ond serch hynny wrth gwrs yn bendat nid oes modd gorfodi’r unrhyw un i feistroli iaith , ond fel pob iaith mae modd eu gorfodi yn gymdeithasol. Wedi’r cwbwl, mae’r Cymry sydd yn mynd i wlad arall yn siarad iaith y wlad honno am nad yw’r brodorion yn siarad Cymraeg a Saesneg nol iddynt. Dylai’r rhai nad ydynt yn fodlon dysgu’r iaith neu ei ddefnyddio fod o dan anfantais. Dylid troi fantol yn erbyn y di-Gymraeg mewn ardal felly, a ffafrio’r rhai Cymraeg eu iaith. Neu syniad arall yw gosod telerau ffafriol fydd yn annog pobl i’w dysgu a creu amgylchiadau sy’n ei gwneud yn atyniadol neu yn angenrheidiol iddynt ddysgu. Dylid annog a datgan beth yw’r manteision o ddysgu’r iaith.
I gloi fy marn i am y mater rwyf wedi trafod am heno, hoffwn ddiolch am eich gwrandawiad a atgoffa pawb, yn ardaloedd fel hyn yma yng nghefn gwlad Cymru mae yna traddodiadau, hanes a iaith cryf yn bodoli sydd angen heb os nad oni bai cael ei gadw yn fyw!!