• Join over 1.2 million students every month
  • Accelerate your learning by 29%
  • Unlimited access from just £6.99 per month

Dyddiadur Siwan

Extracts from this document...

Introduction

Dyddiadur Siwan Glamai 1230 Gofynnais i Wilym ddyfod ataf heno i drefnu priodas ei ferch a Dafydd fy mab. Bydd y penderfyniad yna yn newid gweddill fy oes. Pam roedd rhywbeth mor wael wedi digwydd ar noson mor hyfryd, gyda golau'r lleuad fawr yn "treiddio drwy'r ffenestri"? "Fynna' i ddim cysgu" heno oherwydd bod geiriau Gwilym a Llywelyn yn cylchdroi yn fy mhen. Roedd rhaid imi ryddhau fy hun o'r faich brenhiniaethol am ychydig oriau, oherwydd teimlaf fod pwysau'r byd ar fy ysgwyddau tra fy mod yn y ddawns a Llywelyn "oddi / cartre". Ymddihatrais o'm wisg arian a'm coron gyda chymorth Alis yn syth ar �l cyrraedd fy ystafell wely. Yn "drom ar fy mhen" oedd fy nghoron a llesteiriodd fy ngwisg fawr i rhag ddawnsio. Ar �l dadwisgo torrodd y cwmwl du a fu'n hofran uwch fy mhen trwy gydol y noswaith a chafodd fy ngyfrifoldebau eu rhyddhau. Tra'n sgwrsio ag Alis, edrychais ymlaen yn fawr at ddawnsio ym mhriodas Dafydd ac Isabella. Bydd yn ddiwrnod arbennig ac yn coroni fy holl ymdrechion caled i sicrhau bod Dafydd yn etifeddu'r goron. Fy unig bryder yw bod merch Gwilym yn rhy ifanc i roi genedigaeth i etifedd yn fuan. Mae gan Ruffydd eisioes feibion, ond nid wyf yn fodlon i fab yr odderch Tangwystl etifeddu'r cyfan, hyd yn oed os yw e'n Gymro. Gobeithiaf yn wir nid yw digwyddiadau heno yn mynd i beryglu'r briodas. ...read more.

Middle

Yr arwydd cyntaf o Llywelyn oedd pan glywodd Wilym pedolau meirch yn y pellter er 'chlywais i ddim. A chyn hir dechreuodd yr ofn dyfu fel chwynnyn y tu mewn i'm stumog. Wrth i gwmwl groesi'r lleuad croesodd cwmwl o bryder ar draws fy meddwl. Yna clywon ni gyfarth ci mawr o'r porth yr oeddwn i'n siwr oedd Gelert, bytheiad Llywelyn. Roedd "rhywbeth ar droed". Nid oedd gan Wilym "cleddyf na chyllell na dim". Nid oedd unrhyw ffordd o ddianc. Swniodd utgorn mawr i gyhoeddi bod y T'wysog yn agosau. Ymunodd Gwilym a mi a thynnodd llenni'r gwely ar gau. Tarannodd Llywelyn trwy'r drws "a milwyr arfog gydag ef." Roedd gwenwyn Huberth rhwng ddwy glust Llywelyn. Roedd ei lid i weld yn glir yn ei wyneb coch a'i glywed yn ei lais chwerw. Dywedodd Llywelyn ei fod yn mynd i gymryd einioes Gwilym. Os ydy Llywelyn yn gwneud hyn "bydd y ffordd yn agored i Hubert ymosod ar / Wynedd" ac yn fwy pwysig yn ymosod ar deyrnas Dafydd. Ceisiais ymresymu gyda Llywelyn i achub einioes Gwilym, ond doedd dim gobaith gwneud hyn oherwydd nid oedd ef yn meddwl yn rhesymol ac roedd ei urddas mewn darnau. Fe aeth Llywelyn i butain felly nid yw'n unrhyw well na finnau. Rhedais i Wilym mewn panig ond cefais fy nharo i'r llawr gan Llywelyn. Nawr dwi wedi cael fy ngharcharu yn llofft y twr sy'n lle mor unig a llwm. ...read more.

Conclusion

Y bore 'ma, dywedodd Llywelyn rhywbeth wrthais i ni ddywedodd erioed o'r blaen - ei fod yn fy ngharu.Roeddwn i wedi syfrdanu. Dyma'r tro cyntaf "Mewn ugain mlynedd o fyw gyda'n gilydd" i fi wybod hyn. Gwleidyddiaeth yn unig oedd y cwlwm rhyngom ac er roedd clywed ei eiriau yn gwneud ei reswm dros grogi Gwilym yn gliriach, nid oedd yn newid fy atgasedd tuag ato. Dydw i ddim yn barod i anghofio'r ffordd y gwnaeth Llywelyn ddiraddio Gwilym trwy roi "iddo farwolaeth dihiryn a lleidr / pen ffordd." Cytunais i ddychwelyd yn �l i'm gwr ar yr amod yr oedd yn derbyn fy ewyllys dda yn unig. Gwilym oedd fy unig gariad ac nid yw unrhywun arall yn mynd i gymryd ei le. Gobeithiaf fod Llywelyn yn deall hyn oherwydd er mwyn dyfodol fy mab yn unig dwi wedi dychwelyd. Ond nid wyf eisiau maddeuant Llywelyn. Ni fyddaf yn derbyn tosturi gan ragrithwr. Er yr ydwyf yn fodlon gwario gweddill fy oes a'm gwr, ar ol fy marwolaeth dwi'n "torri pob cwlwm". Dwi am bydru "heb neb" yn y fynwent ger eglwys Catrin a roi diolch i Sant Ffransis am helpu Gwilym trwy roi'r tir iddo. "Mi wela'i gwymp y cyfaill Hubert de Burgh". Mae hyn yn sicr yn fy meddwl. Ail-wisgais y goron ar fy mhen a theimlais y faich arnaf unwaith eto. Cafodd digwyddiadau y flwyddyn diwethaf eu gwthio i gefn fy meddwl a chwympais yn �l i'm r�l yn hawdd, fel petai yr oeddwn dim ond wedi bod i gysgu am y flwyddyn diwethaf. Frances Samuel 11L ...read more.

The above preview is unformatted text

This student written piece of work is one of many that can be found in our GCSE Welsh section.

Found what you're looking for?

  • Start learning 29% faster today
  • 150,000+ documents available
  • Just £6.99 a month

Not the one? Search for your essay title...
  • Join over 1.2 million students every month
  • Accelerate your learning by 29%
  • Unlimited access from just £6.99 per month

See related essaysSee related essays

Related GCSE Welsh essays

  1. Gronw Cerddaf fy ngham cyntaf a chollaf fy anadl. Mor ...

    Ond gyda hi nid oes yn ddiogel ond y funud hon, byw yn y foment , caru perygl a mentra . Estyna hi wydryn o win, dyweda mae hen yw'r gwin wnaeth hi ei yfed y noson y crewyd hi gan y dewin Gwydion ac addawodd idd'i hun na fyddai

  2. Ym mha ffyrdd yr effeithiodd yr ail rhyfel byd ar fywydau pobl yn Nghymru ...

    "I fenywod ar dasg bennaf o fagu telu ac edrych ar ol y ty gallai'r rhyfel fod yn brofiad unig."Cafodd y ffynhonnell hyn ei ysgrifennu gan Caroline Lange: "Keep smiling through",sy llyfr hanes sy wedi ysgrifennu ar hanes menywod yn ystod y rhyfel.

  1. Traethawd 'Pam Fi Duw'

    Mae rhieni Rhys yn hollol wahanol i rhieni Llinos su'n hollol wahanol i fam Sharon.

  2. Pobl unig a ryfedd yw prif gymeriad pob stori yn ein cyfrol

    Mae'r stori yn ei gwneud hi'n amlwg or dechrau ei bod hi'n ddynes unig iawn. Yna mae'r ffon yn canu, 'Mae hi'n petruso wrth gysidro pwy ar y ddear sy'n galw'. Dangosa hyn nad ydi hi wedi arfer gyda phobl yn ei ffonio.

  1. Ai ar yr Argwydd Penrhyn oedd y bai am streic fawr y Penrhyn, 1900-1903, ...

    Ond ar y llaw arall galai'r cynffonwyr fod yn gorddweud rhai pethau er mwyn cael cymorth gan y milwyr. Felly ni allwn ddibynu'n llwyr ar y ffynhonell hon. Cafodd fynhonel C4 ei ysgrifennu gan A.A. Ruck, def prif gwnstabl Sir Gaernarfon.

  2. "We are at war with Germany" - dyfyniad Neville Chamberlain Medi 3ydd 1939. Dechreuodd ...

    ac yn swyddogol ond efallai nad yw e'n ddefnyddiol i ffeindio'r wir profiad y plant achos efallai roeddynt wedi eu gorfodi i wenu ac ymddwyn yn hapus jest i roi neges positif i'r rhieni. Mae'r ffynhonnell yma, (1c) hefyd yn ddefnyddiol i weld y math o neges roedd rhieni yn cael gael gan y llywodraeth.

  1. Ym mha fodd yr oedd y chwedegau yng Nghymru yn gyfnod o newid diwyllianol ...

    'laidback' ac yn ysmygu cyffuriau roedd hyd yn oed rhai yn cysgu yn gardd blaen J.R.R Tolkien i dangos eu parch ato. Yn ystod yr 1960au roedd cerddoriaeth yn rhan bwysig i chymdeithas pobl Prydain ac Cymru fel ei bandiau enwog The Beatles ac The Rolling Stones.

  2. Rydym yn gallu gweld roedd hen draddodiad o drais Yng Nghymru cyn 1839.

    Mae Daniel Williams a oedd yn byw ger Milford yn 1828 yn s�n am drais gwahanol i'r dystiolaeth arall. Mae'r trais yma yn erbyn pobl yn lle eiddo. Mae o'n s�n am ei brofiad efo'r 'Ceffyl Pren'. Roedd hyn yn ble mae unigolion sydd wedi cythruddo y gymdeithas yn cael eu cario o gwmpas ar geffyl pren a'u bychanu.

  • Over 160,000 pieces
    of student written work
  • Annotated by
    experienced teachers
  • Ideas and feedback to
    improve your own work