14 mlynnedd yn wneud gwaith cachi. Oh dwi wedi trafeili, ym mhobman, on nid fel gwyliau ydy nhw. Mae nhw fel hyn, ar to trwy’r nos, a glanhau trwy’r dydd. Gad i mi weld, ble dwi wedi bod.....Twrci, Belize, Tunisia, yr Aifft, y Ffindir, Ffrainc, Almaen, America, Iwerddon, Columbia, de Affrica, Cheina, a nawr yn blydy Palestein....a’r Sudan....gad i ni anghofio’r Sudan am nawr. Am byth gobeithio. Beth wnes i yn yr uffernol llefydd na, pethau fel hyn yn gwylio’r golau’r stryd. Yn belize, gweithio yn y ‘jungle’, gwaith annodd iawn. Yn yr Aifft a Tunisia, gweithio yn y blydy anialwch. Ffindir, yn y tywydd oer. Oer IAWN! Ffrainc ac Almean yn dysgu. America’r un peth. Ymarferion yna hefyd. Iwerddon a Columbia yn ‘patroling’, de Affrica yn cadw’r heddwch i’r U.N., a Cheina ar gwyliau. Un gwyliau yn fy holl bywyd.
Yr unig gobaith sydd gen i o ddod allan yw mewn 8 mlynnedd. Ond bydd gen i pensiwn great yna, a £45,000 yn fy llaw. Beth galla i brynnu am yr arian hynna? Ty newydd? Car? Beth am ‘consiance’? Efallai byddai hynny’n helpu. Efallai byddaf yn gallu byw hefo fy hyn wedyn. Ond roedd rhaid, roedd hi yn gallu rhoi fi lan. Gallu eich cael mi di dal. Roedd rhaid. Ond roedd ffyrdd arall allan ohony. Gallaf wedi eu dal a’u clymu hi lan nes i pobl eu ddarganfod. Gadael hi i fynd a gwneud ‘runner.’ Neu eu saethu. Merch 10 mlwydd oed. A beth wnes i? Blydy hell. Ro ni ar y run yn y Sudan am 9 diwrnod, nes cyrraedd yr Aifft. Roedd pawb allan yn chwilio. A finnau yn rhedeg i ffwrdd.....plentyn 10 mlwydd oed....
Does dim yn digwydd unwaith eto. Yn un o ardaloedd mwyaf ffrwydradig yn y byd, ac am blydy 8 noson, does dim o gwbl wedi digwydd. Dim o gwbl. Neb wedi dod, neb wedi ceisio ein saethu, neb wedi sefyll o dan y golau’r styd. Gallaf mynd i gysgu. Does dim i protectio beth bynnag. Just cadw’r Palesteiniaid yr ochr arall yr adeilad hwn.
Dyna’r dynion yn siarad eto. Mae hawl gyda nhw i siarad, ond dim ni. Betio bod nhw’n yfed. Hoffwn i gael peth. Ond nid oes hawl, efallai byddaf yn cwympo i gysgu new rhywbeth, ac yr un moment mae rhywbeth yn digwydd, byddaf i’n cysgu ac yn cael eu seathu. Effallai dyna dylsai fy ngosb fod am y Sudan. “Eye for an eye,” fel mae nhw’n dweud.
“Mae rhywbeth draw fynna”
“Ble”
“Ar y stryd”
“Rwy’n methu gweld dim”
Beth yr uffern mae’r boio’n siarad am, does neb neu dim un man i weld.
“Ble?”
“I’r chwith, gwaelod y stryd o dan y golau”
“Rwy’n gweld”
Mae dyn yna, dyn tal, ac mae gynno fo dryll. Beth wna i? Saethu ato? Na, rwy’n methu, dwi ddim yn credu fy mod yn gallu tynnu’r ‘trigger’ mwy. Cael un o’r dynion i wneud e? Just cadw golwg? Efallai bydd ef yn mynd. Gad i ni weld. Mae neb arall o’i amgylch. Dwi ddim yn credu bod ymosodiad yn mynd i ddigwydd. Gobeithio na beth bynnag. Mae 3 milwr arall yma ond 4 yn erbyn ymosod mawr? Dim siawns. Yn enwedig a un yn ofnus o’r ‘trigger’. Mae’r dyn dal o dan y golau’r stryd. Beth mae o’n wneud? Dim symudiadau o gwbl. Ond mae’n anlwg bod dryll gan e.
“Dyn arall!!”
“BLE?!”
“Yn cerdded tuag at y golau”
“Rwy’n gweld. Be’ ni mynd i wneud?”
“Aros peth amser, efallai byddyn nhw’n mynd.”
Dau o ddynion. Mewn 10 munud bydd 20 ohonynt. Os daw un arall rhaid i ni ymosod yn gynataf. Nydd blydy tanks gyda nhw nesaf.
BANG!
Beth uffern oedd hwnna? Mae rhywun wedi saethu? Mae’r dyn yn rhedeg o’r golau ac yn saethu atom.
“Saethwch nol!”
“Na, aroswch”
“NAWR RHAID SAETHU!”
Mae pawb wedi dechrau saethu, mae’r stryd wedi goleuo efo’r ‘muzzle flashes’ yma. Gwelaf popeth, mae bron 10 o ddynion ar y stryd, lle roedd y dywyllwch. Sut wnaeth nhw cyrraedd yno. Dim ots am hynny, mae nhw’n ymosod. Mae un ohonynt wedi cwympo, wedi eu anafu. Pwy wnaeth eu saethu? Nid y fi, dwi heb tynnu’r ‘trigger’ eto. Rhaid mun. Nhw neu fi.....Mae plentyn yna. Mae pobl yn dod o bob man. Yn dechrau saethu atom yn syth.
“3 o’r chwith!”
“Rwy’n eu gweld”
“Saetha nhw te!”
Mae’n rhaid, mae pawb yn dibynnu arnaf. Ond.....ARGHH!
“BETH SYDD WEDI DIGWYDD?”
“Dwi di...saethu.”
“Beth?! Ble?”
“Ys..ys....ysgwydd”
“Rwy’n dod nawr.”
Mae popeth mor wyn. Y to. Y bobl. Y stryd. Mae fel golau enfawr ar y stryd. Ac rwy’n cwympo mewn iddi. Mae popeth yn mynd yn wyn. Dyma yw fy nhgosb am y Sudan rwy’n credu. Cael i saethu oherwydd rwy’n rhy ofnus i saethu.