Data Cynradd
Ddarum gasgly data mewn dwy wahanol ffordd. Y ffordd cyntaf o hel y gwybodaeth oedd drwy wneud asesiad amgylcheddol o’r melinau gwynt ac o Wylfa. Drwy wneud yr asesiad amgylcheddol cefais wybodaeth am rhai pethau, er engraifft effaith gweledol, llygredd ac hyd yn oed perygl I bobl a anifeiliaid gwyllt. Ar ôl gwneud y asesiad hwn darganfyddais fod y ddau safle yn eitha tebyg, ond yn fy marn I mae egni sy’n cael ei gynhyrchu gan melinau gwynt yn fwy effeithiol. Dywedaf hyn oherwydd nid ydy melinau gwynt yn creu llygredd a hefyd mae’r egni yn lan ac yn adnewyddol. Rwyf yn erbyn pwer niwclear oherwydd mae gorsafoedd niwclear yn creu llawer o lygredd sydd yn affeithio’r amgylchedd a’r bywyd gwyllt yn ofnadwy.
Ffordd arall y gwnes gasglu gwybodaeth oedd drwy greu holiadur. Creuwyd y holiadur yn y dosbarth drwy gael gwahanol gwestiynau ac yna gwneud holiadur allan o’r cwestiynnau a gasglwyd. Ar ôl cael yr holiaduron yn ôl, roeddem wedyn yn gwybod beth roedd y bobl leol yn feddwl or syniad o gael melinau gwynt ar yr ynys. Ar ôl cael y wybodaeth yn ôl rwyf wedi darganfod bod rhanfwyaf o’r bobl oblaid y melinau gwynt oherwydd eu bont yn creu egni glan, egni adnewyddol ac yn creu ynni rhad.
Data Eilaidd
Mae’r llun hwn yn dangos lleoliadau pob melinin wynt ar fferm wynt Trysglwyn. Yn ôl y map mae yna 13 o felinau gwynt yno, mae hy6n yn dweud wrthyf bod llawer o ynni gwynt yn cael ei gynhyerchu ar y fferm wynt hon.
Mae’r map yma yn dangos lleoliad fferm wynt trysglwyn ar yr ynys, mae hefyd yn dangos ble mae Llyn Alaw a gorsaf bwer Wylfa. Fel yr ydych yn gweld mae Trysglwyn a Llyn Alaw yn agos at ei gilydd sydd yn dweud wrthyf bod rhan yma or ynys yn uchel, felly yn fan hyn mae mwyaf o wynt I gael.
Ffynhonell: www.natwindpower.co.uk
Ar ôl darllen y graff uchod rwyf wedi darganfod bod y gwybodaeth a gasglwyd wedi dod o pob man ar hyd Sir Fôn. Mae hyn yn dangos bod llawer iawn o bobl gyda gwahanol farn am melinau gwynt.
Ar ôl darllen y graff hwn rwyf wedi darganfod mai benywod oedd rhan fwyaf or pobl a lenwodd y holiaduron. Mae hyn yn dangos bod benywod yn fwy parod I lenwi holiaduron.
Yn ôl y graff hwn roedd mwyafrif y pobl a lenwodd yr holiadur yn 16-24. Mae hyn yn dweud wrthyf bod ddaru mwyafrif or plant wedi llenwi yr holiadur I fewn ei hunain.
Mae’r graff hwn yn dangos bod mwyafrif y bobl yn meddwl weithiau am lygredd yn yr amgylchedd. Mae llawer hefyd yn meddwl yn aml am lygredd yn ein amgylchedd, a dim ond lleiafrif or bobl sydd byth yn meddwl am lygredd. Mae hyn yn dda, oherwydd mae hyn yn golygu bod pawb yn meddwl am lygredd yn ein amgylchedd.
Yn ôl y graff hwn y llygredd syn poeni y bobl leol fwyaf yw sbwriel a ceir. Mae’n dda gennyf weld hyn oherwydd mae pobl yn gallu gwella y problemau hyn. Mae hefyd yn dangos bod lleiafswm or bobl yn poeni am lygredd yn y môr.
Ar ôl gweld y graff hwn darganfyddais bod mwyafrif or bobl a lenwodd holiadur yn weithiau meddwl am broblem ynni’r byd. Mae hyn yn newyddion da oherwydd mae pobl yn meddwl am broblemaur byd.
Yn ôl y graff uchod mae mwyafrif y bobl yn gwybod ychidig am ynni gwynt. Mae dipyn go lew hefyd yn gwybod dipyn go lew am ynni gwynt, nid oes llawer yn gwybod lot am ynni gwynt.
Mae’r canlyniadau uchod yn dweud wrthyf bod mai y fferm wynt agosaf at rhan fwyaf or pobl a lenwodd holiadur oedd Amlwch. Ond hefyd mae llawer yn agos at Cemaes.
Yn ôl y canlyniadau uchod mae yn dangos bod mwy o bobl o blaid cael mwy o felinau gwynt ar yr ynys, na sydd yno o bobl yn erbyn y syniad. Hefyd mae’n dangos bod lleiafswn o bobl heb farn.
Mae’r graff yn dangos bod mwyafrif o blaid cael mwy o ffermydd gwynt oherwydd ei fod yn egni glan, rhad, adnewyddol ac yn rhoi gwaith I bobl.
Yn ôl canlyniadau y holiadur y prif reswm o fod yn erbyn gael mwy o melinau gwynt yma ydi oherwydd eu bont yn hull. Y rhesymau arall oedd oherwydd eu bont yn swnllud, aneffeithiol, peryglus a bod digon yma yn barod.
Maen amlwg yn ôl y graff mai ynni dwr yw’r gorau yn ôl y bobl a lenwodd holiadur. Mae llawer hefyd yn meddwl mai ynni gwynt yw’r gorau.
Mae’r map hwn yn dangos cynllun o fferm wynt Trysglwyn sydd wedi ei lleoli yn gogledd yr ynys.
Mae’r map hwn yn dangos lleoliad fferm Trysglwyn ac yn dangos lleoliad Llyn Alaw, sef y fferm wynt arall sydd ar yr ynys. Mae’r map hwn hefyd yn dangos sut y gallwch fynd I fferm wynt Trysglwyn ac I Llyn Alaw.
Casgliad.
Ar ôl gwneud yr ymchwiliad ir gwaith cwrs rwyf wedi penderfynnu mai ynni gwynt yw’r gorrau, oherwydd ydy yn creu llygredd. Hwn yw fy mhrif reswm oherwydd os ment yn creu llygredd nid ydynt yn creu ynni yn effeithiol. Fy mhrif resymau am gredu bod ynni gwynt yn effeithiol yw oherwydd mae’r melinau gwynt yn creu ynni mewn ffordd lan, wrth ddweud hyn rwyn dweud bod melinnau gwynt ddim yn creu llygredd yn yr aer na yn creu llygredd yn y mor. Hefyd maer ynni maent yn eu creu yn ynni adnewyddol, glan ac mae yn ynni rhad. Mae yn lan oherwydd nid ydi yn creu llygredd,maen rhad oherwydd mae gwynt iw gael am ddim felly credaf dylsant gwneud y mwyaf or gwynt sydd ar gael.Mae rhai anfanteision am felinnau gwynt er engraifft maent yn swnllyd, perygl ir adar yn yr ardal ac hefyd maent yn diffethar olygfa. Maer melinnau gwynt yn berygl ir adar oherwydd maer blades yn troi mor sydun mae perygl ir adar cael ei tarro ganddynt. Maent yn diffethar olygfa oherwydd yr oll yr ydych yn gweld yn Llyn Alaw as Yn ardal Trysglwyn yw’r melinnau gwynt ar dop pob bryn, yn fy marn I maent yn diffethar olygfa yn llwyr. Dywedaf hyn oherwydd mae Sir Fôn yn ardal o brydferthwch a maer melinnau gwynt yn gwneud y lle yn hull.
Yn fy marn I nid yw pwer niwclear yn effeithiol oherwydd mae yn creu gormodedd o lygredd, gwneud yr ardal yn hull ac hefyd yn effeithio ar y bywyd gwyllt yn yr ardal. Mae gorsafoedd niwclear ere engraifft Wylfa yn creu llygredd aer, llygredd dwr a llygredd swn, nid yw hyn yn dda oherwydd mae yn effeithio ar yn economy leol. Nid yw gorsaf bwer Wylfa wedi ei gorchuddio yn dda oherwydd gallwch ei gweld o bell, oherwydd maer adeilad yn enfawr. Mae yn effeithio ar y bywyd gwyllt lleol oherwydd mae gymaint o lygredd yn cael ei gynhyrchu ac yn lladd y bywyd gwyllt.
Felly erbyn diwedd y gwaith cwrs rwyf wedi penderfynnu mai ynni gwynt sydd fwya effeithiol, oherwydd mae yn rhatach na ynni niwclear, glanach ac yn ynni adnewyddol.
Gwerthuso
Erbyn cyraedd diwedd y gwaith cwrs rwyf wedi mwynhau ei wneud, ond hefyd rwyf wedi dysgu llawer mwy am ynni gwynt a ynni niwclear. Os buaswn yn ail wneud y gwaith cwrs busef yn gwneud ambell I beth yn wahanol. Er engraifft buaswn yn ail ddylunio y holiadur oherwydd roedd rhai pobl ddim wedi ateb rhai cwestiynnau, buaswn yn trio cael pobl o pob oedran iw ateb yn lle dim ond pobl ifanc iw ateb. Hefyd buasef yn trio casglu mwy o wybodaeth, ar gyfer cael mwy o ddata eilaidd. Ond fel arall rwyf yn hapus gyda canlyniad y holiadur, a gyda canlyniad fy ngwaith cwrs.