Gwaith Cwrs Effaith cyfaint Asid Hydroclorig ar stribed o Magnesiwm Cyflwyniad.

Authors Avatar
Gwaith Cwrs

Effaith cyfaint Asid Hydroclorig ar

stribed o Magnesiwm

Cyflwyniad

Yn y dosbarth rydym wedi bod yn ymchwilio i fewn i cyfradd adwaith sef mesur pa mor gyflym / araf mae rhywbeth yn digwydd e.e. haearn yn rhydu

Yn yr arbrawf yma rwyf am newid cyfaint yr Asid Hydroclorig i weld os mae'n effeithio ar cyfaint yr Hydrogen sy'n cael ei cynnhyrhu bob munud gan adwaith Magnesiwm ac asid hydroclorig.

Dyma'r hafaliad am yr adwaith:-

Magnesiwm +Asid Hydroclorig ››› Magnesiwm Clorid + Hydrogen

2Mg + 2HCl ››› 2MgCl + H2

Rhagfyegiad

Credaf wrth i cyfaint asid hydroclorig cynyddu, bydd cyfradd adwaith o greu hydrogen hefyd yn cynyddu nes adeg lle fydd gormodedd o Asid Hydroclorig yn y fflasg gonigol ac ni fydd yr adwaith yn cynnyddu ond yn lleihau.

Rheswm Gwyddonol

Y rheswm gwyddonol am hyn yw oherwydd wrth i mwy o Asid Hydroclorig cael ei adio mae mwy o molecylau asid yn y tiwb profi ac felly mae yna fwy o siawns i'r molecylau asid gwrthdaro ar stribed o magnesiwm ac felly fydd y cyfradd adwaith yn cynnyddu.

Ffactorau i cadw'n gyson

Yn ystod yr arbrawf yma fyddaf yn cadw'r ffactorau yma yn gyson sef:-
Join now!


* Tymheredd - mi fydd tymheredd yn cyflymu'r cyfradd adwaith oherwydd wrth i'r tymheredd codi mae'r molecylau asid yn symud yn gyflymach ac felly yn gwrthdaro'r magnesiwm yn mwy amlaf ac felly fydd mwy o Hydrogen yn cael ei rhyddhau

* Hyd y Magnesiwm - mi fydd hyd yr Magnesiwm yn cyflymu'r cyfradd adwaith oherwydd wrth i'r hyd yr Mg codi mi fydd gan y'r Mg arwynebedd mwy ac felly fydd mwy o gwrthdrawiadau yn digwydd ac felly mwy o Hydrogen yn cael ei rhyddhau

* Amser - os yw'r amser yn newid mi fydd canlyniadau ...

This is a preview of the whole essay