Gwaith Cwrs Llenyddiaeth

Authors Avatar

Gwaith Cwrs Llenyddiaeth Cymraeg

Tasg yn Seiliedig a’r y ddrama ‘Tair’

Alys Griffiths

Ionawr 2009

Ysgrifennwch gofnodion dyddiaduron y tri chymeriad – Y Nain, Y Fam a’r Ferch.

Dyddiadur Nain :

     

 Dwi di cael digon ar y ddau ohonyn nhw yn ochri e'i gilydd a fy ngadael i a’r ben fy hun. Tybed os ydyn nhw yn meddwl na ddoe cefais fy ngeni, wel maen nhw angen meddwl eto.  Maen nhw’n meddwl fy mod yn dwp ddim yn gallu ysgrifennu llythyr i gydymdeimlo gydag Emrys hefo colled o’i wraig. Mae fy wyres angen aeddfedu, dwi methu dallt pam ei bod yn mynd gyda’r Dyncan, mae’n ddigon hen i fod yn dad iddi. Gaiff sioc yn gweld faint o’i hamser y mae hi’n gwastraffu ar y Duncan.

   

  Dwi ddim yn gwybod beth mae fy wyres yn son am na dyn hen y mae hi eisiau yn lle un ifanc. Dwi ddim yn meddwl ei bod wedi deall bod priodi a chael plant yn un o’r pethau pwysig yn eich bywyd ar ôl ffeindio'r dyn cywir. Dydi merch fy hun fawr well, pwy odd hi’n meddwl oedd hi yn dweud wrthyf am ddefnyddio’r ffôn i gydymdeimlo ag Emrys gyda cholled o’i wraig yn lle ysgrifennu llythyr byr. Ni fedrwn goelio fy nghlustiau pan glywais fod fy wyres yn disgwyl gyda dyn sydd yn ddarlithydd Celf. Ond y peth gwaethaf yw bod ganddo wraig yn barod a does ganddi hi ddim syniad beth sydd yn mynd ymlaen rhwng y ddau ohonyn nhw.

     

 Ddudish i wrth y ddwy ohonyn nhw am yr adeg pan es am drip ysgol Sul blynyddoedd yn ôl, a son am hwyl cawsom ni hefo’r hogiau, dim-ond ffrindiau oeddwn i. Nid oedd fy wyres yn gwrando dwi ddim yn meddwl, ond o leiaf rŵan y mae hi’n gwybod sut fath o fywyd yr oeddwn i yn ei gael yn ei hoed hi. Doeddwn i ddim yn gwneud y fath bethau y mae hi yn eu gwneud.. sef, yfed a meddwi. Dwi ddim yn gweld pwrpas cael cariad ag yna dweud dim wrth neb amdano. Mae hi mor annymunol yn mynd gyda rhywun sydd gyda gwraig yn barod, a dim syniad beth sydd yn mynd ymlaen.  Os ydy’r Duncan yn meddwl gadael Sylvia druan a dod yma i fyw wel dwi am symud allan a mynd i chwilio am dŷ yn bell oddi wrthyn nhw.

   

   Tybed os yw fy wyres yn colli ei cho’ yn gofyn imi fynd i wrando ar hen arferion Cefn Gwlad ar y weirles! Dydi hi ddim yn cofio fy mod wedi eu gollwng ar lawr y gegin ar ddamwain. Mae ei phersonoliaeth yn warthus! Pa hawl yr oedd ganddi i ddweud wrthyf am fynd i roid bag plastic am fy mhen i fy helpu i dynnu’r cwlwm gan fy mod wedi gollwng y weirles ar y llawr?!  Yn waethaf oll, mai’n rhegi yn fy ngwyneb am ddim rheswm.    

Join now!

   

   Well i’r hen Dyncan yna ddim gadael fy wyres i rŵan ar ôl iddo ddifetha ei bywyd hi drwy ei chael yn feichiog. Maswr yn ôl at ei wraig a wneith o rŵan gan ei fod wedi cael cyfle gyda dynnes arall. Well iddo ddweud wrthi beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen rhwng y fo a fy wyres i, mae’n iawn i’w wraig gael gwybod beth sydd wedi digwydd. Dwi methu deall pam fy mod i ddim wedi cael gwybod bod fy wyres yn feichiog hyd at y munud olaf. Tydi o ddim fel fy ...

This is a preview of the whole essay