Yn y pennill cyntaf mae’r bardd yn ffocysu ar bawb yn cael eu trin yn gyfartal. Mae’r llinell ‘ Mae gen i freuddwyd am y wlad, Lle bydd pawb yn bobl’ yn awgrymu i ni fod y bardd eisiau i bawb i gael eu trin yn deg ac yn gyfartal nid fel anifeiliaid. ‘Lle na fydd gormes na naca, Na chas byth mwy dragwyddol’ awgrymir hyn bod y bardd eisiau pawb i ddod ymlaen gyda’i gilydd a does dim angen chasineb byth eto.
Yn yr ail pennill ffocysu’r bardd ar bethau negyddol yn y byd mae ef eisiau newid. Mae’r bardd yn ei ddweud ei fod eisiau llai o farwolaethau, ‘wlad lle bydd diwedd angau.’ Er bod hyn yn amhosib gellir weld fod y bardd wir eisiau hyn i newid beth bynnag. Mae’r bardd yn ddweud ei fod ef eisiau llai o ymladd, dadlau a bradychiadau rhwng pobl o bob gefndir yn y llinell nesaf, ‘Lle na fydd cynnen, trais ,na brad’. Mae’r llinell yn nesaf yn pwyntio tuag at pobl du ac araith Martin Luther King, sef ‘ na fydd ofn cadwynau’ Sy’n siarad ambwti cathweision a does dim ofn byth o droi’n caethwais.
Ddisgrifiad o nefoedd yw’r pennill nesaf. Dim walydd yn stopio pobl i’w cyfathrebu gyda’i gilydd sy’n cael ei ddisgrifio yn y llinell cyntaf, ‘ A disglair ydyw’r muriau mawr’. Mae’r trydydd llinell yn ddweud bod giatiau i’r nefoedd ar agor i bawb. ‘A’r pyrth a egyr yn y wawr.’
Mae’r pennill olaf yn wneud i’r darllenwyr i feddwl os ydy’r pobl gwyn wedi fod yn trin pobl du yn deg ac yn hafal i ein hun, trwy ddweud ‘Mae ar hyd yn oed ddynion lludw, du eu lliw, eisiau byw.’ Mae’r pennill olaf yma’n hefyd yn ddweud bod pobl ddu eisiau cael eu cydwybod gan pobl gwyn.
Ceir nifer fawr o nodweddion arddull effeithiol eu defnyddio yn y gerdd yma. Pwysleisiwyd y bardd bod ganddo freuddwyd pwysig trwy ailadrodd y llinell ‘Mae gen i freuddwyd’ ar y tri pennill cyntaf. Mae’r defnydd o’r ailadrodd hefyd yn wneud i’r ddarllenwyr ddeall bod gan Gwyn Thomas breuddwyd pwysig iawn.
Rhestrwyd ychydig o bethau yn y gerdd. ‘Na fydd cynnen, trais na brad.’ Defnyddia’r bardd rhestri i bwysleisio cynnwys ei wlad delfrydol yn ei freuddwyd. Mae’n rhoi pwyslais ar ddim ymladd, dadlau a fradychu.
Nodwedd arddull arall ceir ei ddefnyddio yn y gerdd yw odli. Wrth gwrs mae’r cerdd yma’n bwysig i hanes pobl du ond yn fy marn i defnyddia’r bardd odli i rhoi effaith creadigol ar y gerdd i wneud i rhywun moyn darllen am y greadigrwydd nid y hanes ffeithiol yn unig, dyma ychydig o esiamplau o odli ‘Wlad, brad, nacad’. Yn debyg i odli, defnyddia’r bardd ansoddeiriau i rhoi effaith creadigol ar y gerdd ond ceir ansoddeiriau hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio cynnwys y nefoedd, ‘disglair, hardd.’
Mwynhaeais i’r gerdd yma nid yn unig oherwydd y greadigrwydd a’r holl nodweddion arddul yn y gerdd ond oherwydd y hanes tu ôl y gerdd sef hawliau sifil ddu. Oherwydd fy mod i’n ddawnswyr stryd, mae hanes pobl ddu yn bwysig iawn i mi gan fod dawnsiau stryd gwreiddiol fel ‘locking, popping a waacking’ wedi cael ei greu gan bobl ddu ag os nad oedd Martin Luther King wedi newid pethau fyddai ddim yn ddawnsio heddiw.