Hanes-Gwaith Cwrs Yn ôl ffynhonnell A1, sef dyfyniad o bapur newydd y ‘Western Mail’, fedrwn feddwl bod Cymru a’u pobl dal yn credu yn hen draddodiadau a diwylliant y wlad. Bod yr eisteddfod yr un mor boblogaidd yn nawr ac yr oedd deng mlynedd yn ôl. Cyn darllen y dyfyniad fedrwn weld y darlun mae’n ei beintio, y teitl yw “Gwlad y Gān ac Offerynnau”. Er bod y ‘Western Mail’ yn bapur cydnabyddedig nid oes rhaid i’r darlun mae’n ei bortreadu fod yn wir, byddai’r ‘Western Mail’ eisiau plesio ei darllenwyr, y mwyafrif o’i darllenwyr fyddai’r Cymry dosbarth canol, ac y rheini fyddai’r bobl oedd eisiau Cymru aros fel yr oedd, gwlad dawel draddodiadol, byddai’r ‘Western Mail’ ddim ond yn ceisio cadarnhau y ddelwedd yma yn eu meddyliau. Mae ffynhonnell A2, sef dyfyniad allan o lyfr ‘Pobl, Protest a Gwleidyddiaeth’ gan Gareth Elwyn Jones a gyhoeddwyd yn 1988 gyda darlun hollol wahanol, pan bod ffynhonnell A1 yn cyfleu Cymru fel gwlad gryf, nad yw dan fygythiad mae hwn yn cyfleu Cymru fel gwlad gwan, sydd dan fygythiad cryf o’r cyfrwng newydd, sef teledu. Yn y ffynhonnell disgrifir teledu “bygythiad difrifol i’r Gymraeg a Chymreictod”, credu’r hyn oherwydd mae un grwp bychan oedd yn ei rheoli, a Saeson cyfoethog o Lundain ar hynny, doedd dim modd i nhw wybod ddim byd ar arferion a diwylliant Cymru, felly ni fyddai ar y teledu, os oedd pobl ifanc yn gwario mwyafrif o’i amser yn ei wylio, neu siarad amdano, a doedd dim agwedd o Gymreictod yn agos iddo mae’n amlwg yn
fygythiad. Rydym ni yn awr medru edrych yn ôl a gweld doedd ddim angen poeni, ni chafodd cymaint o effaith a ddisgwylir, rydym dal yn siarad Cymraeg. (a)Mae gyd o’r ffynonellau gydai gilydd yn ddefnyddiol iawn, ar ben ei hun ni fuaswn. Fel ysgrifennwyd uchod, mae erthygl papur newydd yn medru fod yn unochrog, mae y ‘Western Mail’ eisiau plesio’r dosbarth canol, felly ar ben ei hun mae’r erthygl yma yn eithaf diwerth, ond pan darllenwyd ar bwys ffynhonnell A2, sef nodiadau am fygythiad teledu mae’n ddefnyddiol iawn, mae ffynhonnell A2 yn ormod o flaen gofid, pan fo ffynhonnell A1 ...
This is a preview of the whole essay
fygythiad. Rydym ni yn awr medru edrych yn ôl a gweld doedd ddim angen poeni, ni chafodd cymaint o effaith a ddisgwylir, rydym dal yn siarad Cymraeg. (a)Mae gyd o’r ffynonellau gydai gilydd yn ddefnyddiol iawn, ar ben ei hun ni fuaswn. Fel ysgrifennwyd uchod, mae erthygl papur newydd yn medru fod yn unochrog, mae y ‘Western Mail’ eisiau plesio’r dosbarth canol, felly ar ben ei hun mae’r erthygl yma yn eithaf diwerth, ond pan darllenwyd ar bwys ffynhonnell A2, sef nodiadau am fygythiad teledu mae’n ddefnyddiol iawn, mae ffynhonnell A2 yn ormod o flaen gofid, pan fo ffynhonnell A1 yn rhy hyderus am gryfder diwylliant Cymru, os rydych yn darllen y ddau fedrwch weld llais o’r ddwy ochr o’r ddadl. Mae ffynhonnell A2 yn farn hanesydd, hanesydd sydd yn ysgrifennu gyda’r fantais o gael ffeithiau, gan ysgrifennodd 1988, hefyd roedd ganddo’r fantais o fod yn ffynhonnell cyntaf, gan roedd e yn ddyn o’r chwedegau, roedd wedi gweld ffordd oedd bywyd, ac mae wedi gweld y canlyniadau. Mae lluniau yn ffynonellau arferchog os mae ganddoch y ffeithiau, mae llun yn ffordd dda i ddangos yn syml tymer y foment, fedrwch weld y bobl a’i gwisgoedd, mae’r lyriciau cān roc yn debyg i lun, fedrwch weld tymor y bobl, ac mae pa mor llwyddiannus mae cān yn fesur o ba mor ddibynadwy mae’r lyriciau. (b)Er bod ystadegau yn ffeithiau pedant nid ydynt yn ddibynadwy, fedrith ystadegaeth gael ei gynnal yn unrhywle, gellid gofyn deg person mewn ardal Ceidwadwyr, fel Mayfair yn Llundain, neu gellid gofyn deg person ar ystād dlawd yn Llundain, byddai canlyniadau y ddwy ystadegaeth yn hollol wahanol. Heblaw ei fod yn ystadegaeth gwlad llawn, yn cynnwys pawb, neu bawb ōr grwp pobl benodol ni fedrwch ddibynnu y sicr arno.Dydy ffynhonnell A4, sef llun o’r ‘Beatles’ a ffynhonnell A6 sef ystadegau ddim yn cytuno â ffynhonnell A3, sef dyfyniad o lyfr ‘Post war Wales’, er ni fyddent yn meddwl lot o ohono, efallai fod golwg y ‘Beatles’ yn chwyldroadol yn y dyddiau yna, neu efallai mae eu lyriciau oedd yn chwyldroadol, felly er i ni nid yw’n cytuno, iddyn nhw efallai ei fod. Fel ddywedais uchod mae ystadegau yn hawdd i’w I’ch siwtio chi, does dim rhaid iddynt fod yn hollwyr. Wrth ffynhonnell A1, sef dyfyniad o bapur newydd y ‘Western Mail’, fedrwn feddwl bod y Cymry dal yn credu yn hen draddodiadau a diwylliant y wlad, ac nad oedd yna chwyldro yn fywyd yr ifanc. O côf pobl dwy’n adnabod gwyddaf fod hyn ddim yn wyr, roedd yna newid mawr yn fywyd yr ifanc. Mae ffynhonnell A2, sef dyfyniad o lyfr ‘Pobl, Protest a Gwleidyddiaeth’ gan Gareth Elwyn Jones a gyhoeddwyd yn 1988 yn cytuno ā fy nghasgliad i, roedd yna newid mawr, er nid yw’n cytuno ei fod yn beth da. Mae ffynhonnell A2 yn dilyn y llinell bod y newid yma yn beth negatif e.e.’bygythiad difrifol’. Roedd gan yr ifanc lawer fwy o ryddid I wneud a gwisgo a gwrando ar beth a mynnant, dengys hyn yn ffynhonnell ‘A4 ii’, mae’n dangos merched ifanc yn gwisgo sgertiau mini, peth ni welwyd fyth or blaen. Dengys llun ‘A4 iii’ chwyldro arall a ddigwyddodd, roedd yr ifanc yn dod yn ymwybodol o iechyd y ddaear, roeddent yn gwisgo dillad llifog, daeth bwydlysyddiaeth yn boblogaidd ac ymunwyd yn llawer o brotestiadau. Rhai cofiadwy yng Nghymru oedd protestiadau ‘Cymdeithas yr Iaith’, a chafodd ei sefydlu yn gynnar yn y chwedegau, roedd protest cyntaf ‘Cymdeithas yr Iaith’ ar fônt ‘Tre-fechan’ yn Aberystwyth yn 1963, lle ataliwyd ceir rhag croesi, hwn oedd y briffordd rhwng De a Gogledd Cymru ar y pryd, a phrif wythïen trafnidiaeth a chyfathrebu y dref, yn amlwg cafodd hyn effaith fawr ar gweithredaeth y dref, ond mae ymateb pobl ifanc y dref yn dangos nad oedd y chwyldro wedi effeithio ar bawb, aeth gang weddol fawr o fechgyn y dref draw i’r bont a’i gorfodi i adael, dengys hyn bod rhai o fobl ifanc Cymru dal yn credu yn yr hen foesau. Mae ffynhonnell A2 yn honni mai y teledu sydd yn rhannol gyfrifol, a gan rheolwyd y teledu gan Americaniaid a Saeson fyddai y teledu yn cyflwyno llawer o Saesneg i’r ifanc. Eto o law Gareth Wyn Jones mae ffynhonnell A3 yn disgrifio y newid yma, honnwyd bod y newid wedi digwydd oherwydd gormes yr oedolion, roedd oedolion yn rheoli y clybiau ieuenctid y neuaddau dawns ar ffilmiau, roedd yr ifanc eisio gwrthryfela yn erbyn hyn felly sefydlwyd steil newydd. Hefyd roedd gan yr ifanc fwy o arian i dalu am setiau radio ayyb, golygir hyn bod mwy o gyfle i wrando ar gerddoriaeth felly datblygodd diwydiant cerddoriaeth i hybu y gweddnewidiad. Mae ffynhonnell A4 â ffynhonnell A5, sef llun o’r ‘Beatles’ a lyriciau ‘The Rolling Stones’ yn profi y newidiad yma, hefyd mae’n dangos er y newid mawr roedd yr ifanc dal yn Geidwadol i gymharu ag ni heddiw, mae’r lyriciau yn dangos nad oedd yr ifanc yn gwerthfawrogi gormesiad yr oedolion ‘I can’t get no satisfaction’. Mae’r holl luniau eraill yn profi hyn hefyd. Mae ffynhonnell A6, sef ystadegau, yn fy marn i dydy e ddim yn ddibynadwy, nid ydych yn gwybod pwy a ofynwyd, nag faint, nid ydynt yn ganlyniadau Censws felly nid ydyn yn ddibynadwy. Tryweryn Un o’r prif ddigwyddiadau wnaeth sbardino sefydliad y ‘Cymdeithas yr iaith’ oedd Tryweryn lle foddwyd ddyffryn am ddŵr i Lerpŵl. Mae ffynhonnell B1, sef erthygl o’r ‘Western Mail’ ar yr 17ed o Fedi 1956, yn awgrymu mae nid yn uniongyrchol oherwydd y cynlluniau ar gyfer boddi Tryweryn oedd wedi poeni y Cymry, ond agwedd y pobl oedd am wneud e, e.e. ‘Liverpool Corporation’s high-handedness’. Hefyd mae’n flîn iawn ar fwriadau Lerpwl, sydd am werthu y dŵr ymlaen. Rwyn credu bod yr erthygl yma yn ddibynadwy iawn, mae’n cynnwys ffeithiau nid barn, fel a ddywedwyd yn gynharach mae y ‘Western Mail’ yn bapur gwrth cenedlaetholwyr, ac ddywedwyd yn glîr bod hwn ddim yn fater o genedlaethyddiaeth, ‘…which has nothing to do with nationalism.’, felly ni fyddai y papur gyda barn drwg o’r Saeson cyn dechrau, mae erthygl critigol or saeson mewn papur tebyg i’r ‘Western Mail’ yn profi heb amheuaeth bod yna gwrthwynebiad cryf. Wnaeth Tryweryn cynyrfu llawer or Cymraeg ynglyn ag agwedd y Saeson, wnaeth pobl dechrau gwrthryfela yn erbyn gormes yr iaith Saesneg. Erbyn y chwedegau arôl Tryweryn daeth y teledu yn boblogaedd, roedd mwyafrif os nad gyd o’r teledu yn Saesneg, felly achoswyd hydyn oed fwy o ofn fod saesneg yn mynd I hollol ladd ein iaith a diwylliant. Dyma sbardin mwyaf, yn fy marn I, chwyldro rhyddid y chwedegau yng Nghymru.