Pan aeth adroddwr i Gambodia gyda rhaglen ‘Panorama’, gwelodd y llafur plant cyfrinachol a oedd yn mynd ymalen y tu ôl i’r llenni. Credaf bod cadw’r ffatrioedd yn gyfrinach yn dangos euogrwydd Nike a cwmniau tebyg. Mae’n amlwg felly bod y cwmniau yn gwybod eu bod nhw’n gwneud drwg trwy gyflogi plant dan oed. Wrth gwrs, mae rhoi cyflog isel i blant ifainc yn creu elw iddyn nhw felly bydd hyn yn parhau hyd nes rhoi stop iddo. Yn fy marn i, mae creu elw allan o boen eraill, yn enwedig plant yn beth creulon ofnadwy.
Meddai un ferch ifainc a oedd hefyd yn rhy ifainc i weithio i gwmni Nike, ei bod hi’n gorfod gweithio saith diwrnod o’r wythnos yn ddi- baid. I blentyn dan oed, mae hynny’n erbyn y gyfraith. Un o ddatganiadau Nike yw bod pob gweithiwr yn cael un diwrnod rhydd pob wythnos. Nid yw’n wir. Ond, ar y naill law, nid yw’r cyflogwyr yn y ffatrioedd hyn bob amser yn gwybod oed cywir y plant. Teimlaf dylid cael system effeithiol i brofi oedran y plant. Erbyn hyn, mae Gap wedi ceisio gwella’r sefyllfa trwy cael gweld ‘Family Book’ pob un o’i gweithwyr. Mae’r llyfr yma yn dangos dyddiad geni cywir y plant ac yn profi eu bod o oedran addas i weithio yn y ffatri. Credaf bod y system yma yn un gwael oherwydd gall rhieni’r plentyn newid eu dyddiad geni yn y llyfr fel eu bod yn cael swydd. Mae canran eithaf o’r genethod yn edrych ddigon hen i weithio felly mae’n anodd iawn. Ond, nid hyn yw’r broblem. Teimlaf mai’r broblem fwyaf yw’r ffordd mae’r cyflogwyr yn mynd o’i chwmpas hi wedi dod o hyd i wir oedran y plentyn. Maen’t yn gadael i blentyn dan oed weithio’n y ffatri, er eu bod yn gwybod ei fod yn anghywir.
Mae cyflogau gwael yn rhoi mwy o reswm i’r plant sy’n ran o gwmniau tebyg i Nike a Gap siarad yn gyhoeddus am eu camdriniaeth. Ar y rhaglen, roedd genethod ifainc yn beichio crio oherwydd diffyg cyflog a oedd yn golygu llai o arian i’w teuluoedd. Meddai merch arall ei bod yn cael ei thalu £8 yr wythnos, llai na pris un o’r crysau roedd hi’n gwnio yn y ffatri. Roedd y ferch yma yn gorfod gweithio gan sefyll ac os oedd hi’n ceisio eistedd i lawr, roedd hi’n cael ei tharo.
Aeth yr adroddwr Panorama ymalen i Zaipan, i weld beth oedd y sefyllfa yno. Roedd wedi clywed bod yna lawer o ffatrioedd Gap yn enwedig yno ac roedd eisiau ffilmio mwy ar y ffatrioedd. Wedi dod o hyd i ferch a oedd yn fodlon siarad, daeth yr adroddwr i wybod bod cyfamod o ddwy flynedd i weithio yn y ffatrioedd wedi costio cyfanswm o £1800 i rieni’r ferch. Teimlaf bod dim posib i’r ferch wneud yr arian yna i gyd yn ôl trwy weithio’n y ffatri ddillad.
Genethod yw’r rhanfwyaf o weithwyr yn y ffatrioedd yma. Os yw merch yn disgyn yn feichiog, mae’n rhaid iddi beidio a dweud neu mae yna beryg iddi golli ei swydd am byth. Felly, mae merch beichiog yn gweithio mewn amodau gwael, yn gorfod sefyll trwy’r adeg ac yn cael ei tharo os yw hi’n eistedd i lawr. Ond eto, ni fedraf fod yn erbyn llafur plant yn gyfan gwbl oherwydd mae yna rywfaint o fai ar y plant eu hunain, neu hyd yn oed eu rhieni. Nid yw’r cyflogwyr yn gwybod os yw merch yn feichiog, felly nid oes bai arnyn nhw.
Rydw i wedi dod i’r casgliad bod yna fai ar Gap, Nike a cwmniau felly, mwy na sydd ar y gweithwyr. Ond, wedi dweud hyn, mae yna fai ar rieni’r plant sydd yn gweithio yn y ffatrioedd hynny. Teimlaf ei bod hi’n hawdd iawn i gwmniau fel Gap a Nike roi datganiadau allan sy’n dweud eu bod nhw ddim am gyflogi plant o dan 14 mlwydd ond mae’n anoddach cadw at y dataganiadau. Ydi, mae’r gweithwyr yn dweud celwyddau ond dylai’r cyflogwyr wybod yn well a ceisio’n galetach i ddod o hyd i wir oedran a cyflwr eu gweithwyr.