Pobl unig a ryfedd yw prif gymeriad pob stori yn ein cyfrol

Authors Avatar

Pobl unig a ryfedd yw prif gymeriad pob stori yn ei’n cyfrol

Mae’r ffurf stori fer yn ffordd effeithiol iawn o drafod pobl unig a rhyfedd oherwydd ei bod hi’n ffordd dda o ddod i adnabod cymeriad yn syth ac yn gyflym heb orfod darllen am ei cefndir.

  Mae’r awdur yn canolbwyntio ar un cymeriad mewn stori fer fel arfer, ac felly rydym yn dod i’w hadnabod yn well ac weithiau mae’n rhoi siawns i ni edrych o dan yr wyneb ac edrych ar ochr arall y stori. mewn geiriau eraill, mae’n edrych ar brofiad neu ddigwyddiad mewn ffordd arbennig.

Mae stori fer yn llwyddo i ddweud llawer am gymeriad mewn ychydig o eiriau. Weithiau, mewn stori fer, mae tro ar y diwedd sy’n creu ymateb ynddom, ac yn agor yn uningyrchol. Tewi nid gorffen mae stori fer, fel arfer, mae’n gorffen yn ben agored, mae hyn yn effeithiol i wneud i ni feddwl. Mae stori fer yn effeithiol ac yn chwarae ar ein hemosiynau.

   Mae llawer o wahanol fathau o bobl ryfedd ac unig, gall person fod yn unig oherwydd nad oes ganddynt deulu na ffrindiau, neu efallai oherwydd profedigaeth neu unrhyw newid yn ei bywyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, mae pobl unig yn dewis bod yn unig, gall fod oherwydd cyfrinach. Tra mae eraill yn ysu am gael cwmni.

  Mae llawer o bethau yn gallu gwneud person yn rhyfedd, os ydynt yn edrych neu’n ymddwyn yn wahanol i bawb arall, mae pobl yn tueddu i feddwl ei bod nhw’n rhyfedd. Gall gefndir rhywun, neu eu hamgylchiadau eu gwneud yn rhyfedd neu hyd yn oed profiad y maent wedi bod drwyddo.

Mae nifer o gymeriadau rhyfedd yn y straeon yr wyf wedi bod yn eu hastudio. Cychwynaf drwy sôn am ‘Y Rhif Anghywir’

 Nid ydym yn cael gwybod enw’r prif gymeriad yn y stori hon, mae hyn yn awgrymu nad yw’r cymeriad yn ddigon pwysig i haeddu enw hyd yn oed. Nid ydi’r cymeriad yma i weld yn rhyfedd neu’n wahanol mewn unrhyw ffordd, mae hi’n berson eithaf cyffredin a diflas a dweud y gwir. Rydym yn sylwi’n syth wrth ddechrae’r stori ei bod hi’n berson unig iawn,

  ‘Dydi’r penawdau’r papur newydd yn debygol o godi’i chalon wrth iddi wynebu’r penwythnos unig’.

Mae ei bywyd yn ddiflas ac yn undonog.  Mae hi’n berson unig yn byw ar ei phen ei hun heb deulu na ffrindiau. Does dim llawer o gyffro yn digwydd yn ei bywyd o gwbl.

 Mae naws trist iawn i’r cymeriad hyn. Nid ydwi’n meddwl ei bod hi eisau bod ar ei phen ei hun, mae’r ddynes hon yn ysu am gwmni, ac dyma pam y mae hi’n cynhyrfu gymaint pan mae’r dyn dierth yn dangos diddordeb ynddi ac yn ei ffonio hi’n aml.

  Mae hi’n wahanol iawn i Jini. Mae Jini yn wraig sydd yn falch o fod ar ei phen ei hyn ac yn cadw draw o bobl gan fod ganddi’r gyfrinach.  Mae Jini a’r ferch yn ‘Y Rhif Anhywir’ yn hollol wahanol i’w gilydd, ond eto mae rhywbeth yn debyg yn y ddwy. Yn wir, mae’r tri prif gymeriad yr ydwyf yn ei hastudio yn hollol wahanol i’w gilydd, ond mae gan y tri rhywbeth yn gyffredin, sef eu unigrwydd.

   Gan nad oes unrhyw gyffro i weld ym mywyd y ferch, pan mae sefyllfa wahanol a chyffrous yn codi, mae hi’n ymddwyn ychydig yn wirion. Mae hi wedi cynhyrfu bod rhywun i weld yn ei hoffi hi, ac mae hi’n ymddiried yn rhywun nad ydi hi’n ei adnabod yn iawn.

Cychwyna’r stori gyda penawdau papur newydd, ond yr un pwysig i ni yw,

‘Fifth woman slain – man held’,

Er nid ydym yn gwybod bod y penawd yn arwyddocaol ir stori ar y dechrau. Mae’r stori yn ei gwneud hi’n amlwg or dechrau ei bod hi’n ddynes unig iawn.

Yna mae’r ffon yn canu,

‘Mae hi’n petruso wrth gysidro pwy ar y ddear sy’n galw’.

Dangosa hyn nad ydi hi wedi arfer gyda phobl yn ei ffonio. Mae hi wedi drysu. Rhif anghywir sydd yno. Mae’r dyn ar yr ochr arall i’r ffon yn ddigon caredig ac mae hyn yn ei chyffroi. Mae e’n dechrau ffonio yn fwy a mwy aml gan gasglu gwybodaeth amdani.

 Un diwrnod mae’n ffonio ac maen’r ddau yn penderfynnu cyfarfod am y tro cyntaf. Ond mae hi’n dechrau sylweddoli nad ydi hi’n adnabod y dyn o gwbl. Nid yw hi hyd yn oed yn gwybod ei enw, na faint oed yw e. Ond ar ol sbel,  mae hi’n diawlio’i hyn am wastraffu amser, ac yn cael ei hyn yn barod. Mae hi eisau ei gyfarfod ac yn anwybyddu’r ffaith nad ydi hi’n ei adnabod gan ei fod hi eisau cwmni gymaint. Am hanner awr wedi saith mae e wedi cyrraedd y fflat.

‘Am 7:35 daw’r gnoc ar ddrws y fflat…’

   Nid ydym yn cael mwy o wybodaeth am y ddynes ar ol hyn. Yn fy marn i mae hyn yn effeithiol iawn gan ei fod yn gwneud i feddwl ac yn codi tensiwn.

‘Bore dydd mawrth.  Mae’r papur newydd heb ei gyffwrdd ar y mat wrth ddrws ei fflat’. ‘Bore dydd mercher a does neb wedi meddwl canslo’r archeb papur newydd’.

O beth yr ydym ni’n ei weld, does neb i weld yn colli’r fenyw, na hyd yn oed sylwi ei bod hi wedi marw. Mae’r prif bennawd papur newydd mewn llythrennau bras,

‘Sixth woman slain: When will it end?’

Rydym yn cael gwybod yn fan hyn fod y ddynes wedi cael ei lladd gan y llofrydd.

Er nad ydi’r awdur wedi dweud wrthym yn union beth sydd wedi digwydd i’r ddynes, maen amlwg i ni beth sydd wedi digwydd iddi ac mae’n creu tensiwn. Mae’r stori yn ddigalon iawn ond mae’n cynnig neges amlwg i ni.

     

Nid ydym yn cael gwybod enw’r is-gymeriad, mae hyn yn effeithiol i bwysleisio’r ffaith nad ydi’r ddynes yn adnabod y dyn o gwbl, mai dieithryn yw e. Mae’n ddyn slei ofnadwy, nid yw’n rhoi unrhyw gwybodaeth amdano iddi hi. Ond mae o’n llwyddo i ddwyn gwybodaeth ganddi hi yn slei iawn heb iddi wybod.

Join now!

‘Eglura hithau’n gryno ble yn union mae ei fflat’.

Ond nid yw hi hyd yn oed yn cael gwybod ei enw ef, na faint oed ydi o. Mae hi’n dechrau amau nad ydi hi’n gwybod dim byd amdano ar ôl ycyhydig.

‘Ymgripia amheuon i’w meddwl wrth iddi gyfaddef wrth ei hyn y gallai ei dyn ‘hi’ fod yn dad, yn ŵr, yn daid… ac nad yw hi’n ei adnabod o gwbl mewn difrif.’

Ond nid yw’r ddynes yn ddigon call i wrando arni hi ei hyn. Mae hi wedi gwirioni gyda’r ffaith fod yna ddyn eisau ei chyfarfod ...

This is a preview of the whole essay