Ar ôl Rhyfel y Gwlff doedd Irac ddim yn cael prynu a gwerthu gyda gwledydd eraill fel roedden nhw ac roedd y wlad yn dlawd iawn. Hefyd ar ôl y rhyfel, fe gafodd tîm o swyddogion y Cenhedloedd Unedig y gwaith o chwilio am arfau peryglus iawn yno, ond ymhen amser, fe gawson nhw eu hanfon o 'na. Ym mis Tachwedd 2002, aethon nhw nôl.
Roedd Prydain ac America yn credu bod Irac wedi bod yn creu ac yn cuddio arfau dros y blynyddoedd arfau allai ladd miloedd o bobl - ac maen nhwn teimlo o hyd bod hyn wedi bod yn ddigon o reswm dros fentro i ryfel. Rheswm arall, medden nhw, oedd y cysylltiad posib rhwng Irac a'r mudiad terfysgol, Al-Qaeda.
Fe gafodd bron 300,000 o filwyr America a 50,000 o rai Prydain eu hanfon ir Gwlff, yn barod i ymosod ar Irac.
Ond nid pawb oedd yn credu mai rhyfel oedd yr ateb. Roedd Ffrainc, yr Almaen, Rwsia a llawer o wledydd eraill am i'r timoedd sy'n chwilio am arfau yn Irac gael mwy o amser i wneud eu gwaith. Y dyn fun arwain y chwilio oedd Hans Blix. Roedd e'n gorfod dweud wrth y Cenhedloedd Unedig beth roedden nhw wedi'i ffeindio yno. Does na ddim gwadu bod Irac wedi bod yn creu arfau sy'n torri rheolau'r Cenhedloedd Unedig. Fe ddaeth y timoedd o hyd i rai pethau a chafodd Saddam wybod bod yn rhaid eu dinistrio, ond roedd en araf yn gwneud hynny.
Roedd llawer o bobl gyffredin drwy'r byd yn teimlo nad ymosod ar Irac oedd yr ateb. Roedd y protestiadau anferth yn Llundain a dinasoedd eraill yng nghanol mis Chwefror cyn y rhyfel yn dangos pa mor gryf oedd teimladau. Daeth rhagor o brotestio ddechrau mis Mawrth pan adawodd cannoedd o ddisgyblion eu hysgolion er mwyn lleisio'u barn. Doedd neb yn dweud bod Saddam Hussein yn arweinydd da ac roedd y rhan fwyaf o bobl am ei weld e'n mynd. Ond doedd llawer ddim eisiau gweld rhyfel chwaith.
Yma ym Mhrydain, roedd dadlau mawr yn y Senedd ac fe adawodd nifer o brif swyddogion Tony Blair eu swyddi mewn protest. Ond mewn pleidlais arbennig, fe benderfynodd y rhan fwyaf o aelodau seneddol gefnogi dadl y Prif Weinidog bod angen mynd i ryfel.
Roedd America wedi rhoi dewis i Saddam Hussein adael ei wlad neu wynebu ymosodiad. Gydag Arlywydd Irac yn gwrthod gwneud hynny, doedd dim amdani ond ymosod.
Nos Fercher, Mawrth 19, 2003, fe ddechreuodd y rhyfel yn erbyn Irac. Fe gafodd rhannau o'r brifddinas, Baghdad, eu bomio dros nos, ond doedd yr ymosodiad cyntaf ddim mor fawr ag roedd llawer wedi'i ddisgwyl.
Ar ddydd Mercher, Ebrill 9, cafodd lluniau anhygoel eu dangos ar y newyddion. Roedd pobl Irac, gyda help milwyr America, wedi tynnu cerflun anferth o Saddam Hussein i lawr. Roedd miloedd yn dathlu ar y strydoedd. Roedd hi'n edrych yn debyg bod Saddam Hussein a'i swyddogion wedi colli'u gafael ar y wlad, ond doedd y rhyfel ddim drosodd eto.
Ar ôl misoedd o brwydro a ladd fe cipiwyd y filwyr Prydain a America Sadam Hussein ond dydu’r rhyfel dal dim drosodd. Erbyn hyn mae tua 4,000 o pobl cyffredin Irac wedi cael ei lladd a tua 8,000 wedi cael ei brifo. Mae 300 o filwyr Prydain a America wedi cael ei lladd a dros 20 o newyddiadurwr. Mae 17 miliwn o pobl Irac yn dibynnu ar cymorth ac efo’r rhyfel dydyn nhw ddim yn gallu cael y cymorth i mewn i’r wlad. Doedd 0 arfau Niwclear wedi cael ei feindio. Ond beth sydd yn nesaf i’r pobl Irac?
Yng nghanol y dathlu, roedd anhrefn hefyd. Gan nad oes heddlu o gwmpas a neb yn rheoli, mae pobl gyffredin wedi bod yn dwyn o siopau ac adeiladau gwag. Mae'r sefyllfa yn ysbytai'r wlad yn druenus. Maen nhw'n rhedeg allan o welyau a moddion. Pwy all anghofio Ismaeel Abbas Ali, y bachgen 12 oed gafodd ei anafu'n ddifrifol yn y bomio? Fe gafodd ei fam, ei dad a'i frawd eu lladd. Doedd gan yr ysbyty yn Baghdad mo'r offer i'w drin ac roedd mewn perygl o farw os nad oedd e'n cael triniaeth ar frys. Fe ddaeth newyddion da o wlad Kuwait, ac mae Ali erbyn hyn yno'n gwella.
Ond un o lawer ydi Ali. Mae miloedd yn dioddef oherwydd nad oes dwr glân i'w yfed. Mae'r sbwriel yn pentyrru ar y strydoedd hefyd ac mae perygl i afiechydon ymledu.
Wedi'r rhyfel, mae brwydr newydd nawr yn wynebu pobl y wlad. Mi gymrith hi flynyddoedd i gael Irac yn ôl ar ei thraed.
Rydym yn gwybod roedd nifer o’r poblogaidd Prydain yn erbyn y rhyfel ond hefyd roedd nifer o blaid y rhyfel.
“Maen nhw wrth gwrs yn bryderus am beth sydd yn digwydd, mae hynny yn naturiol, ond maen nhw yn gweld fod 'na ddyfodol gwell a'u bod nhw yn gorfod gweithio dros y dyfodol, helpu ei gilydd a'n helpu ni hefyd. Rydym ni yno i roi'r dyfodol iddyn nhw.” Dyma barn Arolygydd John Hughes Jones a oedd wedi cael ei danfon i Irac ar ôl y rhyfel i’r helpu’r pobl. Felly trwy cael gwared o Sadam rydym yn rhoi dyfydol i’r pobl Irac. Ar y llaw arall nid rydym yn rhoi y miloyndd a oedd wedi cael ei lladd a brifo dyfydol. Rhywun sydd yn anghytuno efo Mr Jones yw’r y Parch R Alun Evans.
“Fe welsom ni arweinwyr gwleidyddol y gorllewin yn gwneud cyflwyniadau hollol gelwyddog a hynny dan lw, yn y Cenhedloedd Unedig ac yn y senedd cyn mynd ati i fygwth ac i lwgrwobrwyo gwledydd llai i geisio parchuso'r twyll a mynnu eu ffordd.” Dywedodd fod llywodraethau cyfoes yn “anwybyddu eu rheolau eu hunain er mwyn ecsploetio meysydd olew” ac “anwybyddu deddfau rhyngwladol ac yn ceisio cefnogaeth drwy gamliwio dogfennau a thystiolaeth”.
Rhywyn arall sydd yn erbyn y rhyfel yw arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy sy’n meddwl bod beirniadaeth Tony Blair ar bolisi’I blaid ynghylch Irac ac anghywir a phersonol.
Roedd y’r ymosodiad ar Irac wedi costi Prydain a America £80 biliwn. Lle mae’r arian yma yn ddod o? Trethi. Mae’r llywodraeth wedi codi trethi I talu am y rhyfel. Felly rydyn ni y pobl o Phrydain yn talu arian sydd yn mynd at arfau sydd yn lladd pobl diniwed Irac. Ond rydym yn gwybod mae nifer yn credu ei bod y arian yn fynd i rhoi dyfydol i’r pobl Irac. Bydd well gen i weld y arian yma mynd at adeiladu ysbytai neu ysgolion. Bydd yr arian yma yn gallu helpu pobl ond yn lle credaf fod rydym yn lladd pobl.
Credaf fod rhyfel yn wastraff amser, gwastraff arian ac yn fwyaf pwysig bywydau. Mae rhaid i’r arweinydd y byd sylweddoli dydy ryfel ddim yn ffordd o atal problem.Heddiw dydy heddwch ddim yn bodoli yn fyd oherwydd y ffaith rydyn ni fel pobl yn tyfu lan i gasáu pobl sydd yn wahanol i ni. Rydw i’n meddwl bydd y nifer o ryfel yn y byd yn cynyddu oherwydd dydy’r arweinydd y byd y dyddiau yma ddim yn barod i siarad ei phroblemau.
Yn fy marn i dydy ryfel ddim yn ffordd o atal problem a thrwy ddechrau rhyfeloedd rydyn yn dinistrio ei’n byd. Mae rhyfel yn dinistrio gwleddoedd mae rhyfel yn dinistrio bywydau, ond mae ennill rhyfel yn dangos pwer, ac y dyddiau yma mae bron pob gwlad eisiau bod yn fwy pwerus ac yn fwy cyfoethog na pawb arall.