Plot y stori oedd bod merch ifanc yn cael amser called. Roedd hi’n methu gorffen ei gwaith ysgol ar amser, rhoi ei arian cinio i’w sboner, methu dod mewn ar amser ac yn mynd allan efo bachgen oedd o hyd mewn trwbwl. Roedd hi’n dweud celwyddau wrtho am ei thad, yn dweud ei bod e’n ei bwrw hi er mwyn iddo ef gredu bod hi’n mynd trwy’r un peth a fe. Ond fel arfer cafodd ei dal allan. Roedd y bachgen dal yn ei charu hi ond wedi ei gadael er mwyn iddi mynd ymlaen efo’i haddysg i gael swydd dda. Fe ddechreuodd y ddrama yn nhy un o ffrindiau Wez, roedd Wez a Elin wedi crasio allan yna am y nos gan eu bod nhw’n feddw. Dechreuodd pethau waethygu o hynny ‘mlan. Fe daeth y noson wyllt o’r disgo. Dim ond golygfa byr ond un mwyaf pwysig yn fy marn i. Cwympodd Elin a Wez allan ac aeth Elin am daith i ben mynydd. Roedd hi’n sefyll ar ben creigiau pan oedd hi wedi ffonio Rhys (ei ffrind orau) i ddod i ol hi. Ond doedd Rhys yn methu gyrru. Yna daeth Wez (ei sboner) a oedd yn ceisio ei pherswadio hi i neidio efo fo drost yr ymyl. Ar ol perswadio Wez bod dim angen neidio cerddodd Elin gatre a cyfadde popeth i’w rhieni a popeth arall oedd wedi mynd ymlaen.
Y rhan oeddwn ni’n hoffi orau oedd pan oedd Rhys yn y disgo yn ei wisg diafol a dechreuodd dawnsio. Roedd hwn yn donil iawn ac yn dangos wir cymeriad Rhys. Roedd pobl yn y cynulleidfa yn chwerthin arno ac yn ei gymeradwyo.
Rhys Ap Trefor oedd yn chwarae y cymeriad Rhys. Fe wnaeth Rhys gymeriadu yn dda ac roedd yn amlwg wedi meddwl am ei gymeriad. Roedd yn actio yn arbennig o dda ac yn dangos ei wir potential. Roedd yn llefaru yn glir ac yn uchel. Newidodd ton ei llais mewn gwahanol olygfeydd. Pan oedd yn gweiddi roedd ei lais yn mynd yn uwch ac yn uwch. Roedd ganddo llais bachgen yn ei harddegau sydd heb dorri. Roedd yn gwisgo dillad ysgol ac yn y nos dillad cyffredin fel mae plant yn arfer gwisgo.
Un o’r cymeriadau eraill oedd Elin. Fe roedd Elin yn gymeriad hollol wahanol i Rhys. Roedd ei gwisg yr un peth ond roedd y ddau yn hollol wahanol. Roedd Elin angen bywyd cyffroes, ac wrth chwarae bywyd yn dansierus roedd ganddi ffordd dda o greu cyffro yn ei bywyd. Roedd Rhiannon Morgan a oedd yn chwarae rhan Elin yn amlwg wedi mwynhau. Roedd ei llais yn glir ac yn gryf ac roeddwn yn gallu clywed a deall pob air. Roedd rhaid i Rhiannon chwarae lot o rhannau emosiynol. Roedd yn rhoi y emosiwn iawn i lle oedd ei angen. Nid dyma yw’r tro cyntaf i Rhiannon action efo’r cwmni, mae wedi bod gyda’r cwmni rhai blynyddoedd. Rhiannon oedd fy hoff actors yn y cynhyrchiad yma.
Dafydd Evans oedd yn chwarae rhan Wez, y bachgen mewn trwbwl. Roedd ei lais yn gryf iawn ac yn newid efo’i dymer. Roedd o’n gwisgo cot hir du efo gwallt rownd y cynfon. Roedd yn gorfod action rhannau emosiynol iawn, roedd wedi llwyddo i gwneud yn dda. Roedd yn amlwg bod Dafydd wedi edrych i mewn i’w cymeriad.
Roeddwn yn hoffi y ddrama yn fawr iawn ac gobeithio fe gewn ni weld perfformiad gan y theatr yma eto.