Mae’r ail bennill yn dweud ein bod wedi treulio saith can mlynedd yn edrych yn ôl yn hiraethus ar ein gorffennol,
“saith canrif o sôn
am orchestion hen oesau”.
Dywedir yn y trydydd pennill ein bod wedi “sefyll ar erchwyn y dibyn” am saith canrif, h.y. ein bod ni mewn perygl o golli ein hiaith, ein hunaniaeth a’n diwylliant. Mae hi mor oer o gwmpas y garreg goffa nes bod y gynulleidfa â’u “traed bron fferru’n eu hunfan”. Awgryma hyn hefyd ein bod fel cenedl wedi’n parlysu, yn methu symud ac yn gwneud dim i achub sefyllfa Cymru.
Dywedir yn y pedwerydd pennill mai cenedl freuddwydiol ydym, yn “cyfri’r colledion yn dawel” sef meddwl am bobl y gorffennol a’n bod ni hefyd yn “edrych i’r gorwel yn ddistaw” fel petaem yn aros a disgwyl i rywun ddod i achub ein cenedl a’n gwlad. Ac mae’r llinellau yn y pumed pennill sy’n dweud bod yr “awel ar rewi llif Irfon” yn awgrymu ei hi bron ar ben arnom ni ac mai prin yw’r amser sydd gennym i newid ein hamgylchiadau.
Ceir newid yn y gerdd yn y pennill olaf. Yng nghanol distawrwydd y cyfarfod “bloeddiodd y baban” ac mae’n llwyddo i “toddi’r gaeafddydd a chwalu’r distawrwydd”. Mae’r bardd yn defnyddio’r babi fel symbol o “her canrif newydd” a’r neges yw mai’r to ifanc yw ein dyfodol a’r gobaith yw y byddant hwy yn codi eu lleisiau i newid y drefn.
ARDDULL
Ail-adrodd: “saith canrif “
Mae’r cymal “saith canrif” yn cael ei ail-adrodd ar ddechrau pob pennill (oni bai am yr olaf). Pwysleisia hyn faint o amser sydd wedi mynd heibio ers marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf a’r cyfnod mae Cymru wedi bod yn ddi-arweiniad. Mae hefyd yn pwysleisio’r rheswm pam fod pawb yng Nghilmeri y diwrnod hwnnw – i goffáu rhywbeth a ddigwyddodd saith canrif yn ôl.
Trosiad: “ a’r dail yn diferu atgofion”
Mae’r disgrifiad hwn o fyd natur yn adlewyrchu anobaith a sefyllfa dywyll y Cymry. Dod yma i goffáu wnaeth y bobl ac yn sgil y coffáu fe ddaw tristwch dros y bobl. Creda’r bardd fod byd natur yn cydymdeimlo (pathetic falacy) gyda’r bobl a felly creda fod y dail yn colli dagrau o hiraeth am y gŵr a laddwyd yma saith canrif yn ôl.
Cyflythrennu: “...ger carreg Cilmeri
A’r awel ar rewi llif Irfon”
Ceisia’r bardd gyfleu oerfel y tywydd y bore hwnnw o Ragfyr a hefyd oerni teimladau’r bobl wrth iddynt deimlo’n ddi-obaith. Llwydda i gyfleu’r oerfel drwy ddefnyddio’r gytsain galed “r” yn y llinellau sydd bron yn onomatopeia i geisio cyfleu rhywun yn crynu am eu bod mor oer.
Berfau / berfenwau: “yna bloeddiodd y baban
A thoddi’r gaeafddydd
A chwalu’r distawrwydd...”
Wedi i’r holl gyfarfod coffa fod yn un trwm a di-obaith o ran teimladau gyda’r tawelwch yn llethol mae gwaedd y baban yn torri ar y tawelwch. Mae’r berfau yn rhai cadarnhaol i adlewyrchu sŵn yn hytrach na distawrwydd, a gwres yn hytrach nac oerni. Mae cytseiniaid caled yn y berfau er mwyn adlewyrchu’r modd clywedol y tarfodd y baban ar y cyfarfod coffa.
AGWEDD Y BARDD / NEGES Y GERDD
Mawr oedd y galar ar ôl colli’r Tywysog Llywelyn. Roedd y golled yn enfawr a galarodd y beirdd yn yr oes honno. Ysbrydolwyd y bardd Iwan Llwyd i ysgrifennu’r gerdd oherwydd y diwrnod i gofio Llywelyn saith canrif ar ôl ei farwolaeth. Disgrifia pa mor oer a chymylog oedd hi yn ystod y diwrnod o gofio Llywelyn, a defnyddiodd natur mewn ffordd gelfydd i gydymdeimlo gyda’r Cymry. Ond cawn obaith ar y diwedd pan glywn floedd y baban bach sy’n dangos dyfodol i’r Cymry a Chymru. Mae angen gweithredu yn hytrach nag eistedd nôl yn ddistaw a thawel. Mae’r dyfodol yn ein dwylo ni – Rhaid ymladd dros ein gwlad a’i thraddodiadau.