Y chwedegau yng Nghymru.

Authors Avatar

Gwaith cwrs hanes Aled Jones

Y chwedegau yng Nghymru

                Y peth cyntaf sydd rhaid gofyn yw a oedd yna newidiad mawr yn fywyd yr ifanc yn y chwedegau? Yn ôl ffynhonnell A1, sef dyfyniad o bapur newydd y ‘Western Mail’, fedrwn feddwl bod Cymru a’u pobl dal yn credu yn hen draddodiadau a diwylliant y wlad. Bod yr eisteddfod yr un mor boblogaidd yn nawr ac yr oedd deng mlynedd yn ôl. Cyn darllen y dyfyniad fedrwn weld y darlun mae’n ei beintio, y teitl yw “Gwlad y Gān ac Offerynnau”. Er bod y ‘Western Mail’ yn bapur cydnabyddedig nid oes rhaid i’r darlun mae’n ei bortreadu fod yn wir, byddai’r ‘Western Mail’ eisiau plesio ei darllenwyr, y mwyafrif o’i darllenwyr fyddai’r Cymry dosbarth canol, ac y rheini fyddai’r bobl oedd eisiau Cymru aros fel yr oedd, gwlad dawel draddodiadol, byddai’r ‘Western Mail’ ddim ond yn ceisio cadarnhau y ddelwedd yma yn eu meddyliau.

Mae ffynhonnell A2, sef dyfyniad allan o lyfr ‘Pobl, Protest a Gwleidyddiaeth’ gan Gareth Elwyn Jones a gyhoeddwyd yn 1988 gyda darlun hollol wahanol, pan bod ffynhonnell A1 yn cyfleu Cymru fel gwlad gryf, nad yw dan fygythiad a heb profi gweddnewidiad yn fywyd yr ifanc, mae hwn yn cyfleu Cymru fel gwlad gwan, sydd dan fygythiad cryf o’r cyfrwng newydd, sef teledu. Yn y ffynhonnell disgrifir teledu “bygythiad difrifol i’r Gymraeg a Chymreictod”, credu’r hyn oherwydd mae un grwp bychan oedd yn ei rheoli, a Saeson cyfoethog o Lundain ac Americaniaid ar hynny, doedd dim modd i nhw wybod ddim byd am arferion a diwylliant Cymru, felly ni fyddai yn cael i’w gefnogi ar y teledu. Os oedd pobl ifanc yn gwario mwyafrif o’i amser yn ei wylio, neu siarad amdano, a doedd dim agwedd o Gymreictod yn agos iddo mae’n amlwg yn fygythiad. Rydym ni y nawr medru edrych yn ôl a gweld doedd ddim angen poeni, ni chafodd cymaint o effaith a ddisgwylir, rydym dal yn siarad Cymraeg.

Join now!

Yn amlwg wrth y ffynhonnell cynt roedd yna newidiad yn fywyd yr ifanc. Nawr roedd gan yr ifanc mynediad i wybodaeth am ffasiynau y byd, doedd plant y trefi bychan Cymru ddim yn unig, yn gwybod dim am y newidiadau ym myd cerddoriaeth a masnach y byd. Roedd pobl ifanc Cymru y nawr medru fod yn ddarn ôr symudiad bydeang tuag at ryddid. Roedd plant yn gwylio’r teledu talu am setiau radio a siarad i’w ffrindiau am ffasiwn y dydd, doedd pethau nawr ddim yn dilyn patrwm pendant ei cyndeidiau, gyda bygythiad rhyfel ar eu pennau. Roedd y chwedegau yn ...

This is a preview of the whole essay