Mae Ffynhonnell B2 yn profi bod sefyllfa bwyd ym Mhrydain yn mynd yna nobeithiol. Mae’n amlwg nad oedd digon o fwyd ar gyfer pawb, ac nad oedd neb yn ymddiried yn ei gilydd. Roedd y Kaiser yn llwyddiannus, roedd dinistrio’r llongau masnach yn sicrhau nad oedd ddigon o fwyd I bawn ymMhrydain. Mae’r ffynhonnell yn ddefnyddiol gan ei fod ni’n gweld y broblemau oedd yn bodoli yn Nghymru yn 1918.
Doedd dim byd gan y bobl i wneud i wella’r sefyllfa. Mae ffynhonnell B3 yn cefnogi beth mae B2 yn eu ddweud. Mae’n profi bod y llywodraeth yn cosbi’n llym am dorri rheolau dogni, efallai gafodd y ffynhonnell yma ei ddefnyddio fel propaganda i ofni ac i rhybuddio pobl eraill I beidio torri’r rheolau dogni. Gafodd y ffynhonnell yma ei wneud yn 1918 felly mae’n wreiddiol. Mae’r brif teitl yn dweud ‘Defence of the Realm’, o ffynhonnell B1 mae’n bosib weld bod y llywodraeth wedi ymyryd ac felly nid yw’r ffynhonnell yma’n ddibynadwy nag yn ddefnyddiol iawn oherwydd D.O.R.A.
Gafodd y deddf arfau ei gyflwyno. Yn ffynhonell B6(ii) roedd y gweithwyr yn gobeithio bydde’r pobl lleol yn ei gefnogi nhw, gan ei fod nhw’n gweithio am oriau bob dydd ac yn gweithio’n galed ac yn derbyn 26 swllt yn llai na pheirianwyr yr UDA. Ond doedd y pobl ddim am cefnogi’r streicwyr, roeddent yn credy bod y Rhyfel yn beth dda. Roedd y pobl yn meddwl fod y streicwyr yn mynd yn erbyn beth oeddent yn credu ynddo ac nid oeddynt yn haeddu byw, ond heb y streicwyr ni fydd neb yn gwneud yr arfau. Mae’r ffynhonnell yn ddefnyddiol gan ei fod yn cynnwys barn person. Nid yw’n ddibynadwy iawn gan nad oes dyddiad neu enw i’r awdur.
Wrth feddwl am y Rhfel Byd cyntaf ni fydd llawer o bobl yn cysylltu’r Rhyfel gyda menywod, ond gyda dynion yn ymladd, poen ac lladd. Does neb wir yn ystyried fod y menywod wedi chwarae rol pwysig fel y dynion yn ystod y Rhyfel, ond ble bydden ni heddiw heb y menywod yn gweithio adref?
Mae ffynhonnell C1 yn dangos lluniau o menywod cyn y rhyfel. Mae’r menywod yn gwisgo’r gwisgoedd ffasiynnol y cyfnod. Roedd llawer ohonynt yn gweithio mewn ffactrioedd ac swyddi oedd yn golygu bod rhaid iddynt symud yn gyflym. Doedd ei swyddi ddim yn caniatau iddytn wisgo sgertiau hir ac hetiau,roedd rhaid iddynt gwisgo trowsus ac crysau t fel y dynion. Nid yn unig yn ystod gwaith y byddai’r fenywod yn gwisgo trowsus ond yn ystod ei amser hamdden hefyd.
Roedd y menywod yn barod I weithio, roeddent eisiau chwarae rhan yn y Rhyfel. Roedd y mudiad y Suffragettes yn barod I anghofio am ei cweryl gyda’r llywodraeth ac i cyd-weithio,’Mae milwaith fwy o ddyletswydd ar y Suffragettes i ymladd y Kaiser nag i ymladd y llywodraeth sy’n gwrthwynebu ein rhyddfreinio’, dyfyniad o araith gan Mrs Pankhurst yn 1914, er mwyn helpu ennill y Rhyfel ac efallai ei deuluoedd’, efallai y bydd y sieliau mae’r marched yn eu gwneud yn arbed bywydau eugwyr’, oedd propaganda oedd yn ceisio gwneud i’r fenywod gweithio’n galetach. Roedd Propaganda yn chwarae rol arbennig, yn denu menywod i weithio, roedd posteri recriwtio fel y gwelwyd yn CYMRU A PHRYDAIN 1906-51 ac ffynhonnell C3 yn dangos i fod yn llwyddiannus iawn gan fod 400,000 o fenywod yn gweithio mewn ffatrioedd, ar y tir, fel dyn post ac plismyn. Roedd y menwyod yn llwyddiannus ac yn ddibynnol heb unrhyw cyngor or ddynion roedd rol y merched yn ystod y 4 mlynedd o Ryfel wedi profi beth oedd y Suffragettes yn ceisio profi am 50 mlynedd.
Ar Gorffennaf 1915, fe aeth 30,000 o fenywod ar orymdaith brotest iLundain, gyda Mrs Emmeline Pankhurst yn ei arwain gyda chefnogaeth Lloyd George yn mynnu’r ‘Hawl I Wasanaethu’. Wrth gwrs nid oedd Lloyd George am ddweud na I’r fenywod , pwy fydde’n gweithio mewn y ffatrioedd tra oedd y dynion i ffwrdd? Mae ffynhonnel C2 yn dweud y byddai y menywod yn derbyn cyflog teg. Doedd Lloyd George ddim yn cadw at ei air bob tro gan nad oedd yn rhoi’r un cyflog I’r menwyod a rhoddir I’r dynion, syth ar ol i’r ddynion ddod nol o’r Rhyfel, doedd y llywodraeth ddim angen i’r menwyod gweithio iddynt rhagor felly roedd rhiad ‘ gadael iddynt fynd’.Oherwydd roedd y menywod am weithio roedd ei statws yn y wlad n codi. Roedd gweithio yn enwedig i fenywod y dosbarth canol ac fenywod gyfoethogyn beth newydd iddymt roedd y gwaiht a popeth a ddaeth gyda fey n profi I fod yn beth dda i’r menywod gan ei fod llawer fwy annibynol heb ei gwr/ cariad. Mae’r ffynhonnell yn ddefnyddiol gan fod llawer ohoni yn cynnwys ffeithiau. Mae’n dangos newid rol y merched yn ystod y Rhyfel ac beth oedd y Llywodraeth yn meddwl amdanynt. Rwy’n credo beth wnaethLLoyd George ar gyfer y fwnywod yn ystod y Rhyfel wedi cael effaith barhaol ar y fenywod. Roedd Lloyd George wedi cymryd y cam cyntaf trwy ddangos ei fod yn barod i ymddiried yn y fenwyod ac i’w ddrin yn hafal. Ar ol y Rhyfel gafodd fenywod dros 30 yr hawl i fleidleisio. Roedd hyn yn rhoi fwy o hyder i’r fenywod ac roedd ei dyfodol yn edrych i fod yn un bositif.
‘Fe fyddai wedi body n gwbl amhosibl I ni ymladd Rhyfel llwyddiannus hebsgilisu, brwdfrydedd o gwaith dyfal merched y wlad hon’, David Lloyd George 1918. Ma’e amlwg roedd Lloyd George yn ddiolchgar iawn I’r fenywod am gweithio yn ystod y Rhyfel ac roedd yn meddwl llawer ohonynt.
Mae ffynhonnell C5 yn profi bod menwyod yn parhau gyda’i fywydau tra oedd y dynion i ffwrdd yn ymladd. Gan fod gan y menwyod fwy o rhyddid mae’n amlwg ei fod yn cmyryd mantais, heb y dynion yno doedd neb yna iddynt coginio bwyd ac felly roedd mynd allan i tai bwyta yn beth arferol i fenyowd wneud yn ystod y Rhyfel. Roedd gan y fenywod fwy o hyder, roeddynt yn ennill cyflog ac roeddent yn mynd allan i’r theatre ac yn ysmygu. Roedd arferion menywod wedi newid o fod yn swil a gweithio gartref I fywyf wfy agored a chyffrous.
Ar ol y rol pwysig y fenywod yn ystod y Rhyfel, penderynnodd Lloyd George ei gwobrwyo. Roedd y Senedd am adael i fenywoddros 30 mlynedd oed i fleidleisio, roedd hyn yn beth pwysig I’r fenwyod ac i’r Suffragettes oedd yn ceisio ennill hawliau u fenywod. Roedd 385 o bobl o blaid i’r syniad oedd yn dangos fod y Llywodraeth ar Senedd yn credo bod y menywod yn haeddu cael bleidleisio. Roedd y Deddf yn weithredol yn 1918, ac roedd pawb yn canmol Lloyd George ar fenywod. Mae C6 yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy gan ei fod yn rhoi’r canlyniadau’r bleidlais or Senedd ar cyhoedd yn Ragfyr 1917.
Cyn y Rhyfel roedd llawer o dosbarthiadau gwahanol, roedd y cyfoethog yn gyfoethog iawn, tra oedd y tlodion yn dlawd iawn. Nid oedd neb yn helpu ei gilydd. Roedd y menywod cyfoethog yn aros gartref, doedden nhw ddim yn gweithio ac roedd y pobl tlawd yn gweithio pob awr oedd ar gael. Ond yn ystod y Rhyfel fe wnaeth pawb tynnu at ei gilydd. Fe ddaeth y pobl tlawd allan yn well yn y diwedd.
Mae ffynhonnell Ch1 yn dweud cyn y hyfel roedd llawer o bobl yn siarad gymraeg ac felly roedd y papur newydd yn y iaith Gymraeg er mwyn sicrhau llwyddiant y papur. Ond yn ystod ac ar oly Rhyfel roedd y iaith Gymraeg yn ddirywio. Roedd y iaith yn dirywio felly nid oedd opsiwn ganddynt ond newid y bapur I fod yn un saesneg. Yn ystod y Rhyfel gafodd llawer o C ymru Cymraeg ei lladd a dyna’r rheswm am fod rhaid i’r papur newydd newid gan fod poblogaidd y Cymru wedi disgyn.
Roedd safonau bwyd yn disgyn yn ystod y Rhyfel, gydadogni y prif rheswm. Mae ffynhonnell Ch2 yn dangos teulu cyfoethog yn sytod y Rhyfel. Mae’n amlwg bod eu bywydau au safonau wedi newid llawer. Yn y llun gyntaf mae’r bwrdd yn llawn bwyd tramor e.e. Pin afal. Mae ganddynt gweision oedd yn ddynion ac mae’’r menywod i gyd yn gwisgo dillad ac gemwaith foethus. Ond un aelod or deulu sydd wedi ymuno ar ymladd. Yn y llun olaf mae’n bosibl weld newid sylweddol. Mae pob aelod or teulu nawr yn gwisgo’r gwisg rhyfel, hyd yn oed y bachgen bach. Mae’r mam yn gweini, roeddynt yn teimlo’n hyderus bod y Rhyfel am orffen yn y llun gyntaf, ond yn y llun olaf mae ei morale yn isel, nid ydynt yn edrych yn hapus iawn gan fod y Rhyfel wedi para mor hir, nid oedd neb yn disgwyl iddo para 4 mlynedd.Nid oes lawer o fwyd ac mae’n bosib weld tocynnau dogni. Mae’r ffynhonnell yn un gwreiddiol. Mae’n un ddefnyddil gan ei fod yn dangs y newidiadau roedd pawb yn gorfod gwneud a sut roedd safonau bywyd pobl cyfoethog yn cwympo. Dydw i ddim yn credu ei fod yn hollo ddibynadwy gan ei fod yn gartwn ac ei fod yn farn person, gall yr awdur gorliwio’r sefyllfa fel mae cartwnau yn aml yn ei wneud.
Gan fod llawer o bobl enwedig y dynion, allan yn ymladd neu’n gwasanaethu’r wlad mewn ffordd arall, roedd yn anodd iawn cael gafael ar pobl i weithio fel gweision mewn chartrefi y pobl cyfoethog. Mae ffynhonnell Ch3, sy’n eilaidd, yn dangos ei fod yn amlwg fod cael gweision a fod yn ddiog yn beth pwysig I bobl yn ystod yr amser hon ac roedd y pobl cyfoethog yn hoffi frolio am ei fod yn ddi-waith ac yn gallu afforddio gweisiom i weithio yn y ty. Roedd y menywod yn gallu cael swyddi yn gyflym iawn mewn ffatri yn ystod y Rhyfel, felly nid oedd angen iddynt eithio fel morynion roedd fwy o ddewis ganddynt. Roedd rhaid ir cyfoethogion gwenud pethau dros ei hun, roedd rhai ohonynt yn mynd allan i weithio am y tro gyntaf ac roeddynt yn teimlo’n fwy rhydd gydaennill cyflogau ei hun. Mae’r ffynhonnell yma’n cyd-fynd gyda ffynhonnell Ch2, Mae’n dangos bod cyflogi gweision yn ystod y Rhyfel yn mynd yn anoddach.
Mae’r ffynhonnell Ch4 yn son am y Capeli. Fe aeth Lloyd George ir Capeli ac dweud iddynt danfon y dynion i ffwrdd i ryfela, a bydde’r Rhyfel yn golygu llwyddiant ir wlad a bydd e’n drosodd erbyn Nadolig, wrth gwrs rodd y Capeli yn ymddiried yn Lloyd George gan ei fod yn Gymro ac yn aelod pwysig o’r llywodraeth. Fe aeth y dynion i Ryfela ac wrth wneud hynny sylweddolon nhw peth bwysig iawn. Nid oedd y bobl yn ymddiried yn y Capeli rhagor ar ol iddynt cael profiad o beth oedd Rhyfel gan wybod fod nhw yna oherwydd y Capel. Yn ystod y Rhyfel sylweddolodd y dynion fod yna llawer fwy o bethau yn bwysicach na iaith ee gweithio er mwyn cynnal ei deuluoedd, roedd y dynion yn gweld y Capeli yn ei yrru i farwolaeth. Roedd mynd I’r Capel I bobl Cymraeg oedd addysg, cymdeithasu ac I ymarfer y iaith, felly roedd y dewis i beidio mynd ir Capel yn dewis fawr gan y Capel oedd y ganolbwynt yn ei fywydau. Mae’n ffynhonnell eilaidd. Mae’n ddefynddiol ac yn ddibynadwy gan ei fod yr hanesydd yn arbenigwr ar Gymry, ac mae’n amlwg ei fod yn ymchwilio llawer i fewn i’r pwnc.
Mae ffynhonnell CH5 yn profi bod safonau bywyd pobl tlawd yn gwella. Roedd eu amodau byw yn gwella hefyd, oherwydd roedd yn bosib i’r bobl tlawd cadw swydd am gyfnod hir roedd yn bosibl i’r pobl tlawd prynu bwyd ac dillad oedd angen arnynt, roedd dogni yn sicrhau ei fod yn cael yr un nifer o fwyd fel pawb arall. Oherwydd fod y mam yn cael bwyd iachus roedd y babi yn cael bywydau well yn golygu bod llai ohonynt yn marw. Gyda’r dynion i ffwrdd ac rheolau llym ynglyn ag yfed yn golygu bod yna fwy o arian ar gyfer bwyd ac er mwyn creu safonau gwell. Roedd y menywod yn gweithio yn ystod y Rhyfel yn golygu bod fwy o arian ac roedd y fenywod yn gwybod beth oedd angen prynu ar gyfer y teulu.
Mae’n amlwg bod y Rhyfel wedi effeithio llawer o bobl. Roedd ffactorau fel dogni, DORA, newid mewn safonau merched a’r dynion yn mynd i ffwrdd ymladd wedi newid y pobl ac ein wlad.