I ddweud y gwir nid wyf yn difaru ddim mynd ar yr awyren yn ôl i Gymru. Bach o amrywiaeth, bach o antur. Hoffwn weld ei wyneb pan nad wyf yn dod nôl. Tybed a fydd e’n poeni am danaf. Na allai ddim gredu, bydd e yn coli fi, yn ôl pob tebyg ni fydd wedi deall fy mod i wedi mynd i ffwrdd. A fydd Karen a Brian y beio fi. Beth os na fydden nhw byth yn siarad a fi byth eto. Well, stwffio nhw. Dydyn nhw byth wedi gwneud rhywbeth neis i fi na dweud gair neis. Ta beth mae nhw’n hyn nawr, dydyn nhw ddim angen mami o gwmpas rhagor.
Os oedd yr hen brifathrawes yno dwi’n gwybod fod genni hi rywbeth i ddweud a fydd yn gwneud i mi deimlo fel morgrug. “What was man’s most important invention?” Rwy’n cofio yn gwbl glir y dydd yno. Yr atebion dwl ddaeth pobl allan gyda fel “sputnik,automatic washing machine.” Rwy’n cofio, ar ôl i’r brithathrawes rhoi fy llaw lawr, fi oedd yr unig berson oedd yn gallu roi yr ateb cywir iddi, a synhwyrol. Pan gofynnod hi i mi, arhosais am eiliad cyn ateb “The Wheel, mans most important invention was.” A chyn i mi gael amser i orffen roedd yr hen wrach na yn dweud fy mod i wedi cael yr ateb wrth i rywun dweud wrtha. Sut ar y ddaear ydyn ni mynd i ddysgu pethau heb i bobl dweud wrthyn. Fy nhad a dangosodd i yr ateb yno, gyda llawer mwy i ddweud y gwir. Rwy’n collu fy nhad, ai ‘Encyclopedia Britannica’
Roslyn Richards. Y ferch fwyaf galliog a del yn yr ysgol. Siarad yn ramadegol gywir trwy’r dydd a nos, marcio uchel ym mhob prawf a pob ddarn o waith . A beth ydy hi nawr? Bloody Putain! A dweud y gwir un olygus ydy hi. Wel mae’n rhaid i chi fod os ydy dynion a menywod dros y wlad yn mynd i dalu chi am ryw. International Prostitute. Pwy a wyr?
Dyna hen ddigon am y gorffennol, well i mi ddechrau meddwl am y dyfodol, a meddwl yn galed. Wel yn gyntaf mae’r heulwen, y môr,y dynion, tywod, dynion, y bwyd tropical fel squid, pysgod fresh.
Ydw dwi’n gwneud y peth iawn. Yr unig beth dwi’n adael ar ôl yw Jane. Gweiddith hi nerth ei phen bach yn y ciw yn y maes awyrennau arnaf i i ddod nôl. Dydw i ddim yn gwybod pam na af i yn ôl, na chwaith pan gerddais i ffwrdd.
Tybed ble fyddwn yn aros, sut fyddwn i’n byw. Tybed a ydy Costas yn gwybod rhywun a fydd yn rhoi gwely i mi am wythnos neu ddwy, jest digon o amser i mi gael swydd, a digon o arian i dalu rent rhywle, ac i brynu bwyd. Wel dynna ni, ‘Point Of No Return’. Nid Shirley Valentine o Gymru, ond nawr Shirley Valentine in Corfu.