Yn ôl y ddeddf hon roedd rhaid i gyrff cyhoeddus baratoi cynlluniau iaith oedd yn profi sut oeddynt am roi triniaeth teg i’r iaith Gymraeg yn y dyfodol, ac o’i herwydd, sefydlwyd Bwrdd yr iaith Gymraeg. Prif bwrpas y Bwrdd oedd gweithredu Deddf yr iaith Gymraeg 1993, a golyga hyn mai un o’i phrif dyletswyddau yw sicrhau diogelwch yr iaith drwy greu cynlluniau iaith a’r gyfer ei hadfer yn y dyfodol. Yn y cynllun iaith hwn, maent yn gofyn i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â hwy wrth geisio cael y Gymraeg yn statws cyfartal a llwyddwyd i wneud hyn gyntaf pan sefydlwyd yr egwyddor o osod arwyddion dwyieithog yng Nghymru. Bwriad y Bwrdd hefyd yw i fanteisio ar bob cyfle y caent i hyrwyddo’r iaith a’i defnydd o fewn bywyd bob dydd, a rhai o’i phrif flaenoriaethau yw:-
- Polisiau Iaith Gymraeg (i fusnesau)
- Addysg Gymraeg (sicrhau bod digon o ysgolion Cymraeg ymhob ardal)
- Teuluoedd a’r Gymuned
-
A chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc.
Nodir uchod bod gweithredu Polisïau Iaith Gymraeg o fewn busnesau yn un o flaenoriaethau’r Bwrdd. Golyga hyn bod rhaid i fusnesau gynnig gwasanaethau dwyieithog i’w cwsmeriaid o hyn allan. Dadlau a yw mudiadau a pholisïau tebyg i hyn yn dylanwadu ar ddatblygiad y Gymraeg yw nod fy nhraethawd ac mae’n anodd cytuno â hyn wrth imi ddarllen hanes Osian Jones, aelod o Gymdeithas yr Iaith. Ym mis Tachwedd 2009, carcharwyd Osian Jones o Ddyffryn Nantlle am 28 diwrnod am iddo beintio sloganau ar furiau siopau ‘Boots’ a ‘Superdrug’ yng Nghaernarfon, Bangor a Llangefni oherwydd diffyg eu gwasanaethau o fewn y Gymraeg. Hwn yw’r ddedfryd hiraf i ymgyrchydd iaith ers 1991. Ers dros ugain mlynedd mae Cymdeithas yr Iaith a Bwrdd yr Iaith wedi bod yn gofyn am hawliau cyfartal i’r Cymry a’r Saeson, ac er y polisïau sydd i’w cael gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg nid yw’r Cymry wedi ennill eto. Mynnu Deddf Iaith newydd arall wna Cymdeithas yr Iaith, ac ers 1993/4 maent wedi bod yn ymgyrchu i hawliau siaradwyr Cymraeg gael eu parchu. Yn amlwg, does fawr o newid wedi bod oherwydd gwynebu carchar wna aelod arall o Gymdeithas yr Iaith am iddo wneud safiad dros ei iaith a’i wlad. Dadleua rhai mai dull newydd o weithredu sydd ei angen er mwyn denu sylw’r llywodraeth oherwydd defnyddir y dull o brotestio’n ddi-drais ers degawdau ac nid oes newidiadau mawr wedi cael eu gwneud. A yw’n syniad croesawu dulliau treisgar unwaith eto, fel cafwyd gyda Merched Beca? Neu ai dyfalbarhad ac amynedd yw’r ateb? Rhybuddiodd Osian 'gallai'r degawd nesaf gweld dinistriad y Gymraeg fel iaith gymunedol' os na welwn newidiadau yn fuan, felly mae angen gweithio’n sydyn.
Canolbwyntia Bwrdd yr Iaith ar gynllunio iaith. Creuir gynlluniau a pholisiau er mwyn cryfhau’r Gymraeg ac ymdrechu i ddylanwadu ar ffwythiant neu strwythur iaith. Gweler yn yr adroddiad Iaith Pawb a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y bydd gwaith gwerthfawr Bwrdd yr Iaith yn parhau yn y dyfodol gydag arweiniad y Llywodraeth. Ychwanegir £16 miliwn i grantiau blaenorol y Bwrdd am y dair mlynedd nesaf er mwyn iddynt wella eu rhaglenni a’u polisïau eu hunain yn ogystal â ychwanegu at grantiau mudiadau eraill megis Ysgolion Meithrin, yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd a Mentrau Iaith. Gwelir hyn fel cam bositif yn y llyfr ‘Language Revitalization; Policy and Planning in Wales’
“Recent increased donations by the Welsh Language Board to the mentrau iaith suggest that the board’s thinking is creative.”
Felly gyda’r arian ychwanegol mae gobaith y bydd mentrau iaith, a’r sefydliadau eraill yn ogystal, yn llwyddo i ddylanwadu hyd yn oed yn fwy a’r ddatblygiad y Gymraeg o fewn ein cymunedau.
Rwyf wedi dewis canolbwyntio ar fudiadau dwy ardal wahanol sef ein Prifddinas, Caerdydd a fy milltir sgwar, Sir Ddinbych a bwriadaf eu cymharu’n feirniadol â mudiadau iaith sydd i’w cael ym Mhatagonia. Dewisiais Gaerdydd oherwydd mai hi yw Prifddinas Cymru ac yno mae rhan fwyaf o wleidyddiaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn cael eu trin. Rhagdybiais y byddai llawer iawn o ymwybyddiaeth a gweithgareddau yn ymwneud â datblygiad yr iaith yn yr ardal hon a chefais fy mhrofi’n gywir wrth i mi ymchwilio ar hyd wefanau megis Menter Iaith Caerdydd. Mae pob menter lleol yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau yn seiliedig ar yr anghenion lleol. Maent yn cynnig cymorth i rieni ar sut i fagu eu plant yn ddwyieithog ac yn trefnu mudiadau megis ysgolion meithrin ar eu cyfer. Maent hefyd yn cynnig cymorth i fusnesau neu elusennau hysbysebu eu gwaith yn ddwyieithiog ac yn darparu cysylltiadau cyfieithu ar eu cyfer. Mae hyn oll yn sylfaen gref i’r Gymraeg ac yn dylanwadu’n enfawr ar ei datblygiad tua’r dyfodol. Credaf bod ardal Caerdydd yn llwyddianus iawn yn gwneud hyn oherwydd trefnir nifer o wahanol brosiectau er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg o fewn cymdeithas, er enghraifft, gwersi dawns, canwio, coginio, gweithdy ffilm, a gweithdy dj i bobl ifanc y ddinas tra maent ar wyliau ysgol. Golyga hyn iddynt gael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i furiau’r ysgol ac mae gobaith iddynt dyfu’n fwy hyderus i allu chwarae’n y Gymraeg. Ceir cyfleuon gwerthchweil i ieuenctid gymdeithasu a chyfarfod pobl newydd a hynny drwy drio pethau newydd a chyffroes megis beicio mynydd neu sioeau cerdd. Llwydda Menter Caerdydd hefyd i gydweithio â’r Urdd i drefnu penwythnosau llawn adloniant i deuluoedd yng Ngwersyll Llangrannog. Cyfle ydyw i deuluoedd ymlacio a chael hwyl yng nghwmni ei gilydd mewn awyrgylch gwbwl Gymraeg. Yn bur aml os oes un rhiant di-gymraeg i’w gael mewn teulu, yna Saesneg fydd iaith magwraeth y plant ac mae’r cyfle wedi ei cholli i drosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf, ac mae hyn yn golled enbyd. Pwrpas penwythnosau fel hyn yw i gael rhieni i gymdeithasu drwy’r Gymraeg gyda’u plant, ac i blant fwynhau chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’u brodyr a’u chwiorydd. Ar eu gwefan ceir wybodaeth ynglyn â unrhyw glwbiau plant, meithrinfeydd a chyrsiau gwyliau sydd i’w cael drwy’r Gymraeg sydd yn sicr, yn fy marn i, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn llwyddiannus iawn.
*Tabl gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Cyfrifiad 2001, prif ystadegau am y Gymraeg.
Gwelir yn y tabl uchod bod canran y siaradwyr Cymraeg yn 20% yn fwy yn Sir Ddinbych o gymharu â Chaerdydd ym 1991 ac yn 15% yn fwy yn 2001. Mae hyn yn gwrthfynd â’r hyn roeddwn wedi ei ragdybio ond wedi imi gysidro cymaint o fewnfudwyr sydd i’w cael yn y Brifddinas, mae’r canlyniad yn gwenud synnwyr. Ond, yn fy marn i, yr hyn sy’n bwysig tynnu sylw ato yw’r ffaith bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych wedi gostwng 0.3% rhwng 1991 a 2001, a chynnydd o 4.4% wedi bod yng Nghaerdydd. Dengys hyn bod mudiadau iaith y Brifddinas wedi bod yn llwyddiannus iawn yn eu hymgyrch i adfywio’r iaith. Ond beth yw arwyddocad gostyngiad siaradwyr Cymraeg Sir Ddinbych? Gall hyn olygu nad yw dylanwad mudiadau iaith ar y Gymraeg yn un gref iawn, ond efallai mai rhai o syniadau Caerdydd sydd ei angen ar Sir Ddinbych.
Mae cymhariaeth mawr i’w gael rhwng Menter Caerdydd a’r menter iaith sydd i’w gael yn fy mro i, sef Sir Ddinbych. Mae dros 93 mil o bobl yn byw yn Sir Ddinbych yn ôl cyfrifiad cenedlaethol 2001 ac dim ond 26.4 % o’r rheini sy’n siarad Cymraeg felly mae angen gwasanaethau a gweithgareddau i hybu’r iaith yn yr ardal. Gellir dweud yn syth nad oes cyfleusterau cystal â Chaerdydd i’w cael ganddynt oherwydd nad oes gan Menter Iaith Sir Ddinbych wefan annibynnol sy’n hysbysebu eu gwasanaethau. Rhennir mentrau iaith y gogledd yr un wefan ac mae eu gwybodaeth yn gyfyngedig oherwydd hyn. Er hyn, ceir gweithgareddau dal eu trefnu, ar gyfer yr ifanc yn bennaf, er enghraifft, gweithdai cerdd gyda Brigyn mewn rhai ysgolion yn Rhyl, gwersi drymiau gyda Deian Elfryn yng nghlwb ffermwyr ifanc Nantglyn a chynllun ‘Cymraeg i’r Teulu’ sy’n cynnig hyfforddiant i rieni ar patrymau iaith syml i’w dysgu i’w plant. Rwy’n cael yr argraff nad yw gwefan Menter Iaith Sir Ddinbych yn cael ei hadnewyddu’n aml oherwydd ceir ddigwyddiadau o 2008 eu hysbysebu ar eu gwefan. Mae hyn yn achosi i mi feddwl nad oes cymaint o ymdrech yn mynd i hyrwyddo’r Gymraeg yn Sir Ddinbych o gymharu â’r gwaith caled amlwg a geir yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, gweler eu bod yn cyd weithio â mudiadau eraill, megis, Ysgolion Meithrin, TWF, Yr Urdd a chlwbiau Ffermwyr Ifanc lleol er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Nyffryn Clwyd. Yn fy marn i, credaf yn gryf y byddai Sir Ddinbych yn manteisio ar gael menter iaith tebyg i un Gaerdydd lle byddo mwy o ymwybyddiaeth a digwyddiadau cyfoes yn denu ieuenctid yn ogystal â theuluoedd i gymryd mantais o’u gwasanaethau.
Wrth ymchwilio â gwefan cyngor Sir Ddinbych deuais ar draws eu cynllun iaith. Wedi Deddf Iaith 1993 roedd rhaid i bob ardal ddylunio cynllun iaith yn dangos sut oeddynt yn bwriadu darparu gwasanaethau cyfartal o fewn cymunedau Cymru. Disgrifia cyngor Sir Dinbych sut maent am weithredu’r “egwyddor a sefydlwyd gan Deddf yr Iaith Gymraeg wrth ymyrryd â busnes cyhoeddus, ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, cyn belled ag y bo’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol. Gwelaf yn y cynllun iaith hwn pa mor frwdfrydig yw cyngor Sir Ddinbych i ddiogelu ac hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg. Gwnaed hyn drwy ymdrin â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg, gan ganolbwyntio ar y Gymraeg yn y gweithle, hynny yw drwy staffio, recriwtio, a chynnig hyfforddiant yn y iaith, a chan fonitro’r cynllun yn drylwyr drwy ddelio â chwynion ac adolygu a diwygio’r cynllun.
Nid yn unig rhwng ffiniau Cymru mae mentrau iaith yn gweithio, ond cychwynir gynllun newydd er mwyn cryfhau’r Gymraeg yr holl ffordd ym Mhatagonia, yn Ne America. Ym 1865, hwyliodd dros hanner cant o Gymry ar y llong Mimosa i Dde America er mwyn osgoi tlodi a gormes landlordiaid. Ymgartrefon nhw yn nyffryn yr afon Chubut ym Mhatagonia gan greu bywyd newydd iddyn nhw eu hunain. Wrth ddatblygu i ffordd o fyw yn eu cartref newydd, sicrhaent eu bod yn cadw traddodiadau eu ‘hen wlad,’ sef Cymru. Ac erbyn heddiw mae cannoedd o bobl, rhai â dim cysylltiadau o gwbl â Chymru, yn ymuno â’i gilydd yn flynyddol i ddathlu Gwyl y Glaniad ar Orffennaf 28ain. Dethlir hyn hefyd yng Nghymru er côf am y rhai a hwyliodd i Dde America. Cynhelir Eisteddfodau hefyd ym Mhatagonia, sydd wedi ei phatrymu ar Eisteddfodau Cymru, a daw llu o bobl ynghyd i gystadlu ar ganu, adrodd, dawnsio a chystadlaethau eang eraill. Er mwyn parchu gwaith y rhai a fewnfudwyd i’r wlad bron i ganrif a hanner yn ôl, crewyd fudiadau iaith ym Mhatagonia i gynnal a datblygu’r iaith Gymraeg. Y gyntaf, sefydlwyd Cymdeithas Cymru-Ariannin ym 1939 gan unigolion oedd â chysylltiad â’r Wladfa yn Chubut. Cymdeithas elusennol yw hi, hyd heddiw, ac mae’n gyfrifol am drefnu teithiau cyfnewid rhwng athrawon, myfyrwyr a gweinidogion Cymru a’r Ariannin. Maent hefyd yn noddi myfyrwyr o’r Ariannin i ddod i Gymru fel rhan o’u cwrs astudio neu er mwyn ehangu eu gorwelion o fewn y Gymraeg. Helpa Cymdeithas Cymru-Ariannin gynnal a chefnogi Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a Chanolfan Gymraeg yr Andes, sy’n ddylanwadau cryf iawn ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg. Dylanwad enfawr arall ar barhad a datblygiad yr iaith ym Mhatagonia yw Menter Patagonia. Sefydlwyd y fenter hon ym mis Ebrill 2008 er mwyn cefnogi’r cynllun dysgu sydd mewn bodolaeth yno ers dros deng mlynedd bellach. Ei phrif amcanion yw:-
- Darparu cyfleoedd i gymdeithasu trwy’r Gymraeg
- Cyfleoedd i unigolion astudio a gweithio yng Nghymru
- Cyfleoedd i unigolion o Gymru wneud gwaith gwirfoddol yn y Wladfa efo’r Cynllun Dysgu Cymraeg a’r Fenter Iaith
-
Magu cysylltiadau a datblygu cyfleoedd sy’n cryfhau’r Gymraeg.
Daeth nifer o fudiadau ynghyd er mwyn creu Menter Patagonia, er enghraifft, Mentrau Iaith Cymru, yr Urdd, Cymdeithas Cymru Ariannin a’r Cyngor Prydeinig. Er mwyn hybu’r Gymraeg yn yr Ariannin maent wedi hysbysebu’r wefan a gweithgareddau’r menter ar Facebook a Twitter. Credaf bod hyn yn syniad effeithiol iawn i ddenu sylw yr ifanc at ddefnydd y Gymraeg. Gweithredu yn yr un modd â mudiadau Cymru a wna Menter Patagonia, a llwyddant i gyflawni yr un nod ac amcanion. Yn ddiweddar, yn un o amgueddfeydd mwyaf Patagonia, cyfieithwyd yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd i’w cael yno o’r Sbaeneg i’r Gymraeg. Mae’n syndod i mi felly nad yw’r awdurdodau yma yng Nghymru yn ein cymryd o ddifrif pan rydym yn mynnu dwyieithrwydd teg o fewn ein cymunedau, tra bo amgueddfa mewn pentre’ fechan ym Mhatagonia yn llwyddo i gael yr hyn yr ydym ni yn erfyn amdano. Mae hyn yn peri imi feddwl mai’r Llywodraeth yw un o brif rwystrau’r iaith Gymraeg heddiw, er cymaint yw dylanwad mudiadau iaith ar ei datblygiad, mae’r Llywodraeth yn eu rhwystro hwy rhag gwireddu’r hyn sydd ei angen er mwyn cael Cymru gwbl ddwyieithog.
I gloi, rwyf wedi dod i’r canlyniad bod y mudiadau iaith hyn wedi bod yn ddylanwad cryf iawn ar ddatblygiad a pharhad ein hiaith ar hyd y blynyddoedd ac mae gennyf ffydd ynddynt y byddan nhw’n parhau gyda’u gwaith caled yn y dyfodol a bydd yr oblygiadau yn rhai syfrdanol. Yn sicr, mae gwendidau i’w gweld mewn ambell maes, er enghraifft, nid yw Cymdeithas yr Iaith wedi llwyddo i gael dwyieithrwydd teg yn ein cymunedau eto, ac hefyd y gostyngiad yn y canran o bobl oedd yn siarad y Gymraeg yn Sir Ddinbych rhwng 1991 a 2001. Er hyn, mae dyfalbarhad y mudiadau hyn ar hyd y blynyddoedd yn sicr wedi achub yr iaith Gymraeg, yn fy marn i. Heb unigolion megis, Saunders Lewis a’i weledigaeth ac heb waith caled Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Mentrau Iaith y byddai ein mamiaith yn ddim ond atgofion.
Llyfryddiaeth
- http://www.menterpatagonia.org/cymraeg/amcanion.
- www.byig-wlb.org.uk
-
Williams, Colin H, ‘Language Revitalization; Policy and Planning in Wales’ : Cardiff, University of Wales Press, 2000
-
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; ‘Y Gymraeg yn Goroesi Globaleiddio.’ Aberystwyth, 2002
-
Phillips, D, ‘Trwy ddulliau Chwyldro ...? Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962 -1992’
http://www.thereddragonhood.com/pages/cym_blue.html
http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/yriaithgymraeg/Pages/YGymraegarGyfraith.aspx
Williams, Colin H, ‘Language Revitalization; Policy and Planning in Wales’ : Cardiff, University of Wales Press, 2000
Amcangyfrifon ar gyfer yr awdurdodau unigol
http://www.menterpatagonia.org/cymraeg/amcanion.