Y Synagogue: "Ty cwrdd, Ty Gweddi, Ty Dysg"

Authors Avatar

Aseiniad Gwaith Cwrs TGAU mewn Astudiaethau Crefyddol

Y Synagog

Iddewiaeth

Cwestiwn 1

“Ty cwrdd, Ty Gweddi, Ty Dysg"

Mae Synagog yn ganolfan gymunedol i’r Iddew heddiw ac mae fel petai’n ail gartref iddynt. Weithiau bydd y gymuned Iddewig yn ei chael hi’n anodd i godi digon o arian er mwyn prynu safle addas er mwyn cynnal gwasanaethau iddewig felly byddant yn mynd i dai eu gilydd. Dyna sut dechreuodd lawer o synagogau.

        Mae llawer o synagogau yn cynnal gwasanaethau bob dydd . Byddant yn cynnal gwasanaeth yn y bore a’r hwyr ac hefyd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnal ar y Saboth ac ar ddyddiadau gwyliau’r Iddew. Ni fedr Iddewon addoli’n hawdd iawn ar ei ben ei hun oherwydd bod eu haddoli’n golygu cyd—drafod a gwneud cymaint o bethau ynghlwm âr bywyd iddewig gyda’i gilydd.

        Mae gan y rhan fwyaf o synagogau lawer o ystafelloedd er mwyn cynnal gweddi, cyfarfodydd a gweithgareddau cymdeithasol a hefyd i addysgu. Ond, mewn rhai synagogau hyn dim ond un ystafell fawr a geri o fewn y synagog sef y brif ystafell a ddefnyddir ar gyfer pob math o weithgareddau.

        Daw’r gair “Synagogue” o’r gair Groegaidd ‘Sunageun’’, a gelwir y synagog yn Shul neu teml gan Iddewon Almaeneg a hefyd yn Bet Haknesset. Mae tri enw arno; sef  “Ty Cwrdd”, “Ty Gweddi” a “Ty Dysg” aphob un ohonynd yn dweud rhywbeth am y ffordd y ddefnyddir yr adeilad. Serch hynny,   “Ty Cwrdd” yw’r enw a ddefnyddir yn Israel. Yn y Synagog felly, gellir dweud fod yr iddew’n cyflawni tri pheth pwysig sef gweddio, astudio a chynorthwyo eraill.

Sut y dechreuodd y Synagogau?

Credir i Synagogau darddu yn oddeutu 25 canrif yn ôl ym Mabilon. Doedd dim lle i'r Iddewon a oedd yn gaethglud yno i addoli Iawe  

felly dyma nhw’n dechrau ymgynnull yn eu tai er mwyn cyd-weddio ac astudio’r Torah (llyfr sanctaidd yr Iddew) i gadw’r ffydd yn fyw. Yn ddiweddarach gosodwyd adeiladau ar wahân ar gyfer gweddio. Rhain oedd y synagogau cyntaf.          

        Ar ôl dychwelyd i Babilon daeth yr Iddew â'r syniad o'r synagog i Israel. Felly, am ychydig, roedd y synagog a'r deml yn ganolfannau addoli.

        Roedd y deml i'w gweld yn ninas Jerwsalem, ac yno y  byddai'r Iddew yn aberthu ac yn addoli. Dim ond un teml oedd a'r gael. Serch hynny roedd y synagogau i'w gweld ym mhob pentref ar ôl i'r iddew ddychwelyd o'r alltudiaeth. Daeth y synagog yn bwysicach ar ôl cwymp y deml yn y flwyddyn 70 AD pan y cafodd ei ddinistrio gan y Rhufeiniaid, ymhle bynnag roedd yr Iddewon yn byw roeddent yn adeiladu synagog. Cyn y synagogau, addoli mewn teml a chyn hyn mewn Tabernacl y wnaent ac fe adlewyrchwyd hyn yn nodrefn y Synagog .

        Roedd y synagogau cynnar wrth ymyl afon neu byddai ffynnon neu rhyw fath o gyflenwad dwr yno er mwyn i'r addolwyr olchi eu traed cyn mynd mewn i'r adeilad. Mae'n debyg y byddai'r merched yn sefyll tu ôl i bared yn gwrando ar y gwasanaeth tra byddai'r dynion yn arwain y gweithgareddau. Er mwyn cynnal unrhyw wasanaeth  rhaid oedd cael Minyan sef o leiaf 10 dyn yn bresennol.

Y Synagog

Mynychais Synagog ddiwygiedig ym Manceinion gyda’r ysgol, a dyma’r synagog rwyf wedi penderfynu disgrifio’i phrif nodweddion.

Mae’r synagogau yn sicr yn gwahaniaethu o ran maint a steil, ond mae rhan fwyaf o’r pethau materol yn debyg iawn. Seilir y synagog ar y Tabernacl a ‘r  deml er nad yw’n bosib copïo dodrefn yn hollol. Petryal yw siap rhan fwyaf o synagogau fel arfer.

 

Arch y Cyfamod

Mae i bob synagog ‘arch’ a adwaenir fel ‘Arch y Cyfamod’.

Canfyddwch Arch y Cyfamod ar y wal gefn fel petai, sef y wal ddwyreiniol sy’n wynebu Jerwsalem. Cedwir yr holl sgroliau sanctaidd yma. Iaith yr holl sgroliau fydd Hebraeg. A’r enw a roddir ar y sgroliau yma yw Sefer Torah. Yn wahanol i’r synagog, yn y deml y deg gorchymyn a gedwir yn yr Arch.

Join now!

 

(Llun o Arch y Cyfamod ym Manceinion mewn synagog diwygiedig)

Seddau

Yn y synagog mae’r seddau yn wynebu y Bimah neu  Arch y Cyfamod. Gosodir y seddau i gyd ar hyd tair wal. Weithiau ceir oriel mewn synagog. Mewn synagogau duwygiedig mae hawl gan ddynion a merched eistedd gyda’i gilydd, ond mewn un uniongred rhaid i’r ddau ryw eistedd ar wahan. Yn aml bydd merched tu ôl i bared neu yn eistedd yn yr oriel. Ond, prif bwrpas y seddau wrth reswm, yw er mwyn i’r iddewon fedru cyd-addoli.

Parochet

Llen yw’r Parochet sy’n ...

This is a preview of the whole essay