Ar y llaw arall, ydy traddodiadau a chrefydd yn dod cyn wir hapusrwydd a chariad? Er fod hi’n pwysig i Iddewig cadw’r crefydd yn fyw ydy hi’n deg i briodi rhywun i gadw traddodiad yn unig? Cariad ffals a priodas ddi-bwynt yw un sydd wedi seilio ar rhwymedigaethau crefyddol. Mewn priodas cariad yw’r peth pwysicaf. Os nad yw’r gŵr neu’r gwraig yn teimlo’n hapus bydd y priodas yn trychinebus. Mae hapusrwydd personol yr unigolion o fewn y priodas yn dod cyn traddodiad a chrefydd, os mae’r unigolyn yn drist sut gall yr unigolyn gwneud Duw yn hapus os yr ydyn nhw’n drist eu hunan? O fewn Iddewiaeth mae priodas yn uno enaid dau person i wneud nhw’n hollol gyflawn. Sut mae’n bosib i ddau person uno os nad ydyn nhw’n gweithio fel cwpl? Mae’r pwysau sydd ar ddynion Iddewig yn glir o fewn Iddewiaeth, mae’r Talmud yn dweud fod dyn yn meddwl am pechod trwy’r amser os nad oes ganddo gwraig. Dylai’r pwyslais fod ar dod o hyd i’r gwraig gorau i’r gŵr, nid y gwraig gorau Iddewig.
Rheswm arall fod y gymuned Iddewig yn cynghori Iddewon i briodi o fewn y crefydd yw’r traddodiadau a rheolau Iddewig. Bydd rhai yn barnu rhai draddodiadau Iddewig i fod yn dianghenraid neu’n creulon, megis y brit milah. Mae Iddewon yn credu fod rhaid cael priodas cytgord, sef shalom bayit. Bydd anghytuno rhwn y gwraig a’r gŵr yn torri shalom bayit. Os mae Iddew yn priodi tu allan i’r crefydd efyllai bydd partner yr Iddew yn barnu fod y brit milah yn greulon, ac yn achosi poen dianghenraid i’r babi. Gall gwahaniaethau mewn credoau gwanhau’r perthynas, felly mae llawer o Iddewon yn gwrthwyebu priodasau rhwng-fydd. Mae dewisiadau pwysig fel hyn rhwng y gŵr a’r gwraig. Mae’r dewisiadau hyn yn diffinio os yw’r plentyn yn Iddew neu beidio felly mae nhw’n bwysig iawn i dyfodol y plentyn a dyfodol y crefydd Iddewig.
Safbwynt arall yw fod priodi rhwng crefyddau wahanol yn helpu i uno bobl o grefyddau wahanol. Mae hwn yn llaihau rhagfarn a hiliaeth, problem sy’n gwynebu cymdeithas aml-hîl ac aml-gred. Wrth i bobl o grefyddau wahanol cymysgu fwy, mae nwh’n dysgu amdano ffyrdd gwahanol o fyw ac addoli. Wrth i grefyddau cadw at unigolion o’r un ffydd mae cymunedau caeëdig yn datblygu sydd yn arwain at rhagfarn a gwahaniaethu. Trwy hanes mae’r byd wedi erlid yr Iddewon gan nad eu fod yn cymysgu, mae’r ffaith fod pobl am priodi Iddewon yn dangos ein fod wedi symud ymlaen cymaint. Os mae crefyddau a cymunedau eraill yn parhau i gymysgu bydd gwahaniaethau bach fel hîl neu crefydd yn toddi i ffwrdd.
Ar y llaw arall, oes yna fwy i golli wrth i gymunedau cymysgu a priodi? Wrth i hwn digwydd nag ydyn ni’n colli ei’n diwylliant a’n etifeddiaeth? Dyma beth sy’n pryderi cymaint o Iddewon, sut mae’n bosib i’r ffordd o fyw Iddewig parhau wrth i Iddewon atal dysgu eu phlant? Mae 85% o gyplau Iddewon yn cael plat seder ar pesach, mae dim ond 41% o Iddewon sydd wedi priodi allan o’r crefydd yn. Mae 66% o Iddewon yn prydio ar Yom Kippur, lle mae dim ond 26% o Iddewon sydd wedi priodi tu allan o’r crefydd yn prydio. Yr ystadegyn fwyaf dychrynllyd yw fod 59% o gyplau Iddewig yn rhan o synagog, i gymharu â 15% o Iddewon sydd wedi priodi tu allan i’r crefydd. Ydy hi’n afresymol fod Iddewon yn pryderi am pwy mae unigolion yn a crefydd yn priodi? Os mae hyn yn parhau ni fydd Iddewiaeth ar ôl. Roedd yn Iddew uniongred hyd yn oed wedi mynd mor bell i ddweud fod “intermarriage is accomplishing what Hitler could not: the destruction of the Jewish people.” Er fod hyn yn safbwynt eithafol, mae’n dangos pwysigrwydd priodas Iddewig i Iddewon.
Efyllai y safbwynt pwysicaf i ystyried yw safbwynt y gŵr neu’r gwraig. Mae ganddyn nhw’r hawl i briodi pwy mae nhw eisiau, pwy ydyn ni i gwestiynu pwy mae rhywun arall yn priodi. Mae stopio rhywun arall rhag priodi pwy mae nhw eisiau yn tarfu ar hawliau nhw.
Mae priodasau rhwng Iddewon a hil-ddynion yn wynebu llawer o anhawsterau. Mae pethau symyl o fewn perthynas Iddewig neu anniddewig yn troi’n cymhleth. Un enghraifft arall o hwn yw effaith y deddfau kosher ar yr unigolion o fewn y priodas. Os mae Iddew yn priodi tu allan i’r grefydd mae cadw cegin kosher yn galed iawn. Os mae’r person aniddewig am bwyta bwyd treyfah fe fydd rhaid i’r cwpwl prynu dau cegin, dau set o llestri a cyllell a ffyrc. Mae rhaid i rhai Iddewon prynu dau o bopeth mewn priodas hollol Iddewig, gan fod e’n waharddedig i gymysgu cig a llaeth. Bydd hwn felly yn drud iawn. Os mae’r unigolyn aniddewig yn newid i ddiet kosher bydd dal rhaid i’r unigolyn Iddewig coginio trwy’r amser, gan fod i fwyd kosher cael ei goginio gan Iddew. Bydd hwn yn cymhlethu bywyd llawer i gwpl Iddewig.
Problem arall sydd rhaid ystyried wrth meddwl am priodas cymysg yw addysg y plentyn. Bydd y plentyn yn cael addysg Iddewig, ac yn dod yn Iddew llawn? I fod yn Iddew llawn rhaid fod y mam yn Iddew. Os mae’r plentyn yn cael ei godi i fod yn Iddew, y tad felly yw’r unigolyn aniddewig mewn priodas cymysg. Mae rhai rhannau o Iddewiaeth sy’n gofyn am dyn Idddewig e.e Y bar mitzvah. Dyma darn o’r Talmud sy’n dangos pwysigrwydd y tad
“The father IS required to Circumcise his son; to redeem him [referring to the first-born son, as per the Biblical passages in Numbers 18: 15-16]; to teach him Torah; to assure that he marries; and to teach him a trade. Some say he must also teach him to swim. Rabbi Judah says, whoever does not teach his son a trade teaches him robbery (Babylonian Talmud, Tractate Kiddushin , p. 29a). Efyllai ni fydd y plentyn yn teimlo’n rhan llawn o’r cymuned Iddewig gan ei fod yn wahanol i gweddill y plant.
Yn fy marn i ddylai Iddewon priodi hîl-ddynion os mae nhw eisiau. Mae gan ddau oedolyn yr hawl i briodi heb i weddill cymdeithas barnu nhw. Os mae cwpwl yn gallu gorchfygu y problemau sy’n gwynebu priodas rhwng crefyddau wahanol mae’n dangos ei fod yn wir caru amdano’i gilydd. Pwysigrwydd priodas yw teimladau’r gŵr a’r gwraig, nid teimladau gweddill y teulu. Mae gyd o’r anhawsterau sy’n dod gyda priodas rhyng-ffydd yn dinod (insignificant) os mae’r gŵr a’r gwraig â dealltwriaeth o ddiwylliannau eu gilydd. Yn fy marn i mae priodasau rhyng-ffydd yn bwysig i gymdeithas gan fod hîliau a ddiwylliannau gwahanol yn cymysgu, wrth i hwn digwydd mae’r teuluoedd yn dysgu llawer amdano’i gilydd.