Er hyn, mae rhai wedi geisio cofio Llywelyn ap Gruffydd gan godi garreg goffa yng Nghilmeri fel dangosir yn ffynhonnell A1(i), ac eraill gan ysgrifennu caneuon a barddoniaeth er cof y digwyddiad a’r tywysog. Dengys darn enwog gan Gerallt Lloyd Owen er cof Llywelyn ap Gruffydd yn ffynhonnell A1(ii).
Er dywedir rhai fod arwisgiad Siarl yn symudiad bositif tuag at unibynniaeth, roedd llawer iawn o bobl yn erbyn y coroniad. Roedd nifer o’r bobl yma yn wleidyddwyr enwog a oedd yn medru rhoi eu dylanwad ar bobl eraill. Ymlysg y bobl yma oedd Gerallt Lloyd Owen, Saunders Lewis a Dafydd Iwan ac roedd yr rhain yn lleusio’r barn trwy defnyddio’u creft. Dengys ffynhonnell B1 llun o dorf yn ymgrymmu o flaen Siarl mewn ffordd amharchus. Mae eu pennau-ol i fynu yn yr awyr, ac mae’n nhw’n plygu fel pe bai nhw’n addoli Siarl. Ar waelod y llun ysgrifennir y geiriau
“Wylit, Wylit Llywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn”
Gerallt Lloyd Owen wnaeth ysgrifennu’r cwpled, a gyhoeddwyd y llun ar cwpled yn “Tafod y Ddraig” sef papur newydd y gwleidyddwyr. Ystyr y geiriau yw fydd Llywelyn yn crio gwaed os fydd ef yn gweld arwisgiad Siarl, ac arwisgiad /tywysog Seisneg. Medrwn ni cymryd y ffynhonnell yma fel un dilys oherwydd gallen ni weld safbwynt Gerallt Lloyd Owen a darllenwyr “Tafod y Ddraig” ohoni mae llawer o rhagfarn efo’r ffynhonnell, er hyn, rydym yn cymryd y ffynhonnell fel un sydd yn ddilys am y rhesymau uchod er nad yw’n dangos agwedd pob un person yng Nghymru. Roedd Gerallt Lloyd Owen yn fardd enwog iawn yn y cyfnod, a defnyddiodd ei grefft i lleisio’u farn i boblogaeth Cymru.
Ffigwr arall o safbwynt uchel a oedd yn erbyn yr arwisgiad oedd Saunders Lewis. Roedd Saunders Lewis wedi dod yn enwog yng Nghymru gan ei fod ef wedi darlledu “tynged yr iaith” ar y radio sef darlith yn dweudpob peth oedd yn anghywir yng Nghymru. Roedd hefyd yn fardd, ac yn cael ei adnabod fel bod yn un o’r tri (D.J Williams a Lewis Valentine oedd y ddau arall) a llosgodd i lawr yr ysgol fomio. Felly roedd ef yn cael ei adnabod fel person a oedd yn barod i ymladd am ei genedl, ac wedi cael profiad o fynd i’r carchar dros ei achos. Fe welwn ei leisiad ef yn ffynhonnell B2 sef llythyr ysgrifennodd ef at gymdeithas yr iaith yn dweud “ ni bu gan Gymru dywysog ar ei ôl ef” sef Llywelyn ap Gruffydd ac hefyd yn dweus “cais i gladdu cenedl Cymru yw’r arwisgo yng Nghaernarfon”. Dyma’r rheswm mae’r ffynhonnell yma’n ddilys, h.y. dangos barn dyn o statws uchel roedd pobl yn ymddiried ynddo. Mae hefyd yn dangos barn cymdeithas yr iaith, ond eto nid yw’r ffynhonnell yn ddilys i ddangos safbwynt y Cymru i gyd.
Fe ddangosir enghreifftiau eraill o bobl yn defnyddio’u creft i protestio. Mae pobl wedi mynd i’r drafferth o dynnu lluniau ac ysgrifennu barddoniaeth ynglyn a’u barn yn ffynhonnellau A1 a B1 ac mae ‘na esiampl arall yn ffynhonnell B3. Mae Dafydd Iwan – cymeriad arall o statws uchel, ac yn ddyn dylanwadol – wedi ysgrifennu can o’r enw “Carlo” sef can ddirgymus yn lleisio’r ffaith fod ef a prynwyr y record yn erbyn yr arwisgo. Dangosir dau pennill o’r geiriau yn ffynhonnel B8 :
Pennil 2: “Fe gafodd ei addysg yn Awstralia, do, a Sgotland
Ac yna lan i Aberystwyth y daeth o,
Colofn y diwylliant Cymraeg, cyfrannwr i Dafod y dDraig,
Aelod o’r Urdd, gwersyllwr ers cyn co!”
Pennil 4: “Bob wythnos mae e’n darllen Y Cymro a’r Herald,
Mae e’n darllen Dafydd ap Gwilym yn ei wely pob nos
Mae dyfodol y wlad a’r iaith yn agos at’i galon fach e
A ma nhw’n dweud ‘i fod e’n perthyn i’r FWA!”
Mae’r geriau’n sarcastic i ddweud y lleiaf, ac yn amlwg yn dangos fod Dafydd Iwan ai wrandawyr yn erbyn yr arwisgiad yn gyfangwbl. Mae’r ffynhonnel yma’n cwbl ddilyn oherwydd gymerewyd hi o llyfr “Caneuon Gorau Dafydd Iwan” a felly y geiriau a ganwyd gan y Canwr ei hyn.
Roedd pobl yn credu’n gryf fod Llywelyn oedd Tywysog olaf Cymru, ac yn protestio’n gryf yn erbyn yr achos - rhoi mewn ffyrdd mwy treisiol nag eraill. Roedd y mudiad MAC yn erbyn yr arwisgiad, a fe ddangosir hyn yn ffynhonnell B4 wrth iddo son am dau aelod o MAC a oedd wedi marw dros yr achos. Yn ôl y ffynhonnell roedden nhw wedi cynllynio bomb gelignite ai osod yn swyddfa’r llywodraeth ond fe lladdwyd hwy pan aeth y bomb i ffwrdd cyn disgwylir iddo ai lladd nhw. Medrwn ni dibynnu yn ddilysrwydd y ffynhonnell yma oherwydd gallen ni ymchwilio i mewn os ddigwyddodd y damwain ac mae’n dangos safbwynt MAC – roedden’t yn credu’n gryf ac yn dreisiol yn erbyn yr achos. Ar y llaw arall, mae teitl y llyfr gymerwyd y ffynhonnell yma ohoni “To Dream Of Freedom” yn awgrymmu rhagfarn mawr tuag at y gwleidyddwyr a felly safbwynt gan yr awdur, felly ddim mor ddilys oherwydd hyn. Mae’r ffynhonnell dall yn ddefnyddiol oherwydd fydd y digwyddiad wedi ei recordio gan yr heddlu neu gan papuron newydd o’r ddau ochor, felly gallen ni ymchwilio i mewn i’r digwyddiad.
Yn ddiweddar daeth gwybodaeth ir arwyneb ynglyn a cynllyn bomio arall yn gysylltiedig a’r arwisgiad wnaeth byth digydd er fod y cynllyniadau’n ddrylwyr amdano. Roedd y cynllyn wedi ei alw yn “Operation Edding” ac oedd y cynllyniadau’n dweud eu bod nhw am chwythu pont mis cyn yr arwisgo a rhoi’r bai ar y BSS (British Security Services). Roedd y cynllwyniadau wedi cael ei rhoi i’r MI5 gan dyn Rwsieg o’r enw Vasil Mitrokhin yn 1992. Mae’r ffynhonnell yma’n dilys i rhyw raddau. Mae’n ddilys oherwydd mae’n dod o rhaglen newyddio, ond rhaid cofio roedd Rwsia yng nghanol y rhyfel oer ar y pryd, felly efaillai roedd y KBG wedi cynllunio hyn i greu trafferth yn y gorllewin. Mae’r ffynhonnell yma hefyd yn cefnogi ffynhonnell B4 yn galw y dau aelod o MAC – George Taylor a Alwyn Jones - yn “The Abergele Martyrs”.
Cymerir darn arall o wybodaeth o’r llyfr “To Dream Of Freedom” sef darn yn son am faint o bobla trodd i fynu pan gyrhaeddodd tren brenhinol Siarl. Mae’r ffynhonnell (B5) yn dweud fod pobl yn taflu croen banana’s tuag ato, ond eto’n dweud fod cefnogwyr Siarl wedi troi ar y terfysgwyr felly’n profi ei fod yn boblogaidd hefyd. Mae hefyd yn profi fod y ffynhonnell yn ddefnyddiol gan ei fod yn dangos dau safbwynt, a hefyd yn ddilys oherwydd hyn.
Er hyn i gyd, roedd ‘na bobl a oedd o blaid yr arwisgiad. Trodd llawer iawn o bobl i fynu pan ymwelodd ef â drigolion y Bala, a dywed gan ffynhonnell C2 fod yr heddlu methu rheoli pobl oherwydd roedden nhw yn parhau i ymglosi at u barti frenhinol. O’r llun fedrwn ni gweld fod llawer iawn o bobl yno, a fod gan Siarl wen ar ei wyneb, felly yn awgrymmu fod awyrgylch hapus yno.
Cefnwyd y safbwynt yma gan rhai pobl enwog fel y “Secretary Of State” y Rt. Hon. George Thomas M.P, sef Cymro Cymraeg yn y senedd. Roedd ef wedi ysgrifennu darn yn y “North Wales Weekly News” ynglyn a arwisgiad Siarls. Mae darn ohono’n dweud fod y seremoni wedi cynnwys y Cymry a pob agwedd o fywyd Gymraeg, fod y seremoni wedi gynllynio gan y Gymreig a nid wedi osod ar eu pennau nhw. Mae hefyd yn dweud fod yr iaith Gymraeg am chwarae rhan fawr y y seremoni a fod Siarl wedi cymryd gwersi yn ceisio deall y ffordd Gymraeg o fyw ym mhrifysgol Abertawe, felly dylai pobl dangod chwarae teg iddo.
Cymerwyd y ffynhonnel yma i fod yn ddilys oherwydd fod yr erthygl wedi brintio ym mhapur newydd cymraeg, ac mae’n dangos safbwynt y Rt. Hon. George Thomas, felly yn defnyddiol am y rheswm hyn hefyd. Mae ‘na safbwynt iddo oherwydd fod George Thomas yn aelod seneddol, felly odan rheolaeth y frenhines.
Fel roedd pobl yn ysgriffenu barddoniaeth, caneuon ac yn darlunio lluniau yn erbyn yr arwisgiad, roedd pobl hefyd yn gwneud hyn o blaid y symudiad. Roedd Lillian Gibbs wedi ysgrifennu darn o farddoniaeth ynglyn â’r arwisgiad yn ffynhonnell C4.
“Welcome to Wales! All honest Welshmen Cry:”
Dyma llinell gyntaf y darn yma, ac felly yn ceisio awgrymmu fod unrhyw person Cymraeg a oedd yn erbyn yr arwisgiad yn fradwr i’w wlad oherwydd fydd y dewisiad yn cam ymlaen i drigolion Cymru ar iaith. Cyhoeddwyd y darn yma yn y “Denbighshire Free Press” felly yn ddilys i ddangos safbwynt Lillian Gibbs a darllenwyr y papur newydd “Denbighshire Free Press”.
Cefnogwyd y safbwynt yma gan ffynhonnell C5 sef fynhonnell yn son am y niferoedd o bobl a disgwylir i droi i fynu ar ddiwrnod y Arwisgiad:
“Only five days to go, and the stage is virtually set to present to the world the greatest and most spectaded Caernarfon has ever known – the investiture of the Prince Charles as Prince of Wales.”
Yr is deitl yr “Caernarfon expects over 200,000 people