Mae titradu yn cael ei defnyddio mewn llawer o ddiwydiannau dyma restr o rai:- • Diwydiant gwin
• Ffermydd llaethdy
• Corfforaeth mwyngloddio
• Diwydiant iechyd
• Gorsafoedd dŵr
• Ffarmacoleg (Pharmacology)
• Ymchwiliadau Amgylcheddol - sy’n edrych ar law asid
Mae hefyd diwydiannau sydd fod mesur pH yn enwedig os ydw i'n cael rhywbeth i wneud a phobl ei dreulio neu i body n agos i yn defnyddio titradu.
Mae hefyd yn cael ei defnyddio i weld fod cynhyrchion yn iawn i ddefnyddio megis cynhyrchion glanhau. Mae angen i gynhyrchion glanhau fod yn asidig felly mae angen defnyddio titradu er mwyn cael y molaredd cywir.
Ymchwiliad Amgylcheddol
Mae pobl sydd yn gweithio gyda’r amgylchedd yn defnyddio titradu. Mae titradu yn cael ei defnyddio i fesur faint mae dŵr glaw, eira wedi cael ei lygru.
Maen nhw hefyd yn defnyddio titradu er mwyn mesur pa mor asidedd yw tir. Mae hyn felly yn ddefnyddiol os ydych eisiau plannu planhigion Arbennig sydd angen pridd gydag asidedd priodol.
Iechyd – Mae’n holl bwysig bod moddion yn cael ei wneud yn hollol gywir. Mae titradu yn cael eu defnyddio i wneud yn siŵr bod pob peth yn iawn. Mae yna lawer o ddulliau o ditradu yn cael ei defnyddio , ac yn aml mae yna offer soffistigedig sydd yn gwneud y broses yn fwy dibynadwy.
Diwydiant Gwin - Mae blas gwin yn aml yn cael ei niweidio gan ei asidedd. Rydyn yn gallu mesur asidedd gan ddefnyddio Titradu. Mae yna gitiau arbennig ar gyfer y diwydiant gwin. Mae titradu yn galluogi i ddiwydiannau gwin gwybod os oes angen ychwanegu unrhyw gynhwysion.
Diwydiant diod / bwyd - Mae Titradu yn cael ei defnyddio er mwyn mesur y pa mor faethol yw fwydydd. Mae titradu yn dechneg sydd yn cael ei defnyddio er mwyn gwneud hyn. Mae hefyd yn cael ei defnyddio mewn ffactrïoedd sudd er mwyn mesur pa mor asidedd yw’r diodydd.
Rydyn yn gallu defnyddio electrod er mwyn mesur asidedd mae diwydiant yn gallu defnyddio’r dechneg yma er mwyn amrywio ansawdd cynhyrchion a hefyd ar gyfer pobl sydd gydag anghenion maethol arbennig.
Diwydiant dwr - Mae angen dadansoddi dŵr brwnt er mwyn gwybod faint o lanhau mae angen arno er mwyn bod yn ddiogel i’w defnyddio.
Rydyn yn defnyddio titradu er mwyn dadansoddi dŵr.
Mae yna offer soffistigedig ar gyfer titradu sydd yn arbenigol mewn mesur cyfaint ammonia mewn dŵr a hefyd cemegolion eraill sy’n bresennol.