- Y newidyn allan i gael y canlyniadau yn gywir yw yr un person i edrych pan mae’r groes yn diflannu trwy’r arbrawf i gyd. Mi fyddaf yn mesur yr amser mae’n ei gymeryd i’r asid hydroclorig a’r sodiwm thiosylffad adweithio tan fod y croes yn diflannu hefo stopwats. Fyddai’n gwneud yr arbrawf tair gwaith i gael cyfartaledd a rhoi canlyniadau dibynadwy i mi.
Rhagfynegiad
- Fy rhagfynegiad i yw pan mae’r crynodiad o sodiwm thiosylffad yn fwy mae’n cymryd llai o amser i adweithio.
- Rwy’n credu fod fy rhagfynegiad yn gywir oherwydd y theori gwrthdaro. Pan mae fwy o grynodiad o sodiwm thiosylffad mae fwy o siawns i’w folecylau gwrthdaro wyneb yn wyneb a’r molecylau asid. Mae hyn oherwydd fod yna fwy o folecylau felly mewn ffordd mwy o egni i wrthdaro a felly y cyfeiriant cywir. Ond, pan mae llai o grynodiad mae llai o siawns i wrthdaro oherwydd dim gymaint o folecylau ag egni i wrthdaro a dim cymaint o gyfeiriant cywir felly ddim yn gwrthdaro mor aml. Mae molecylau dwr yn cael ei ychwanegu felly mae’n anoddach eto oherwydd mae’n gweithio fel rhwystr. I wrthdaro wyneb yn wyneb mae’r molecylau angen llawer iawn o egni.
Diagram i egluro
Mae lleihau crynodiad adweithydd yn golygu llai o gronynnau sy’n gallu gwrthdaro ac yna adweithio. Mae llai o wrthdrawiadau yn golygu adwaith arafach.
Offer
- 450cm³ o sodiwm thiosylffad
- 150cm³ o asid hydroclorig
- sbectol diogelwch
- Fflasg gonical 50cm³
- Teilsen wen hefo croes arno
- 300 cm³ o ddwr
Dull
- Gwisgo sbectol diogelwch
- Paratoi fflasg gonical a’r teilsen wen
- Rhoi 50cm³ o sodiwm thiosylffad yn y fflasg gonical
- Rhoi 10cm³ o asid hydroclorig yn y fflasg
- Unwaith rydych wedi rhoi yr asid yn y dwr cychwynwch y stopwats
- Rhoi y fflasg gonical ar y teilsen wen
- Cyfri’r amser mae hi’n ei gymeryd i’r groes ddiflannu
- Gwneud yr arbrawf tair gwith gyda’r un mesuriadau
- Ar ol gwneud yr arbawf 50cm³ o sodiwm thiosylffad gwnewch gyda 40 cm³ a adio 10cm³ o ddwr ond cadw crynodiad yr asid yr un fath.
- Mynd ar sodiwm thiosylffad lawr 10cm³ a adio 10cm³ o ddwr bob tro rydych yn gweud hynny.
Tabl Crynodiadau
Dyma pob dim y fyddai’n defnyddio yn ystod yr arbrawf hon a mesuriadau pob un ohonynt.
Tabl canlyniadau
Mae’r tabl hon yn dangos y canlyniadau a gefais wrth wneud yr arbrawf hefo gwahanol crynodiadau o sodiwm thiosylffad. Rwyf wedi gwneud yr arbrawf tair gwaith i ei wneud yn arbrawf deg. Wrth wneud yr arbrawf tair gwaith mi rydwyf yn medru darganfod cyfartaledd y tri canlyniad a hefyd darganfod yr amrediad. Rwyf wedi newid pob dim i eiliadau oherwydd mi fydd yn haws gweithio hefo unedau sydd yr un fath. Mae’r golofn amrediad yn dangos i fi y gwahaniaeth rhwng y canlyniad o phob arbrawf. Mae hefyd yn dangos fy mod faint agos oedd bob arbrawf at eiliadau yr arbrofion eraill. Os fyswn yn edrych ar linell dau rwyf yn gweld bod yr amrediad yn 1.3 eiliad sy’n golygu fod y tri arbrawf wedi cael yr un canlyniad bron iawn. Pan mae’r rhif yn isel mae’ramrediad yn gorffen yn weddol isel on hefo’r arbrawf olaf mae gwahaniaeth o 28.5 eiliad sydd sy’n bell iawn o fod yn gyson. Felly i ddweud y gwir mae’r amrediad yn dangos faint manwl yw’r arbrawf.