Mae ffynhonell A5 hefyd yn dangos fod perthynas ddrwg rhwng ddwy ochr ac mae hefyd yn dnagos fod y ddwy ochr yn styfnig iawn. Mae ffynhonell A5 yn dangos rhan o ddyddiadur un o’r gweithwyr, Jeremiah Thomas yn dweud fod y gweithwyr i gyd yn mynd i streicio. Roedd llawer o streiciau bychain yn digwydd yr adeg hono.
Roedd yr Arglwydd yn gwahardd gweithwyr o’r gwaith heb ddim rheswm. A credaf fod Alexander E. Young wedi gwaethygu’r achos gan ei fod yn deall dim am y chwarel ac dim ond yn poeni am wneud elw. Roedd yr Argwydd Penrhyn yn gweud newididau i’r chwarel a oedd yn gwylltio’r chwarelwyr fel, dod a rheolwyr newydd i mewn a cael gwared o’r undeb. Rydym yn gallu gweld hyn o’r ffynhonell A4. Nid oedd y ddwy ochr yn deall eu gilydd. Dim ond am arian roedd yr Arglwydd yn poeni amdan, ac roedd hyn yn gwylltio’r chwaelwyr.
Rydym yn gweld o’ r llun yn ffynhonell B1 fod aelodau’r pwyllgor streic yn rhai parchus sydd wedi gwisgo’n dda ac yn daclus mewn siwtiau. Yn barnu o’r ffotograff, rydym yn gweld ei bod nhw’n edrych yn eithaf ddeallus ac wedi cael addusg o’r capel. Maent yn edrych yn ddifrifol ac yn drefnus hefyd. Gwelaf W.J. Parry yn y llun sy’n arweinydd un o arweinwyr undeb chwarelwyr gogledd Cymru, sy’n dangos fod cefnogaeth yr undeb a’i aelodau ganddynt.
Mae ffynhonell B2, sydd wedi cael ei hysgrifennu gan W.J. Parry yn ddefnyddiol iawn gan ei fod yn dangos i ni fod yna densiwn rhwng y contractwyr a’r chwarelwyr ac mae hefyd yn dangos sut oedd y chwarelwyr yn meddwl am y contractwyr. Rydym yn gweld fod y gweithwyr yn galw eu hunain yn ‘uwchraddol’ ac yn edrych i lawr ar y contractwyr. Roedd y chwarelwyr yn cael llai o arian a dechreuodd ffrae rhyngddynt. Yn fy marn i mae’n disgrifio sut ddechreuodd y streic yn ddefnyddiol iawn. Dywedaf hyn gan ei fod yn rhoi’r streic o safbwynt y gweithwyr.
Roedd Bethesda yn cael ei disgrifio fel lle diffaith iawn gan fod y bobl wedi gorfod gadael Bethesda i drafeilio ar hyd Prydain i chwilio am waith a chasglu arian er mwyn eu bywoliaeth, felly doedd dim llawer o bobl ar ol yno.
Cafodd côr chwarelwyr Bethesda ei seflydlu er mwyn casglu arian ar gyfer bobl Bethesda. Yn ogystal fe gyfranodd papurau newydd Llundain £5600 gyda Undebau Llafur Prydain yn casglu £33000 a bobl Bethesda Green yn Llundain yn cyfranu £300 i’r gronfa. Roedd ychwarelwyr angen yr arian i hlepu dalu rent ac i brynu bwyd.
Ysgrifennodd awdur ffynhonell B3 (ii) lythyr i’w gyd weithwyr yn erfyn arnynt i gefnogi cor chwarelwyr Beshesda. Mae’n dweud fod yr Arglwydd Penrhyn yn ‘Obstinate feudal relic’, golygir hyn fod yr Arglwydd Penrhyn yn styfnig. Roedd yn dweud fod yr Arglwydd Penrhyn yn perthyn i’r canol oesoedd, mae’r awdur yn dweud hyn oherwydd fod ffyrdd yr Argwlydd Penrhyn yn ffyrdd hen fashiwn iawn ac ei fod yn greulon tuag at ei weithwyr. Mae’r ffynhoell hon yn ddefnyddiol i ddangos i ni sut oedd y gweithwyr yn meddwl am yr Arglwydd Penrhyn, ond gan mai dyn or undeb yw Will Mellor, sydd eisiau i bobl roi cymorth i’r chwarelwyr , rydym yn gwybod fod y ffynhonell hon yn unochrog iawn ac nid ydym yn gallu dibynu arni. Mae’r ffynhonell dim ond yn dangos ochr y gweithwyr ac ochr Will Mellor.
Mae’r ffynhonell B4 yn dangos y chwerwedd a achoswyd gan streic fawr y Penrhyn wrthym yn amlwg, Egura R. Merfyn Jones sut cai’r cynffonwyr ru trin yn Bethesda gan y bobl. Roedd y bobl yn galw enwau ar y bobl, fel ‘Bradwyr’. Dywedodd D.R. Daniel ar y dynion i beido a siarad ar bradwyr. Roedd gan y bobl a oedd ar streic sticeri are u tai yn dweud, ‘Nid oes bradwr yn y tŷ hwn’, roedd hyn yn gwenud y bradwyr yn haws i’w targedu. Roedd hyd yn oed y papurau newydd yn printio enwau’r gweithwyr ac ei cyfeiriadau fel bod pawb yn gallu gweld ble roeddant yn byw ac er mwyn i’r bobl wybod pwy oedd pwy. Roedd y bobl yn taflu cerrig arnynt ac yn gwneud eu bywydau yn galed iawn. Roedd y bradwyr yn cael amser caled, rydym yn gwled hyn trwy’r ffynhonell B4, mae’r ffynhonell yn dangos y chwerwedd yn glir.
Y penderfyniad y mae sôn amdano yn ffynhonell B5 yw, y penderfyniad i orffen y streic. Mae’n dweud wrthym fod y gweithwyr yn mynd yn nol i’w gwaith, ac fod y streic wedi gorffen. Rydym yn gwybod hyn gan ei fod yn dweud yn y ffynhonnell, ‘Nos Sadwrn, Tach. 14 1903, penderfynwyd yn swyddogol fod y frwydyr ar ben’. Ni chafodd y chwarelwyr ddim byd o’r streic gan fod yr Arglwydd Penrhyn yn rhy gyfoethog ac ddim angen cadw’r chwarel ar agor.
Roedd y geiriau ‘ymosodiadau o greulondeb a bygythiadau’ yn cyferirio at y ffrae rhwng y contractwyr a’r gweithwyr, ac oherwydd hyn mae’n cau’r ffactri am 14 diwrnod.
Mae ffynhonell C2 wedi ei ysgrifennu gan A.E.Young ar Fai 20fed 1901. Pwrpas y rhybudd oedd i geisio gael y dynion yn ôl i weithio yn y chwarel. Mae’n ceisio gwneud hyn drwy ddweud ei fod wedi newid y rheol ddisgyblaeth ac llacio’r rheolau. Mae’r gweithwyr nawr yn cael rhybydd cyn cael cosb. Hefyd mae’n caniatau i’r gweithwyr gael hanner diwrnod o wyliau ar y dydd Mawrth olaf bob mis. Mae rhai gweithwyr yn dod yn ol ar ol hyn,
Credaf fod y ffynhonell C3 yn effeithiol iawn gan ein bod ni’n cael y streic o ochr y cynffonwyr sydd angen cymorth y llywodraeth. Yma maent yn son amdanyn nhw yn cael eu dilyn gan y streicwyr gyda bobl yn taflu cerrig arnynt, eu hanfau, au dychryn. Mae’r ffynhonell hon yn dangos i ni pa mor anobeithiol oedd sefyllfa’r cynffonwyr ac sut roeddent yn cael eu trin. Ond ar y llaw arall galai’r cynffonwyr fod yn gorddweud rhai pethau er mwyn cael cymorth gan y milwyr. Felly ni allwn ddibynu’n llwyr ar y ffynhonell hon.
Cafodd fynhonel C4 ei ysgrifennu gan A.A. Ruck, def prif gwnstabl Sir Gaernarfon. Yn y llythyr mae’n diolch am y milwyr a yrwyd yno. Mae’n son am sut cawsai’r cynffonwyr eu trin, ac fod y bobl yn ymosod arnynt, sydd yn cefnogi C3. mae’n son am sut gallai’r heddlu ddim eu rheoli. Rydym yn gallu dibynu ar y ffynhonell hon oherwydd fod A.A. Ruck yn rhoi ei hyn mewn sefyllfa lle all golli ei waith, ac felly ni fyddai’n gor-ddweud. Hefyd mae A.A. Ruck yn brif gwnstabl yr heddlu ac mae’n gorfod gofyn am help gan ei fod yn desperate am filwyr, ac ni fuasai yn dweud hyn yn ysgafn.
Yr awdur a ysgrifennodd ffynhonell C5 oedd W.W. Vivian, cafodd ei ysgrifennu ar Fai 22, 1903. Mae’n ysgrifennu’r llythyr at grwp or enw ‘Cynghrair er Amddiffyn Rhyddid ac Eiddo’. Mae’n son ei fod yn edmygu dyfalbarhad yr Arglwydd Penrhyn i beidio rhoi i mewn i’r chwarelwyr, mae’n credu ddylsai bobl ei edmygu gan ei fod wedi sefyll i fynny a chwffio dros yr egwyddor. Mae’n ei frolio a dweud fod angen iddyn nhw hefyd ddangos cefnogaeth iddo. Mae’n credu mai’r Argwlydd Penrhyn sy’n iawn ac ei fod o yn gwybod beth sydd orau i’r chwarelwyr. Mae’r ffynhonell yn ddefnydddiol iawn gan ei fod yn dangos ymateb yr uchelwyr i’r streic. Ond ar y llaw arall niallaf ddibynnu’n hollol ar C5 gan fod W.W. Vivian yn ffrindiau a’r Argwlydd Penrhyn ac felly eisau ei annog i beidio a gadael i’r chwarelwyr ennill a cael eu ffordd eu hunain.
Mae’r ffynhonell CH2 ac CH4 yn cefnogi’r dehongliad mai’r arglwydd Penrhyn oedd ar fai am streic fawr y Penrhyn.
Cafodd Ch2 ei ysgrifenni gan W.J.Parry, sef arweinydd yr undeb. Rydym yn gwybod ei fod ar ochr y gweithwyr oherwydd mae’n dweud pethau fel ‘Ond mae’n amlwg y gall chware triciau ddigon budr’. Ac ‘pwy ond yr A.P. a wnai’r fath beth?’
Mae’r ffynhonell hon yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn dangos safbwynt yr undeb a’r gweithwyr am y streic. Mae’n dweud fod yr Arglwydd Penrhyn yn twyllo’r bobl ac yn ceisio ei breibio yn ol i’r gwaith gyda sofren aur. Mae’n amlwg fod W.J. Parry ar ochr y gweithwyr ac ei fod yn rhoi’r bai ar Arglwydd Penrhyn.
Yn anffodus, nid ydym yn gallu dibynu ar y ffynhonell hon yn llwyr, oherwydd ei fod wedi cael ei ysgrifennnu gan aleod o’r undeb ac mae’n rhoi mwy o farn nac o ffeithiau. Gan fod W.J. Parry yn aeold o’r undeb, mae eisiau parahu gyda’r streic a dim eisiau i bobl fynd yn ol i’r gwaith. Nid yw eisiau gweld diwedd i’r streic, ‘Rhaid peidio a gostwng y faner yn awr’. Mae’n ceisio herio’r gweithwyr i aros yn y streic, felly mae’n amlwg ei fod am ddweud pethau drwg am yr Argwlydd Penrhyn.
Yn ogystal, mae’r ffynhonell Ch4 yn cefnogi’r ffaith mai bai yr Arglwydd Penrhyn oedd y streic ac mae’r ffynhonell hon yn ddefnyddio gan ei fod yn cefnodi ffynhonell W.J. Parry. Yn y ffynhonell hon rydym yn cael dehongliad hanesydd modern, Geraint H. Jenkins, mae yn ei feio am y streic ac yn gweld bai arno yn meddwl ei fod yn styfnig iawn. Ond mae’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio’r Arglwydd Penrhyn yn gwneud i mi gwestinynu dibynadwyedd yr ffynhonell eiliadd hon gan nad yw’n edrych ar ddwy ochr y ddadl.
Gwelaf o’r ffynhonellau fod ffynhonell Ch1, sef erthygl a ysgrifennwyd yn y Cambrian News ar 19 o Ebrill 1901 yn rhoi dehongliad gwahanol ac yn cydymdeimlo a’r Argwlydd Penrhyn. Credaf fod y ffynhonell yn ddefnyddiol gan ei fod yn dangos fod y ‘Cambrian News’ a llawer o geidwadwyr yn credo fod y chwarelwyr eisiau cymrud drosodd y chwarel. Ond gallai’r ‘Cambrian News’ fod yn anibynadwy am ei fod yn bapur i’r ceidwadwyr a fyddai o blaid yr Arglwydd Penrhyn. Mae ffynhonell Ch3 yn rhoi datganiad i’r Argwlydd Penrhyn gan 9 o Arglwyddi a bobl bwysig yn y wald. Mae’n ffynhonell defnyddiol gan ei fod yn dangos safbwynt bobl bwysig y wlad. Gwelaf eu bod yn meddwl fod yr Arglwydd Penrhyn yn ddewr am beidio ildio i’r gweithwyr. Hefyd maent yn beio’r gweithwyr a dweud fod gan neb yr hawl i ddweud wrthynt beth i wneud, ac mai dyma’r egwyddor. Ond, ni allwn ddibynu ar y ffynhonell hon oherwydd fod yr awduron eisiau cadw’r un egwyddor a peidio rhoi unrhyw fath o hawl i’r gweithwyr.
Wedi astudio adranau A-Ch a materion ynglun a streic fawr y Penrhyn, credaf fod y cyfoeswyr yn gywir i feio’r Arglwydd Penrhyn am y streic. Y rheswn a ddywedaf hyn yw ar ol darllen ffynhonell Ch5 gwelaf fod Jean Lindsay, sef haneswr sydd wedi ysgrifennu ‘ A history of the North Wales slate industry’ yn edrych ar y ddwy ochr o’r ddadl cyn dod i’r farn fod yr Arglwydd Penrhyn ar fai. Gwelaf y ffynhonell eilaidd gan Jean Lindsay yn ddefnyddiol, am ei bod yn dangos pam roedd yr Arglwydd Penrhyn heb stopio’r streic. Dywedai ei fod yn poeni fod y chwarelwyr ar Blaid Lafur yn ceisio cymryd drosodd y chwarel ac felly ddim yn gwybod beth i’w wneud ynglun a rhoi undeb iddyn nhw. Ond gwelwn mai Rhyddfrydwyr ydy’r chwarelwyr ac felly nid oes gan yr Argwlydd Penrhyn ddim byd i boeni amdano. Gwelaf fel Jean Lindsay fod yr Arglwydd Penrhyn yn ‘paranoid’ gan nad oedd e eisiau colli ei chwarel.