Gwnaethom arbrawf rhagbrofol yn gyntaf i ymarfer gwneud yr arbrawf ac i ymchwilio mewn i ba mesuriadau i ddefnyddio.
Dyma’r canlyniadau
4cm o fagnesiwm, 40cm3 o asid.
4cm o fagnesiwm, 20cm3 o asid, 20cm3 o ddŵr
Ar ôl edrych ar y canlyniadau yma rydyn ni wedi dewis defnyddio 4cm o fagnesiwm a 45 cm3 o asid. Byddwn yn defnyddio y crynodiadau canlynol. – 33% 56% 67% 78% a 100% asid.
Dull
Offer - Flasg Gonigl, chwistrell nwy, stondyn retort, asid, dŵr, magnesiwm, silindr mesur, pren mesur, amserydd, siswrn.
- Trefnwch eich offer fel hyn:
- Rhowch 45cm3 o asid yn y fflasg gonigl.
Wrth mesur cofiwch fod dwr yn gorwedd
mewn siâp bwa cofiwch i ddarllen o waelod y bwa.
- Torrwch 4cm o fagnesiwm gyda siswrn ar ôl fesur gyda phren mesur.
- Rhowch y magnesiwm i fewn i’r fflasg gonigl. Yn syth ar ôl i chi rhoi’r magnesiwm i fewn, rhowch y ceuad ar y fflasg yn syth i atal unrhyw hydrogen dianc. Cofiwch gwneud yn siwr fod y chwistrell nwy wedi gwthio i mewn.
- Dechreuwch amseru. Pob pum eiliad nodwch cyfaint yr hydrogen yn y chwistrell nwy.
- Glanhewch yr offer
- Nawr dechreuwch eto, y tro yma defnyddiwch 35cm3 o asid a 10cm3 o ddŵr. Gwnewch yr un peth gyda: 30cm3 asid/15cm3 dŵr, 25cm3 asid/ 20cm3 dŵr, 15cm3 asid/30 cm3 dŵr.
Rydw i’n rhagfynegi: po cryfaf yw’r crynodiad, y cyflymaf bydd y cyfradd adwaith.
Rydw i’n credu hyn oherwydd: i gael cyfradd adwaith fawr mae rhaid cael llawer o wrthdrawiadau llwyddiannus, wrth amnewid yr asid gyda dŵr(sydd ddim yn adweithio yn yr arbrawf hyn) mae’n lleihau’r siawns fydd atom magnesiwm yn cael gwrthdrawiad llwyddiannus gyda moleciwl o asid.
Canlyniadau
45cm3 o asid (100%)
35 cm3 o asid a 10 cm3 o ddŵr (78%)
30 cm3 o asid a 15cm3 o ddŵr (67%)
25cm3 o asid a 20cm3 o ddŵr (56%)
15cm3 o asid a 30 cm3 o ddŵr (33%)
*Ni fyddaf yn cynnwys hyn y yn y cyfartaledd
Mae’r canlyniadau yn dangos wrth lleihau crynodiad yr asid, mae’r cyfradd adwaith yn cynyddu. Mae graff 1, 2, 3, 4 a 5 yn dangos pob adwaith. Rwyf wedi gwneud tangiad ar bob un i dangos cyfradd adwaith ar rhan gyflymaf yr arbrawf.
Mae cyfartaledd o 54 cm3 o hydrogen yn cael ei ryddhau mewn pob arbrawf. Mae’r llinell ffit orau ar pob graff yn mynd yn llai serth ar ôl amser syn dangos fod cyfradd yr adwaith yn arafu wrth i lai o wrthdrawiadau llwyddiannus digwydd.
Rwyf wedi gwneud tangiad ar bob un i dangos cyfradd adwaith ar rhan gyflymaf yr arbrawf.
Tabl i ddangos cyfradd adwaith pob arbrawf
Mae’r graff cyfradd adwaith yn erbyn crynodiad yn dangos y canlyniadau hyn.
Wrth cryfhau’r crynodiad mae cyfradd adwaith yn cyflymu. Mae’r canlyniadau yn ategu fy rhagfynegiad yn medrus, gan cryfhau’r crynodiad mae’r cyfradd adwaith yn cyflumu o 0.25cm/e i 3 cm/e. Po cryfaf yw crynodiad yr asid, y fwy o wrthdrawiadau llwyddiannus sy’n digwydd a felly y cyflymaf yw’r cyfradd adwaith.
Mae’r canlyniadau yn dibynadwy. Gwnaethom pob arbrawf o leiaf 2 waith a mae’r dau rhediad yn cyfateb.
Aeth arbrawf 5, rhediad 2 yn anghywir, gall hwn fod oherwydd mesuriadau anghywir neu oherwydd doedd y caead ddim arno yn gywir. Gallwn addasu’r dull i wella’r arbrawf. Ni ddefnyddiom dŵr hollol pur yn yr arbrawf, mae llawer o gwahanol cemegion yn dŵr tap a allai hwn wedi effeithio ar yr adwaith. Defnyddiom chwistrell nwy a llygaid noeth i cyfrifo cyfaint yr hydrogen a chynhyrchwyd, gallwn wedi defnyddio cyfrifydd digidol a fyddai’n gallu cyfrifo’n fwy manwl. Gallwn wedi defnyddio magnesiwm o ansawdd well. Doedd mesur yr asid a’r dŵr ddim yn delfrydol, cadawon ni’r un person yn mesur y toddiannau ond byddai wedi bod yn well i cael mesurydd digidol. Os fyddaf yn gwneud yr arbrawf eto,a fwy o amser, byddaf yn defnyddio crynodiadau gwahanol e.e 20% 40% 60% 80% a 100% ar gyfer cael fwy o cysondeb.
Ar gyfer darganfod fwy o dystiolaeth gallwn ymchwilio i mewn i fwy o arbrofion perthnasol. Falle defnyddio metel neu asid gwahanol, neu gwahanol cryfder o asid i weld os ydy hyn yn effeithio ar y canlyniadau.