Mae swn traed yn agosáu. A allaf adael fy hun i freuddwydio bod Llew a Gwydion yn dychwelyd? Na, mae’r swn yn rhy ysgafn, rhy fregus, fel swn aderyn bach yn glanio mewn dôl. Dim traed dyn rwy’n ei glywed. Rhagnell. Pam nad yw hi’n fy ngadael i wylo nes i’r haul fachlud? Dros fy ngwr, dros fy mywyd a dros fy unigedd? Bydd ceisio esbonio fy nheimladau fel ceisio newid lliw yr awyr a’r haul a chwerthin yn fy nhristwch. Mae Rhagnell yn ceisio fy nghysuro ond ofer yw ei geiriau caredig. Ofer yw fy hiraeth am y bywyd a gollais.
Teimlaf yn y gwynt fod storm ar fin ein cyrraedd . Storm a fydd yn syfyrdanu’r bobl o’m hamgylch ond rwy’n gwybod ei bod yn dod. Bydd y gwynt yn rhuo a’r glaw yn curo, y dail yn dawnsio a’r afon yn rhuthro, a ni all ddim ei rwystro am mai natur ydyw. Mae storm yn wyllt ac yn anrhagweladwy. Mae strom rhywbeth ni ellir ei reoli, fel natur, fel myfi. Ond pwy fyddai’n dymuno ei reoli? Pwy fyddai’n dymuno colli’r elfen o syndod ac antur sydd i’w weld yn natur? Llew a Gwydio dyna pwy. Maent hwy’n ceisio fy newid, ceisio fy nofi.
Clywaf gorn yn canu yn y pellter. Corn hela. Mae’r swn melys yn fy llenwi ac yn gwneud i mi anghofio am fy mhroblem. Mae’n stopio. Daw’r gwacter yn ôl i fy nghalon. Rhaid i mi ddarganfod pwy sy’n canu’r corn hela. Mi allwn garu heliwr.
Ymson Gronw Pebr (Act 2)
Gyda phob carlam a wna fy ngheffyl i ffwrdd o Blodeuwedd mae fy nghalon yn fy mrifo ychydig yn fwy. Y boen dros yr hiraeth sydd yn llenwi fy nghorff am Blodeuwedd a’r dyddiau a fu. Anghofia i fyth y tridiau diwethaf. Rwyf wedi bod yn hedfan â hapusrwydd ond yn awr rhaid i mi ddychwelyd i’r ddaear a gwirionedd fy mywyd hebddi. Atgof pell yn unig yw’r dyddiau a dreuliais yn ei chwmni.
Nid oeddwn am i ni ganu’n iach ond dianc, dianc ym mreichiau ein gilydd i’m castell draw. Ond nid dyna y dymuna hi. Mae arni ofn, ofn pob dieithryn. Nid wyf yn deall pam, ond rhoddwn fy mywyd i allu bod yno i’w chysuro, i’w dal yn fy mreichiau a’i chusanu’n addfwyn.
Fel hedyn y bûm ar dir caregog heb siawns o ddŵr i leddfu fy syched. Ond y nawr, gyda Blodeuwedd yn fy mywyd gallaf dyfu ac egino. Ni welais fath brydferthwch yn fy myw. Nid yw Blodeuwedd fel merched Penllyn. Yn debycach i angel na merch nid yw Blodeuwedd fel unrhyw ferch o’r byd dynol. Ei llygaid a wnaeth fy nhrywanu o ochr arall ystafell brysur. Ei gwefusau lliw coch fel rhosyn yn gwahodd perygl. Fel cwmwl mae’n hedfan o le i le yn anwybodol o bob llygad yn ei dilyn. Mae ei chyffyrddiad yn danfon ias i lawr fy nghefn a hynny’n unig y cymerau i fy ngwneud yn gaeth i’w phrydferthwch.
Ond ydy prydferthwch ac angerdd yn ddigon? Yn ddigon i gyfiawnhau troi fy nghefn ar fy nheulu ac ar draddodiad. Yn ddigon i golli urddas ac anrhydedd? Neithiwr eisteddais wrth fwrdd Llew Llaw Gyffes, yn yfed ei win a bwyta ei fwyd ac yna cysgais gyda’i wraig. Dylwn deimlo cywilydd! Beth ddigwyddodd i ffyddlondeb? A oes gen i ddim moesau? A sut gallaf feddwl am fyw heb etifedd, heb deulu? Rwy’n cael fy rhwygo ddwy ffordd. Mae’n bris uchel i’w dalu am gariad ond gallaf anwybyddu fy euogrwydd pan mae ein gwefusau yn cwrdd. Rwy’n ysu i gael bod yn ei phresenoldeb unwaith eto, i gael cyfle i fyw unwaith eto. Rwyf yn anghofio am bopeth arall pan rwyf yn ei chwmni, dim ond hi a welaf. Rwyf wedi fy hudo a’m swyno ac rwy’n hapus am hynny.
Dim ond un dewis sydd. Rhaid i ni ladd Llew. Mi fydd yn beryglus ac efallai yn amhosib ond mae rhaid i ni drio. Nid dyna rwy’n dymuno ond dyna sydd raid gwneud. Curo ei dynged a threchu ei fam yw ei unig ofid mewn bywyd. Nid yw’n poeni am hapusrwydd ac anghenion Blodeuwedd! Pe bai’n poeni amdani hi, ni fyddai ef wedi ei gadael hi, er iddi erfyn arno i aros. Nid yw Llew yn gwerthfawrogi pa mor lwcus ydyw ef i gael Blodeuwedd yn cysgu wrth ei ochr. Fe wnaeth ef ei rhwymo hi’n gaeth mewn carchar, tywyll du. Rhoddais i oleuni a gobaith iddi a dangosodd hi ryddid a bywyd gwell i mi.
Ni wn pryd y gwelaf i hi eto ond wrth i mi edrych i fyny ar y sêr a ddisgleiriai fel gemau ar flanced tywyll y nos, meddyliaf amdani hi hefyd yn edrych ar yr un sêr a welaf i. Dyma’r unig beth sy'n ein clymu at ei gilydd bellach.
Ymson Llew Llaw Gyffes (Act 3)
Fel pelydrau haul ar fy nghroen ar ôl gaeaf oer a chaled mae geiriau Blodeuwedd yn fy llenwi â chynhesrwydd a hapusrwydd ni allaf roi mewn i eiriau. Rwyf am dderbyn plentyn, mab, etifedd! Mor felys yw meddwl fy mod wedi trechu holl felltithion fy mam ar ôl brwydro am mor hir.
Gwrthododd roi enw i mi ond cefais enw. Gosododd dynged na chawn i fyth arfau ond rwyf yn sefyll yma â chleddyf yn fy ngwain. Tynghedodd hefyd na chawn i fyth wraig o blith merched dynion na fab yn etifedd ond y mae Blodeuwedd, cannwyll fy llygaid, wrth fy ochr ac ymhen misoedd mi fydd mab gennyf hefyd. Gwydion sydd gennyf i ddiolch am hyn i gyd. Y mae ef wedi bod fel tad i mi dros y blynyddoedd. Y fe a’m helpodd i guro fy nhynged. Ac y nawr y caf fi'r siawns i fod yn dad ac mi fydd Blodeuwedd yn fam.
Mi fyddaf yn dad da a chariadus. Dysgaf iddo fabolgampau’i dad. Dysgaf iddo i daflu gwayw ac ymladd â chleddyf. Ni chodaf fyth fy llaw ato ond ei gysuro a’i werthfawrogi a diolchaf bob dydd amdano. Ni anghofia i fyth ei fod yn anrhydedd i’w gael yn fy mywyd. Ac yn bwysicach fyth byddaf yn ei garu â’m holl galon, rhywbeth na lwyddodd fy mam fyth i’w wneud.
Gwyllt oedd fy mam, yn union fel oedd Blodeuwedd. Roeddwn yn gywilydd iddi o’r cychwyn cyntaf a rhoddodd ei holl nerth i geisio fy lladd a phan na weithiodd hynny ceisiodd wneud fy mywyd yn un truenus. Rwyf wedi brwydro fy holl fywyd yn ei herbyn ac o’r diwedd caf i heddwch. Dyma beth na fydd Blodeuwedd byth yn deall. Mi wn yn fy nghalon yr oedd Blodeuwedd yn ysu i mi ddweud y mai hi oedd fy nigon ond ni allaf ddweud celwydd wrthi. Ni fydd Blodeuwedd fyth yn deall, os na gaf i fab y mae’r wrach a ddylwn ei galw’n fam yn ennill a byddaf yn teimlo fel fy mod wedi methu am weddill fy oes. Ond yn awr, gydag addewid o fab mae fy mywyd yn gyflawn.
Pan welais Blodeuwedd am y tro cyntaf roeddwn wedi fy swyno. Roedd ei chroen fel eira heb ei gyffwrdd, heb ddim nam. Cerddodd â’r fath osgeiddigrwydd a’i gwallt fel sidan aur yn y gwynt y tu ôl iddi. Roeddwn yn ysu i’w chofleidio hi. Gafaelais ynddi â’m holl nerth, ond doedd rhywbeth ddim yn iawn. Roedd hi’n oer. Roedd y croen a ddisgrifiais gynt fel lliw eira yn awr yn teimlo fel eira hefyd. Ac wrth i ni gusanu dwi’n cofio fy nghalon yn suddo am nad oedd angerdd rhyngddynt.
Ond pwy a boena ddim am hyny yn awr? Y mae fy ngwraig yn fy ngharu! A pryd gwell na yn union flwyddyn ar ôl i mi ddychwelyd o’r daith enbyd i weld y Brenin Math, pan dywedodd Rhagnell wrthyf ei bod wedi beicho crio am dridiau oherwydd na allai hi oddef fod hebddai, y daeth newyddion hapusaf fy mywyd, ei bod wedi cyflawni ei phwrpas ac yn disgwyl plentyn. O’r dydd ddychwalais roedd Blodeuwedd fel person newydd. Ni ffeindiais i hi allan yn oerfel y nos yn dawnsio yn y gwynt nac yn ysu am gael dianc o gaethiwed y castell. Daeth fy nghartref i yn gartref iddi hi, a fy mhobl i yn bobl iddi hi. Y mae wedi bod yn gymdeithasol ac yn gariadus, yn glên ac yn gyfeillar.
Y mae fy arglwyddes yn gofyn i mi adrodd hanes saethu’r dryw. O, fy Blodeuwedd! Wrth gwrs! Fe wnaf yn awr beth bynnag a ddymuna di! Adroddaf y stori fil o weithiau os dyna yr hoffet oherwydd y nawr mae fy nghwpan yn llawn.
Ymson Rhagnell (Act 4)
Rydwyf i wedi bod mor ffôl! Pam y gwahoddais i Gronw Pebr i’r Castell dros flwyddyn yn ôl ac annog Blodeuwedd i gael perthynas tu ôl i gefn Llew? Pam ufuddhau i Blodeuwedd? Rwyf yn gwybod pam, teimlais drienu drosti. Roedd hi fel plentyn coll yn ofnus ac yn unig heb unrhywun yn y byd i’w chysuro. Yr unig beth roeddwn yn dymuno oedd i weld Blodeuwedd yn hapus, yn gwenu. Yr oedd hi fel blodyn yn edwino ac yn melltithio’i gwr a’i gwnaeth hi’n briod ond yna daeth Gronw i’w bywyd, a blagurodd. Ni fyddwn i byth yn bradychu Blodeuwedd.
Rydwyf i’n cofio Blodeuwedd yn ceisio fy lladd. Ceisiodd fy nhagu gyda fy ngwallt fy hun. Felly pam ydw i’n teimlo bod rhaff rhyngddom na ellir ei datod? Pam na fradychaf i yr un a geisiodd fy lladd? Nid oedd Blodeuwedd am gymryd fy ngair, roedd hi’n siwr mai ei bradychu y byddwn os y byddai yn fy ngadael yn rhydd. Nid yr oedd yn ymddiried ynof hyd yn oed ar ôl i mi addo cadw’i chyfrinach nes y bedd. Os na fyddai Llew wedi ymddangos ar yr eiliad hynny ni fyddwn yn sefyll yma ar bwys yr afon yn awr. Ond ar ôl i mi ddweud celwydd wrth Llew, rhoddodd Blodeuwedd ei holl ffydd ynof i.
Aeth ias i lawr fy nghefn pan clywais bod Llew yn fyw. Mae hynny’n teimlo fel oriau yn ôl yn awr. Credais i mai efe gladdodd y Llew ond gwadu hyn a wnaeth Penteulu Penllyn.
Rydwyf yn teimlo mor ffôl. Nid wyf wedi gweld y bedd a fel y dywedodd Penteulu Penllyn “mae cysur mewn bedd”. Dadleuais i a dadleuais i â Phenteulu Penllyn ond yr oedd rhaid i mi wynebu’r gwirionedd. Yna cyn i’r newyddion gael siawns i suddo mewn cyrhaeddodd Blodeuwedd.
Roeddwn yn disgwyl iddi fod wedi synnu ond na, dywedodd he ei bod yn disgwyl hyn! Flwyddyn yn ôl taflodd ei hun ar y llawr yn wylo am fod ei gwr wedi ei gadael ond yn awr, ar ôl clywed bod y dyn y cynllwyniodd hi ei ladd yn fyw, nid oedd tamaid o emosiwn ar ei wyneb.
Rhaid mai dod am frwydr y mae Llew. Dod i adennill yr hyn a gollodd. Nid oes siawns gennym i ennill. Mae gan LLew dri chant o wyr a nid oes deugain o wyr yn brwydro ar ein hochr ni. Mi fydd Llew yn fy lladd, nid oes amheuaeth am hynny. Nid wyf yn dymuno marw. Nid wyf eisiau teimlo poen. Mae poen yn fy ofni. Mae’r afon yn disgleirio yn yr haul o fy mlaen. Mae’n fy ngalw i. Nid wyf yn gwybod beth arall i wneud. Nid oes gennyf ddewis.