Hefyd mae nifer o resymau eraill am stopio triniaeth:
- Nid yw’r claf yn dangos unrhyw arwydd o welliant ar ôl cyfnod o amser;
- Mae’n niweidio mwy nag mae’n helpu;
- Roedd yn driniaeth arbrofol sydd wedi methu;
- Mae’r claf yn mynd i farw, ac nid yw’n driniaeth i leihau dioddefaint;
- Neu mae’r claf yn ofyn am stopio’r driniaeth.
Rhai rhesymau am osgoi neu oedi gyda thriniaeth;
Fel y gwelwch mae tebygolrwydd yn llawer o’r rhesymau a weithiau y ffordd mae unigolyn yn darllen a deall sydd yn dylanwadu eu barn.
Mae rhai triniaethau gydag “effaith ddwbl”. Enghraifft o hyn yw cyffuriau lladd-poen i gleifion cancr. Mae hyn yn lladd ei boen, ond mae hefyd, mewn achosion, yn cyflymu eu marwolaeth. Mae’r “effaith ddwbl” yn cael ei ystyried yn dderbyniol oherwydd y bwriad oedd, dim i ladd y claf, ond ei boen, neu fel mae’r sais yn dweud “the right to a pain-free, dignified death.” Yn fy marn i, y broblem gyda’r enw “effaith ddwbl” yw ei fod yn cyfleu fod y ddau beth wedi’u bwriadu. Er hyn, mae cyffuriau lladd-poen yn lleihau bywyd claf mewn dim ond 1 achos o 1000.
Achos enwog arall yw achos Tony Bland yn 1989. Roedd yn gefnogwr yn nhrychineb Stadiwm Hillsborough, a dioddefodd niwed difrifol i’w ymenydd pan oedd dim ond yn 17 mlwydd oed. Aeth i côma o’r enw PVS, neu Persistant Vegetative State oedd yn golygu ei fod yn gallu anadlu drosto’i hun, ond dim byd arall. Dywedodd y barnwr yn yr achos buasai hwyhau ei fywyd yn niweidiol, fel ei fwydo drwy diwb i lawr ei drwyn a defnyddio llawer o wrthfiotig, ac felly gall cael ei ystyried fel cyrch. Rwyf i yn credu gyda’r dyfarniad yma, oherwydd nid wyf i yn teimlo dylid hwyhau bywyd rhywun os nad ydynt yn gallu gwneud dim drosto’i hun, neu wrth gwrs os yw’r claf yn gofyn am gael diffodd unrhyw beiriant sydd yn eu cadw’n fyw. Yn yr achos yma, mae dwy o’r rhesymau fues yn sôn amdanynt yn bosibilrwydd: y cyntaf yw nad oedd Tony yn dangos unrhyw welliant ar ôl llawer o driniaeth. Hefyd, yr unig reswm oedd Tony dal yn fyw oedd am ei fod yn cael ei gadw’n fyw gan beiriannau, ac ymroddiad nifer o aelodau gwahanol y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Richard Nicholson, golygydd Bwletin Moeseg Meddygol hyn;
“One of the substantial side effects of medical advancements is that we can keep the body alive almost regardless of how severly damaged it has become.”
Onid ydych chi gyfeillion, fel yr wyf i, yn credu fod Richard Nicholson yn dweud y gwir. Y broblem gyda datblygiadau meddygol yn digwydd mor gyflym ydi rydym yn cadw babanod yn fwy pan fo dros 50% ac anawsterau niwrolegol. Mae’n rhaid i ni gofio hefyd, deng mlynedd yn ôl, buasai llawer o’r plant yma yn marw o fewn ychydig fisoedd, wythnosau, dyddiau efallai ar ôl cael eu geni.
-
Un pwynt pwysig mae rhai pobl yn anghofio yw bod gwahaniaeth mawr rhwng ewthanansia a stopio neu oedi triniaeth. Ewthanasia yw helpu rhywun yn benodol i roi diwedd ar fywyd. Mae hyn yn anghyfreithlon ym Mhrydain ar hyn o bryd, ond dydi stopio neu oedi triniaeth ddim. Mae’r Arglwydd Joel Joffe yn ceisio perswadio Tŷ’r Arglwyddi i dderbyn Mesur Marwolaeth Cymorthwyol i’r “Terminally Ill”. Mesur yma’n cael ei wrthwynebu gan y Comisiwn Hawliau’r Anabl, “Disability Awareness in Action”, Helpu’r Henoed, “Age Concern”, a nifer o asiantaethau a chymdeithasau meddygol ym Mhrydain, gan cynnwys Y Coleg Nyrsio Frenhinol.
“A doctors job is to make clinical judgements about whether treatment is appropriate or not. If it is not appropriate it should be withdrawn.”
Daeth y dyfyniad yma o araith a gyflwynwyd i bwyllgor moeseg y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, gan Dr Michael Wilks, sydd yn aelod o’r pwyllgor. Dywedodd hefyd bod bob tro mae triniaeth di-angenraidd, neu di-bwynt, rydym yn gwastraffu adnoddau ysbytai. Efallai buasai’r adnoddau hyn yn gallu cael eu defnyddio i roi triniaeth i achub bywyd rhywun fydd a gwell safon byw yn y diwedd.
Yn awr, rwyf am sôn am hawliau plant a’u rhieni gyda chi. Dau achos llys amlwg diweddar yw achosion Luke Winston-Jones a Charlotte Wyatt. Gofynnaf i chwi meddwl nawr am y plant bach yma, a nifer o rai eraill yn debyg iddynt, bron yn flwyddyn oed, a dal heb cael mynd adref. Er fod salwch y ddau babi yma yn wahanol, bu’r meddygon yn y ddau achos yn dweud buasai’n fwy clên i beidio rhoi triniaeth “ymosodol” er enghraifft rhoi tiwb yn eu gyddfau i helpu iddynt anadlu. Ond yn y ddau achos, roedd y rhieni yn anghytuno, gan ddweud bod eu plant yn haeddu bob cyfle posib. Felly bu rhaid i’r ddwy achos fynd i’r Uchel Lys. Yr hyn roedd llawer o bobl yn credu cyn yr achosion yma, oedd fod y rhieni â’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â thriniaeth eu plant, ond mae’r achosion yma wedi dangos i llawer o bobl fod gan meddygon yr hawl i wrthod triniaeth i glaf os ydynt yn credu nad yw’r driniaeth â digon o werth, neu bod safon byw y claf yn cael ei ystyried mor isel nid yw er lles y claf i barhau. Ond, os yw’r rhieni a’r meddygon yn anghytuno, mae’n rhaid i’r Uchel Lys penderfynu. Rwyf yn gallu cydweld â rhieni’r plant yma, ac mae gen i bechod drostynt, a’r plant wrth gwrs. Ond rwy’n siwr y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn cytuno gyda mi pan ddywedaf, er y dylai rhieni cael rhan fawr i chwarae ynglŷn â thriniaeth eu plant, dylai fod yr meddyg yn cael y penderfyniad olaf, oherwydd mae’n siwr bydd barn y rhieni wedi’i ddallu gan emosiwn a’r penderfynoldeb i cadw eu plant yn fyw, a fod y meddygon yn gwneud eu penderfyniad ar sail blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth yn gyntaf ag emosiwn yn ail.
Felly, gyfeillion diolchaf am eich sylw, a gobeithiaf fy mod wedi newid meddyliau rhai ohonoch ynglŷn â’r pwnc difrifol iawn yma.
Shôn Prebble Ysgol Dyffryn Nantlle
10D Set1
Cymraeg
/