Grampa - Dyn yn wreiddiol o Sir Benfro yw Frederick Fred James Scourfield neu Grampa i fi.

Authors Avatar

Grampa

Dyn yn wreiddiol o Sir Benfro yw Frederick ‘Fred’ James Scourfield neu ‘Grampa’ i fi.  Mae’n 83 mlwydd oed ac yn byw ym Margam ym Mhort Talbot.  Roedd wedi’i magu i deulu mawr a 7 o blant.  Felly doedd dim problem edrych ar ol fi, fy mrawd am chwech o gefndryd.  Mae’n dwli edrych ar ol ni’r wyron.

         Dydw i ddim yn gweld Gramapa yn aml iawn er ei bod dim ond yn byw ym Mhort Talbot a fi yng Nghastell-nedd.  Byddem bob amser yn cael croeso mawr wrth gerdded i mewn i’r tŷ.  Yn aml byddai’r drws ar agor i ni gerdded i mewn a byddai Grampa yn cysgu yn ei gadair a’r set deledu dal ymlaen.  Ond basai’n dihino bob tro wrth i ni fynd i eistedd.  

Join now!

          Ymarfer côr yw un o bethau mwyaf bwysig i Grampa.  Côr Meibioin Aberafon fydd yn chwarae  ar y chwaraewr CD yn y gegin pob tro.  Os byddem yn galw ar y ffon i weld os oedd yn iawn i fynd draw, yr ateb bob nos iau ‘Sori, ymarfer côr heno!’

           Un peth arall yw’r capel.  Mae’n un o ddiaconiaid a trysorydd capel Gibeon ym Margam.  Mae yno pob dydd Sul.  Byddai’i yn mynd i’r capel gyda fe ambell waith.  Byddai’n credded lawr yn browd i’w sedd yn y set fawr ...

This is a preview of the whole essay