Rhagfynegiad
Yn yr arbrawf yma mi fydda i’n edrych ar sut mae hyd gwifren yn effeithio ar ei wrthiant. Rwy’n rhagfynegi y hiraf y wifren y mwyaf y gwrthiant. Rwy’n credu hyn oherwydd mae mwy o atomau i’r electronau wrthdaro gyda mewn gwifren hir sy’n gwneud hi’n fwy anodd i’r cerrynt lifo gan achosi gwrthiant. Rwy’n credu bydd gan wifren 40cm dwbl y gwthiant sydd mewn gwifren 20cm hynny yw rwy’n rhagfynegi perthynas cyfranedd union rhwng hyd y wifren a maint y gwrthiant. Mae’r electronnau sy’n llifo trwy wifren 40cm â dwbl y pellter i deithio i gymharu a gwifren 20cm ac felly yn gwrthdaro dwywaith yn fwy cyson gan achosi dwywaith cymaint o wrthiant.
metel
atom
electron
hyd = x hyd =2x
gwrthiant = y gwrthiant = 2y
Gwaith Rhagarweiniol
Dyma fy nghanlyniadau i yn defnyddio 1V ar hyd gwifren nicrom o 50cm
Dyma canlyniadau grwp arall a oedd yn defnyddio 2V
Dyma canlyniadau grwp arall a oedd yn defnyddio 3V
O edrych ar y gwerthoedd gwrthiant a gyfrifais, gallaf weld mae dim ond amrywiad o 0.4 ohm sydd. Y mae hyn yn gwneud yr arbrawf yn ailadroddadwy. O gymharu fy nghanlyniadau i gyda canlyniadau grwpiau eraill gallaf weld ei bod nhw’n debyg iawn â amrywiad o 0.8 ohm yn unig. Mae hyn yn gwneud yr arbrawf yn atgynyrchadwy. Gall yr amrywiad yn y canlyniadau fod oherwydd bod pob grwp yn defnyddio offer gwahanol neu heb mesur y wifren yn union yr un peth.
Prawf Teg
Y newidyn annibynnol yn yr arbrawf yw hyd y wifren a’r newidyn dibynnol yw’r gwrthiant. Byddaf yn sicrhau fy mod yn mesur yr hyd yn gywir trwy ddefnyddio pren mesur. Byddaf yn defnyddio’r cerrynt a’r foltedd i gyfrifo’r gwrthiant. I sicrhau prawf teg mi fyddaf yn cadw’r un foltmedr a amedr drwy gydol yr arbrawf. Mi fydd angen sicrhau bod trwch y wifren yn aros yn gyson sef 32 mgs (medrydd gwifren safonol). Os na fyddai’n aros yn gyson gall effeithio ar y gwrthiant. Mi fyddaf yn sicrhau hyn drwy ddefnyddio’r un wifren. Y mae hefyd angen cadw y math o wifren yn gyson sef gwifren nicrom. Eto byddaf yn sicrhau hyn drwy ddefnyddio’r un wifren er mwyn sicrhau nad yw’n effeithio ar y gwrthiant. Rwyf wedi penderfynu defnyddio gwifren nicrome 32 mgs oherwydd nad yw tymheredd yn cael effaith mawr arno ac mse’n rhoi amrediad o wrthiant sy’n hawdd i’w fesur. Y mae angen cadw’r foltedd yn gyson sef 3V oherwydd os yw’r foltedd yn codi bydd y cerrynt hefyd yn codi ac rydyn yn defnyddio’r cerrynt a’r foltedd i gyfrifo’r gwrthiant. Byddwn yn sicrhau hyn drwy cadw’r foltedd rhwng 3.00 a 3.09 folt. Rydw i wedi penderfynu ar foltedd o 3V oherwydd wrth edrych ar fy ngwaith rhagarweiniol gallaf weld bod foltedd o 1V yn rhy fach ac yn anodd i fesur gyda’r offer bydd ar gael i mi. Bydd foltedd uchel iawn yn beryglus am y byddent yn achosi i’r wifren orboethi. Y mae fy ngwaith ymchwil hefyd yn dweud wrthaf mai 3V yw’r foltedd gorau i ddefnyddio. Yn olaf rhaid sicrhau bod tymheredd y wifren yn aros yn gyson. Os bydd y tymheredd yn cynyddu bydd mwy o wrthiant. Gallwn sicrhau nad yw’r wifren yn gorboethi drwy ddiffodd yr offer yn gyflym ar ôl cymryd mesuriad.
Yr amrediad byddaf yn defnyddio yw o 100cm i 20cm gan fyrhau’r hyd wrth 10cm bob tro. Byddaf yn dechrau ar yr hyd mwyaf (100cm) a gorffen ar yr hyd lleiaf (20cm) oherwydd rwy’n credu bydd y wifren yn cynhesu’n gyflymach os byddaf yn dechrau ar werth isel a gweithio fy ffordd i fyny. Gall hyn gael effaith ar fy nghanlyniadau. Rydw i wedi penderfynnu ar yr hydoedd yma am ei fod yn rhoi amrediad mawr o werthoedd. Mae hyd o dros 100cm yn dod yn anymafrerol ac os defnyddir hyd o lai na 20cm gall y wifren orboethi oherwydd os yw’r wifren yn fyr yna bydd y gwrthiant yn fach a bydd y cerrynt yn fawr a bydd y tymheredd godi gan effeithio ar fy nghanlyniadau. Byddaf yn ailwneud yr arbrawf tair gwaith oherwydd wrth edrych ar y gwaith rhagarweiniol gallaf weld bod y gwerthoedd wedi bod yn agos at ei gilydd ac yn ailadroddadwy felly nid oes angen ailadrodd yr arbrawf yn fwy na hyn. Hefyd mae canlyniadau grwpiau gwahanol yn debyg sydd yn dangos bod yr arbrawf yn atgynyrchadwy.
Diagram offer
Cyfarpar
Gwifren nicrom, 100cm o hyd, 32 swg
riwl fetr
cyflenwad pwer
foltmedr
amedr
5 gwifren ynysedig
2 clip crocodeil
Dull
Gosodwch yr offer fel yn y diagram
Mesurch 100cm o wifren gyda prenmesur i sicrhau eich bod yn mesur yn gywir a gosodwch y clipiau crocodeil ar sero ac ar 100cm
Trowch y cyflenwad pwer ymlaen a newidwch y deial nes ei fod yn dangos 3.00V
Cofnodwch y foltedd a’r cerrynt
Diffoddwch y cyflenwad pwer er mwyn sicrhau nad yw’r wifren yn gorboethi
Cyfrifwch wrthiant y wifren gan ddefnyddio’r fformiwla
Gwrthiant = foltedd
cerrynt
Gwnewch camau 1 i 6 dwywaith eto i wirio a ailadroddadwyedd
Symudwch y clipiau crocodeil i lawr i 90cm yna 80cm yna 70cm a.y.y.b ac ailadroddwch yr arbrawf
Cofnodwch canlyniadau dau grwp arall i wirio atgynyrchadwyedd
Asesiad Risg
Perygl : y gwifren yn cynhesu yn ystod yr arbraf
Risg : llosgi croen
Rheoli : gadael amser i’r wifren oeri’n gyfan gwbl cyn ei chyffwrdd a diffodd y cyflenwad pwer yn syth ar ol pob mesuriad
Perygl : defnyddio trydan
Risg : sioc drydanol
Rheoli : diffodd y trydan yn gywir, peidio cyffwrdd socedu trydanol â dwylo gwlyb, bod yn ofalus