“Bleasdale’s writing is noted for its truth-to-life, particulary Liverpool life. The situations, the events, the characters and the dialogue were generally accepted by the audience as an accurate reflection of life on the dole in Britain in the 1980s.”
Profa hyn yr effaith a gafodd y ddrama hon ar fywydau pobl Brydain yn y cyfnod. Llwyddodd y ddrama chwyldroadol hon ennyn dipyn o sylw ac enillodd ‘Drama Academi Brydeinig’ ym 1983. Dywedodd Beasdale ei hun “It is my belief that at least 90% of those who are out of work, want to work.” Cydymdeimlodd â’i gymeriadau fel y cydymdeimlodd â’r gymdeithas yr oedd yn byw ynddi. Oherwydd y sefyllfa economaidd yr oeddynt yn sownd ynddi roedd dros 3 miliwn o bobl yn ddiwaith, gellir deall felly sut ei bod wedi bod yn gyfres mor ddylanwadol.
Disgrifir symboliaeth fel “the practice of representation by symbols” sef “a mark or sign or something other than itself, especially of some transcendent reality.”
Defnyddir symboliaeth yn gyson drwy gydol y gyfres arbennig hon, a chan ganolbwyntio ar y bennod olaf, sef ‘George’s Last Ride’ rwyf am drafod sut gall gor-ddefnydd o symboliaeth dynnu oddi ar brif neges y ddrama a rhediad naturiol y llinyn storiol. Y bennod olaf yw hon sy’n cloi cyfnod mewn hanes wedi i George farw. O ddechrau’r bennod hyd ei diwedd, gwelir arwyddocad symbolaeth. Mae’r ffaith fod George Malone yn gwisgo ei drwsus nos i fynd allan yn pwysleisio difrifwch ei salwch ac yn ennyn ein cydymdeimlad yn syth. Hoffais y defnydd o raffau metel rhydlyd yn y dociau oedd nid yn unig yn dangos dirywiad yn iechyd George ond hefyd yn dangos y dirywiad oedd wedi bod ym myd gwaith y dociau ac yn pwysleisio’r ffaith nad oedd neb yno dim mwy. Mae’n amlwg fod George yn ffigwr poblogaidd iawn o fewn y gymuned oherwydd i bawb ruthro ar ei ôl a phoeni amdano. Mae’r parch sydd tuag ato yn gryf iawn a cheir hyn yn amlwg iawn gan y doctor wrth iddo eistedd gydag ef ar y gwely a chael hwyl hefo fo. Yr hyn sy’n drist yn nechrau’r bennod yw’r faith ein bod ni, fel cynulleidfa, yn gallu rhagweld bod y diwedd yn agos ganddo, mae George ei hun yn dweud; “When you go to the hospital, you’re as good as dead.” Wrth astudio’n fanwl, gwelir symboliaeth cryf o farwolaeth yn y nyrs sy’n gofalu am George yn yr ysbyty. Canolbwyntir ar nyrs groenddu sy’n sefyll wrth ochr ei wely, gellir dehongli hyn fel y frân ddu sy’n symbol o farwolaeth, felly ceir yr awgrym fod George ar ei wely angau. Ceir nifer o siotiau agos o ddwylo eiddil ei wraig, Mary, sy’n cyfleu ei gofid a’i gofal drosto. Yn fy marn i, ceir ormod o siotiau agos o ddwylo bobl drwy gydol y bennod hon a chredaf bod hyn yn amharu ar y llinyn storiol. Nid oes angen ail-ddangos dwylo Mary droaeon oherwydd rydym wedi cael y neges y tro cyntaf ac nid oes ystyr newydd i’r siot. Golygfa arall sy’n amharu ar y rhediad naturiol yw golygfa George wrth fedd ei fab. Credaf ei bod yn olygfa bwysig o ran dangos tristwch tad yn colli mab ond mae’r ffaith ei bod cyn hired yn difetha’r naws hwn. Er hyn, rwy’n hoff iawn o’r symboliaeth o law George ar y garreg fedd fel petai’n law ar ysgwydd ei fab. Ceir ddefnydd gwych o symboliaeth yn sawl darn o’r bennod hon er enghraifft, rhai syml fel George yn methu gorffen ei swp wrth y bwrdd swper sy’n dangos pa mor wirioneddol sal ydi o a rhai mwy dwys megis yr olygfa lle mae George a’i wraig yn eu gwely a ceir siot o olau ar y nenfwd, awgryma hyn fod y diwedd yn agos ac y bydd George yn symud tuag at y golau unwaith iddo farw. Cyfeirir yn gyson at y forwyn fair a chroes gristnogol sy’n awgrymu eu bod yn deulu crefyddol iawn. Gwyddwn mai Catholigion o Iwerddon ydynt ac mae’r traddodiadau a’r defosiynau Catholig yn cadarnhau hyn. Er hyn, ceir nifer o bethau yn gwrthfynd â’r syniad o grefydd, er enghraifft pan mae Chrissie yn trafod y Daily Mail sef papur ceidwadol sy’n cydfynd â grym Thatcher ac sy’n groes i’r hyn mae’r teulu yn gredu ynddo. Golygfa arall sy’n chwalu’r darlun o grefydd yw yn angladd George pan mae’r Offeiriad yn pregethu’n ddi-emosiwn a Chrissie yn torri ar ei draws;
“He didn’t do anything for no reward, not here nor in ... heaven.”
Ceir seibiant cyn y gair ‘heaven’ sy’n awgrymu nad yw Chrissie yn credu yn y nefoedd a chwala hyn y ddarlun crefyddol sy’n cael ei greu yn yr eglwys ac yng nghartref y teulu. Ceir siotiau di-ddiwedd o’r forwyn fair, y groes, canhwyllau ond gellir dadlau mai rhagrith yw hyn oll oherwydd y ffordd mae Chrissie yn ymddwyn yn yr eglwys. Dywed, “I don’t care what his name was known by all mighty God!” pan alwodd yr Offeiriad George yn ‘Patrick Malone’ oherwydd mai dyna’r enw y cafodd ei fedyddio. Wrth drafod gor-ddefnydd o symboliaeth, credaf ei bod yn bwysig son am yr hyn sydd ddim yn gweithio o fewn y ddrama ac sy’n amharu ar rediad naturiol y stori o’i herwydd. Enghraifft wych o hyn yw ymddygiad yr Offeiriad yn nhê’r claddu pan mae’n chwil ac yn chwydu ei berfeddion tu allan. Yn fy marn i, mae’r darn yma yn hollol afrealistig a di-angen sy’n gwneud y ddrama y chwerthinllyd yn hytrach na thrawiadol. Tebyg iawn yw’r olygfa cyn y claddu pan rheda’r hen ddynes at arch George yn y car cludo, credaf mai er mwyn pwysleisio pwysigrwydd George o fewn y gymdeithas yw hyn ond daw hynny’n ddigon amlwg yn y nifer o bobl sydd yn y stryd yn ffarwelio ag ef. Credaf mai yn y claddu y ceir yr olygfa mwya’ di-angen a niwediol i’r ddrama oherwydd iddi amharu’r naws. Mae’n anghredadwy bod Mary wedi neidio ar ben yr arch wedi’r claddu ac yn fy marn i, mae’n dinistrio’r ddarlun o alar sydd i’w gael o fewn y teulu. Weithiau mae llai o symboliaeth, neu symboliaeth syml yn gymaint mwy na datganiad dramatig.
Boys from the Blackstuff, The making of a TV Drama, Bob Millington a Robin Nelson, Comedia 1986
The Batsford Dictionary of Drama, Terry Hodgson, 1988, tudalen 378
The Batsford Dictionary of Drama, Terry Hodgson, 1988, tudalen 378