‘Eglura hithau’n gryno ble yn union mae ei fflat’.
Ond nid yw hi hyd yn oed yn cael gwybod ei enw ef, na faint oed ydi o. Mae hi’n dechrau amau nad ydi hi’n gwybod dim byd amdano ar ôl ycyhydig.
‘Ymgripia amheuon i’w meddwl wrth iddi gyfaddef wrth ei hyn y gallai ei dyn ‘hi’ fod yn dad, yn ŵr, yn daid… ac nad yw hi’n ei adnabod o gwbl mewn difrif.’
Ond nid yw’r ddynes yn ddigon call i wrando arni hi ei hyn. Mae hi wedi gwirioni gyda’r ffaith fod yna ddyn eisau ei chyfarfod ac yn cymryd diddordeb ynddi hi. Mewn rhyw ffordd mae’n ddyn clyfar iawn yn dewis ei ddioddefwyr yn gyfrwys ac yn arbennigol. Mae’n amlwg ei fod wedi arfer gyda gwneud yr hyn y mae’n ei wneud. Mae’r ffaith nad yw’r ddynes yn gwybod unrhywbeth am y dyn yn dangos pa mor wael yw ei perthynas hefyd. Mae hi yn hoffi meddwl ei bod hi’n ei adnabod yn dda ac ei bod hi’n gallu ymdduried ynddo. Ond mewn gwirionedd, nid yw hyn yn wir o gwbl.
Agoriad uniongyrchol sydd i’r stori hon, mae’r darllenwr yn cael ei sugno i mewn i’r stori yn syth. Mae’r stori yn agor gyda penawdau papur newydd ond yr un mwyaf pwysig i ni yw,
“Fifth woman slain- man held” sef y cliw i ni ar y dechrau. Mae’n effeithiol iawn bod yr awdur wedi llwyddo i glymu’r dechrae gyda’r diwedd mor dda gan ddefnyddio’r penawdau papur newydd. Mae tro mawr ar y diwedd nad ydym yn ei ddisgwyl sydd yn effeithiol iawn ac yn chwarae ar ei’n hemosiynau.
Mae llawer o ddeialog yn y stori hon, sef y sgyrsiau ffon mae’r ddynes yn ei gael gyda’r dyn. Mae’r stori yn digwydd yn ystod y sgyrsiau ffon hyn ac rydym yn cael rhan fwyaf o’r wybodaeth trwy’r deialog..
Mae sawl themau wedi ei gysylltu gyda’r stori fer hon, mae bob un o’r straeon byrion yr ydym wedi bod yn ei hastudio i wneud gyda’r themau unigrwydd a bobl ryfedd, ond mae pob stori yn unigryw ac yn delio gyda sefyllfaoedd gwahanol iawn. Mae ‘Y Rhif Anghywir’ yn delio gyda marwolaeth a llofruddiaeth sydd yn rhoi naws ddramatig i’r stori, yn enwedig gan nad ydym yn gweld hyn yn digwydd. Ond nid yw’r themau hyn yn dod yn amlwg tan y diwedd pan rydym yn gweld y pennawd papur newydd ac yn sylwi beth dydd wedi digwydd i’r ddynes. Mae’n rhaid i ni dychmygu’r sefyllfa erchyll yn hunain. Mae marwolaeth y ddynes yn droad mawr ar y diwedd nad ydym yn ei ddisgwyl. Unigrwydd yw prif themau’r stori ac mae hyn yn amlwg drwy gydol y stori.
Does dim llawer o nodweddion arddull yn y stori fer hon, mae’r arddull yn foel iawn.
Mae hyn yn symboleiddio pa mor ddiflas a phlaen yw’r ddynes yn y stori, rydym yn gallu gweld ri bod hi’n ddynes ddi-gyffro ac syml iawn.
Ond mae rhai nodweddion arddull, er engraifft, ansoddeiriau:
‘Sur’ , ‘Milain’, ‘Hyfryd’.
Mae'r ansoddeiriau hyn i gyd yn disgrifo lleisau y ddau brif gymeriad pan maent ar y ffôn. Mae hyn yn effeithiol gan ein bod ni’n gallu gweld personoliaethau’r ddau trwy hyn.
Mae’r ansoddair ‘hyfryd’ yn disgrifio llais y ferch. Dyma ansoddair diniwad ac pleserus, sydd yn effeithiol i ddangos y gwahaniaeth rhwng ei llais hi a llais y dyn.
Mae’r ansoddeiriau hyn yn cael ei defnyddio i ddisgrifio llais y llofrydd,
‘Milain’ a ‘Sur’.
Mae’r ansoddeiriau hyn yn dangos i ni wir bersonoliaeth y dyn dierth. Dyn slei a milain ydyw go iawn. Mae’r ansoddeiriau hyn yn effeithiol gan ei bod yn cyferbynnu llais y dyn a llais y ferch i ddangos pa mor whanol yw’r ddau.
Iaith Estron:
‘Fifth woman slain- man held’
Mae’r geiriau saesneg yn y darn yn pwysleisio estroniaeth y sefyllfa ym mywyd y ferch. Nid yw’r ferch erioed wedi delio gyda sefyllfa yn debyg u hyn or blaen, does dim byd fel hyn eioed wedi digwydd iddi, mae’r iaith estron yn dangos hyn yn effeithiol.
Brawddegau byr sydd yn y darn ar y cyfan, mae hyn yn effeithiol i gyfleu pa mor ddiflas yw’r ddynes ac ei bywyd.
‘Dydd sadwrn. Mae hi newydd godi’n hwyr. Aiff i nol y papur newydd oddi ar y mat o flaen drws y fflat. Sylwa ei bod hi wedi troi deg o’r gloch.’
Mae’r brawddegau byr yn gwneud i’r stori swnio yn un-donog, ac mae hyn yn effeithiol i adlwyrchu pa mor un-donog yw bywyd y ferch, mae fel un rhestr hir.
Mi wnes i fwynhau’r stori fer hon gan ei bod hi’n ddramatig iawn ac yn llawn tensiwn. Nid ydym yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, ac mae’r tro ar y diwedd yn effeithiol a dramatig iawn. Rydwi’n hoffi’r ffordd mae’r awdur wedi clymu’r dechrau ar diwedd gyda’i gilydd, yn fy marn i mae’n effeithiol iawn.
Y stori nesaf rwyf am ei thrafod yw ‘Pam?’. Mae’r stori fer hon wedi cael ei selio ar stori wir a ddigwyddodd yn Lerpwl yn 1992.
Ond yn y stori hon, mae’r awdur yn canolbwyntio ar ochr y bachgen a laddodd James Bulger ac yn ceisio gwneud i ni weld pam laddodd y bachgen James Bulger, hynny ydi mae’n gwneud i ni weld bod dwy ochr i stori.
Y prif gymeriad yn y stori hon yw’r bachgen ȃ laddodd James Bulger.
Er fod gan y bachgen yma dipyn o bobl o’i gwmpas e.e. Jo a’i fam, yn wahanol iawn i’r ferch yn ‘Y Rhif Anghywir’ a ‘Jini’ sydd wir ar ei pennau ei hunain,, mae’n dal i fod yn ofnadwy o unig, gan fod neb yn ei garu go iawn.
Rydym yn gallu gweld yn syth fod y bachgen yn cael ei gam drin gan ei fam, trwy’r ffordd y mae hi’n siarad gydag ef ac yn gweiddi arno.
‘Cwyd y sglyfath bach, neu mi fyddi di’n hwyr yn y blydi ysgol ‘na!’
O’r paragraff cyntaf, rydym yn gweld yn glir sut mae’r bachgen yn teimlo am ei fam.
‘Mae hi’n troi arnai, Y sloban dew uffar.’
Rydym yn gwybod fod ei dad wedi ei adael am ddynes arall o’r enw Mandy.
‘Mae’r hen Go wedi shacio i fyny hefo’i lefran newydd, Mandy’.
Mae’r ffordd y mae’n disgrifio Mandy yn hollol wahanol i’r ffordd y mae’n disgrifio ei fam. Mae’r ansoddeiriau a’r disgrifiad hyn yn effeithiol i gyferbynnu rhwng Mandy ȃ’r fam.
Mae’r bachgen yn gwybod na ddaw ei dad fyth yn ol ato, ac mae hyn yn gwneud iddo deimlo’n ofandwy o drist. Mae’n teimlo’n unig hebddo.
Mae’r bachgen yn aros allan trwy’r dydd, o ben borau tan hwyr yn y nos, mae hyn yn gwneud i ni feddwl efallai ei fod yn gwneud hyn gan nad yw e eisau bod adref gyda’i fam ar ei ben ei hyn, oherwydd fod ganddo ofn iddi weiddi arno neu ei gamdrin.
Nid oes ganddo neb yn ffrind iawn iddo, rydym yn gwybod nad yw Jo yn ffrind go iawn i’r bachgen trwy’r ffordd y mae’r bachgen yn siarad amdnao.
‘Mae o’n gwybod na fi sy’n rhoi’r orders, mai fi ydi’r un sy’n cynllunio ‘mlaen llaw.’
Ffrind cogio-bach ydi Jo, mae’r bachgen yn treulio amser gyda Jo gan nad oes unrhywun arall yn fodlon bod yn ffrindiau gydag ef.
Tra mae e allan gyda Jo, mae o’n ei weld o. Bachgen bach tua tair mlwydd oed yn trio tynnu sylw ei fam yn y ciw yn y siop, ond mae hi’n rhu brysur yn siarad hefo’r ddynes drws nesa’.
Mae’r bachgen yn gwybod yn iawn sut mae e’n teimlo, yn gwybod sut deimlad ydi o i gael ei anwybyddu.
‘Dwi’n gwybod sut ti’n teimlo, was, gwybod yn iawn..’
Mae o’n codi ei law arno i ddod draw, jest i ddweud ei fod yn dallt, i gydymdeimlo. Mae’r hogyn bach yn sgipio ato’n ddigon hapus, yn edrych ymlaen i gael sylw mae’n siwr.
Yna mae rhywbeth yn dweud wrtho am afael yn ei law o, a mynd a fo hefo fo.
‘Gafael yn ei law o. Dos a fo hefo chdi. Wneith hi ddim sylwi, mwy nag y gwnaeth y ddynas ‘na yn y siop degana pan wnest di ddwyn y ceadur bach plastig ‘na gynna’.
Mae’r bachgen yn trin yr hogyn bach fel tegan sydd mewn siop y mae’n gallu jest ei gymrud. Mae wedi hen arfer gyda dwyn teganau o siopau heb i neb sylwi, fel ei fod yn gallu dwyn yr hogyn bach heb i neb sylwi hefyd. Tydi o ddim wedi meddwl fod beth y mae o’n ei wneud yn ddrwg.
Ar ol ychydig, mae Jo yn dechrau poeni ac yn sylweddoli ei bod nhw wedi mynd yn rhy bell y tro yma. Yn y diwedd mae’r ddau yn penderfynnu mynd a’r bychan i lawr at yr rheilffordd.
‘Ac fel rhyw fonstar swnllyd hefo tri pen a chwe choes rydan ni’n baglu ac yn llithro ei’n ffordd i lawr at y lein yn y llwyd dywyll.’
Yma mae’r bachgen yn disgrifio’i hyn fel anghenfil mawr, ac yn fy marn i, mae hyn yn ansoddair berffaith i ddisgrifio’r bachgen a Jo i feddwl beth mae’n nhw’n mynd i wneud i’r bachgen bach. Mae’n effeithiol ofnadwy. Mae’r ddau ohonynt yn anghenfilod yn lladd y bachgen bach diniwad.
‘“Be’ wnawn ni rwan ta?...” ydi cwestiwn ola’ Jo.
Mae ychydig o is-gymeriadau yn y stori hon, ond rwyf am ganolbwyntio ar y fam.
Nid yw perthynas y fam a’i fachgen yn dda iawn o gwbl. Rydym yn gweld hyn yn syth o’r dechrau’r stori. Mae’r ffordd y mae’r bachgen deg oed yn disgrifio ei fam yn ofnadwy, mae e yn amlwg yn ei chasau.
‘Mae hi’n troi arnai, y sloban dew uffar’.
Rydym yn sylwi hefyd fod y bachgen yn cyfeirio at ei fam fel ‘Hi’. Mae hyn yn gwneud i ni feddwl nad ydi hi’n haeddu cael ei galw yn fam gan ei bod hi’n trin ei phlentyn mor wael. Nid ydi hi’n haeddu cael enw hyd yn oed. Nid oes gan y bachgen unrhyw barch at ei fam, mae hyn yn amlwg,
Er fod ei gasineb tuag at ei fam mor gryf, rydym yn dal i weld ei fod yn sgrechian am fwythau ganddi o’r tu mewn, wedi’r cyfan tydi’r bachgen dim ond deg oed.
Ni wnaith y fam byth rhoi mythau i’w mhab. Mae hyn yn gwneud i’r bachgen deimlo fel nad ydi o ddigon da i gael mwythau gan ei fam, a beth sy’n gwneud hyn yn waeth yw’r faith ei bod hi’n fwy na bodlon i roi mwythau i’r babi bach drws nesaf. Er bod llawer rheswm pam fod y bachgen yn unig, e.e. y ffaith fod ei dad wedi ei adael ac nad oes ganddo unrhyw ffrindiau iawn, y ffaith ei fod yn cael ei gamdrin yw gwreiddyn ei unigrwydd.
‘Mi wneith hi swshio babi bach drws nesa nes y bydd ei ben o’n socian cofiwch, ar adeg honno mi fyddai’n teimlo fatha tagu rhywbeth, cicio cath, gwenud cythral o lanast’.
Rydym yn teimlo trueni dros y bachgen, mae e’n cael ei drin yn wael iawn, mae e’n troi ei boen i mewn i ddicter ac yn mynd i mewn i drwbl, efallai fod hyn y awgrym ei fod yn gweiddi am sylw gan ei fam, neu gan rhywun.
Nid yw ei fam yn poeni dim am y bachgen mae’n amlwg bod ganddynt berthynas wael iawn rhyngddynt, mae hyn yn glir.
Rydym yn gwybod mae unigrwydd yw’r brif themau yn y stori fer hon ac mae’n bwysig trwy gydol y stori, ond serch hynnu mae llawer o themau eraill wedi ei cysylltu gyda’r stori er engraifft, llofruddiaeth, marwolaeth, trosedd a camdriniaeth.
Mae’n amlwg o’r dechrau bod y bachgen yn cael ei gam-drin ac mae’n themau sydd yn bwysig trwy gydol y stori, ac mae’n amlwg hefyd drwy gydol y stori fod unigrwydd yn chwarae rhan fawr ym mywyd y bachgen. Ond dim ond tuag at y diwedd y mae’r themau llofruddiaeth a marwolaeth yn dod yn amlwg, pan rydym yn sylwi beth sy’n mynd i ddigwydd i’r bachgen bach ac pan rydym yn clywed cwestiwn olaf Jo. Mae hyn yn rhoi naws ddramatig iawn ac trist ar ddiwedd y stori.
Mae’r stori’n cloi yn ben-agored iawn gyda Jo yn gofyn cwestiwn,
‘“Be’ wnawn ni rwan ta?..”oedd cestiwn ola’ Jo’
Rydym ni yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd, ac mae’r awdur yn gwneud i ni ddychmygu yr holl sefyllfa erchyll ei’n hunain. Mae hyn yn effeithiol iawn gan ei fod yn gwneud i ni feddwl ac ystyried beth ddigwyddodd go iawn. Mae’r tro annisgwyl i’r stori yn effeithiol gan ei fod yn chwarae ar ei’n hemosiynau..
Agoriad uniongyrchol sydd i’r stori fer hon ac rydym yn cael darlun cryf a clir iawn o fywyd yr hogyn bach yn syth ar ddechrae’r stori.
‘Brecwast ydi cic yn fy nhin, coffi parod llwyd wedi ei daro’n wlyb wrrth ymyl fy ngwely, ei llais Hi yn fy nghlust’.
Mae hyn yn agoriad cryf a pendant iawn i’r stori sydd yn effeithiol gan ei fod yn rhoi naws trist ac naws o anobaith i’r stori.
Mae’r stori wedi cael ei hysgrifennu yn y person cyntaf. Mae hyn yn effeithiol gan ei bod hi’n galluogi i ni glywed beth mae’r cymeriad yn ei deimlo ac sut mae’n meddwl. Rydym yn gallu mynd yn ddynfach i mewn i’r cymeriad fel hyn ac edrych ar ei ochr ef o’r stori.
Mae ychydig o ddeialog yn y stori hon. Mae deialog rhwng y bachgen a’r fam, ac mae hyn yn galluogi i ni weld sut mae’r fam yn trin y bachgen ac yn siarad gydag ef. Rydym yn gallu gweld ei fod yn cael ei gam drin.
Rydym yn tueddu i feddwl ei fod y bachgen yn y stori hon yn llawer hun na deg oherwydd ei iaith. Mae’r iaith y mae’n ei ddefnyddio i ddisgrifio’i fam, a Mandy, yn awgrymu ei fod yn tua 15.
Iaith lafar, anffurfiol iawn sydd yn y darn yma, gan mai meddyliau bachgen deg mlwydd oed ydyw.
Mae ei iaith yn llawn rhegfeudd gyda llawer o ddefnydd o eiriau saesneg a bratiaith. Tafodiaeth ogleddol ydyw.
‘Pam fod rhaid i betha’ fod mor uffernol i boring. Y ‘rhen jo?’.
Mae llawer o gymreigio geiriau yn digwydd yn y stori hon hefyd fel,
‘Y bont relwe’, ‘Bar med’
Mi wnes i fwynhau’r stori fer hon gan ei bod hi’n rhoi’r ochr arall i’r stori wir ac yn gadael i ni edrych yn ddwfn i mewn i’r cymeriad i ddeall pam y wnaeth yr hyn a wnaeth. Mae’r stori hon yn ddiddorol ac yn llawn nodweddion arddull. Er ei bod hi’n bwnc difrifol, mae’r awdur wedi llwyddo i ddod a ychydig o hiwmor i mewn i’r stori.
Y stori nesaf rwyf am ei thrafod yw ‘Jini’.
Canolbwyntia’r stori hon ar Jini, dynas unig, ryfedd mewn oed. Rydym yn gallu gweld fod Jini yn gymeriad rhyfedd iawn. Nid oes ganddi ffrindiau na theulu o gwbl, does ganddi neb, heblaw,am ei chi. Cyfrinachau sydd yn gwneud Jini yn rhyfedd ac yn unig, mae Jini yn cuddio y tu ol i lawer o gyfrinach ddirgel.
Yn wahanol i’r ferch yn‘Y Rhif Anghywir’ mae Jini yn dewis bod ar ei phen ei hyn, er bod llawer un yn gyfeillgar wrthi. Nid ydw hi’n gallu ymdduried yn unrhyw un gyda’i chyfrinachau. Tra mae’r ferch yn rhif anghywir yn ysu am gwmni.
Rydym yn gweld ei fod yn gymeriad eithaf rhyfed, mae llawer o bethau od ynghylch Jini. Mae’r stori yn dangos hyn i ni.
Mae hi’n berson dirgel iawn, ac yn cadw iddi hi ei hyn, byth yn siarad a phobl eraill.
Mae’r stori yn agor gyda disgrifiad o Jini, rydym yn gwled yn syth fod JIni yn berson rhyfedd iawn.
‘Menyw anghyffredin o dal, dros chwe troedfedd, yn denau fel llathen’.
Mae Jini yn cael ei disgrifio yn drwynsur, gyda hwyneb caled a llygaid caled. Ond yn y bon, mae hi bob amser yn gwrtais ac yn ddigon caredig, er ei bod hi’n enbyd o swil. Mae llawer o bethau rhyfedd yngylch Jini, yn un, does neb yn cofio o ble y death.
‘Peth niwlog oedd gorffenol Miss Jini Blackburn-Jones’.
Mae hi’n byw ar ei phen ei hyn mewn darlun plentyn o dy. Ond does neb yn y pentref wedi bod yn ei chartref. Doedd gan Jini ddim ffrindiau na’ cyfeillion yn y pentref, roedd hi’n cadw draw o bawb.
‘Weithiau fyddai neb yn gweld Jini am wythnosau bwygilydd’.
Er yn bur anaml yr a’i Jini Blackburn-Jones yn bell o’i chartref, gwelodd Mr a Mrs Edwards, Jini un tro ar ei gwyliau yn ffrainc. Roedd hi’n cerdded tuag atynt gyda’i chi. Ond pan gyfarchodd Mrs Edwards Jini, cerddodd y fenyw i ffwrdd gan ddweud rhywbeth yn ffraneg. Wrth gwrs, dywedodd pawb fod Mr a Mrs Edwards wedi gwneud cam-syniad, a’u bod nhw wedi gweld rhywun eithaf tebyg i Jini, ond nid hi. Ond ni dderbyniodd Mrs Edwards mo hynnu, roedd hi’n bendant ei bod hi heb wneud camgymeriad. Ac yn ddigon rhyfedd, ni allai neb gofio gweld Jini yr wythnos honno o gwbl tra roedd Mr a Mrs Edwards ar ei gwyliau.
Dyma engraifft dda sy’n ddangos pa mor rhyfedd yr oedd Miss Blackburn-Jones, ac mae’n amlwg fod ganddi gyfrinachau yn cuddio o dan yr wyneb.
Tua diwedd ei hoes, mi roedd hi’n hen a mysgrell iawn. Un diwrnod gwelodd Mam, Jini yn ymlwybro i nol ei neges, a cynigiodd i fynd i gael ei neges drosti. Derbyniodd y wraig y cynnig yn ddiolchgar.
Bob tro y byddai Mam yn danfon ei neges iddi at ei drws, ni fyddai Jini byth yn ei gwahodd i mewn. Ond roedd Jini bob amser yn ddiolchgar dros ben ac yn mynnu rhoi rhywbeth bach i mam am ei thrafferth a’i charedigrwydd. Rydym yn gweld drwy hyn, er fod Jini yn swil ac yn ddirgel, ei bod hi’n berson eithaf clen a charedig.
Un diwrod aeth Mam i gnocio ar ei drws i weld a oedd hi eisiau rhywbeth o’r pentre. Roedd hi’n disgwyl yno am amser maith tan ddaeth Jini i ateb y drws. Roedd hi’n gwisgo ei gwn nos ac roedd ei gwallt gwyn yn hongian i lawr. Roedd Jini wedi bod yn sȃl yn y nos. Dyma’r tro cyntaf i Mam gael ei gwahodd i mewn i’r tŷ.
Doedd gan ei thŷ hi ddim personoliaeth o gwbl, roedd fel pin mewn papur.
‘Yn lan ac yn oer ac yn foel. Doedd dim un llun ar y waliau, dim clustogau ar y cadeiriau.’
Y tro hwnw fe roddwyd goriad ty Jini i Mam. Ar ol i Jini ddod yn well, daeth hi’n lled gyfeillgar gyda Mam.
Ond un bore, yn ol ei harfer, aeth i gnocio ar y drws. Er y gallai glywed y ci yn cyfarth, ni ddaeth neb i’w ateb. Roedd y fam yn gwybod bod rhywbeth o’i le.
‘Bu’n poeni am y diwrnod hwn ers tro’.
Aeth Ma mi fewn gan ddefnyddio’r allwedd i ffeindio jini yn gorwedd yn ei gwely, ac wrth ei golwg roedd Mam yn gwybod yn syth ei bod hi wedi marw. Galwod y doctor. Roedd y nyrs yn tynnu’r dillad pan ollyngodd sgrech – sgrech a synodd pawb,
‘“Diswyl”, meddai wrth Mam, “Dyn yw hi!”’.
Mae’r troad hyn yn rhoi diwedd annisgwyl iawn i’r darllenwr. Mae’n effeithiol iawn, rydwi’n ei hoffi gan ei fod yn rhoi sioc i ni ac yn gwenud i ni feddwl ar y diwedd, pwy oedd Jini Blackburn-Jones?
Cafodd yr heddlu ei galw i geisio dod o hyd i unrhywun a oedd yn gwybod pwy oedd ‘Jini Blackburn-Jones’. Ond ni chawsant lwc. Doedd dim perthnasau na dim ewyllys na dim dogfennau yn y ty a oedd yn taflu unrhyw oleuni ar y mater. Bu rhaid i’r doctor ysgrifennu yn ei adroddiad mawrolaeth,
‘Dyn…anhysbys’.
Un o brif themau’r stori fer yw pobl ryfedd, mae’n themau sydd yn amlwg drwy gydol y stori ac yn bwysig iawn, mae unigwrydd yn themau sydd yn gysylltiedig gyda’r stori hon hefyd. Ond nid yw’r themau cyfrinachau yn dod yn amlwg tan y diwedd un, pan mae’r tro ar y diwedd. Mae hyn yn effeithiol iawn gan ei fod yn gwneud y stori yn ddiddorol iawn ac yn wahanol.
Mam yw’r prif is gymeriad yn y stori hon, felly rwyf am ganolbwyntio arni hi.
Roedd Mam yn un o gymdogion Jini, ac wedi cynnig siopa drosti un diwrnod. Yn barod rydym yn gallu gweld ei bod hi’n berson cyfeillgar iawn ac yn poeni am eraill. Roedd mam yn poeni am Jini ar ei phen ei hyn,
“’Sneb ‘da hi, druan ohoni, ar ei phen ei hun yn y ty ‘na. Be’ ’sa hi’n cwmpo, neu’n mynd yn dost?’
Rydym yn gweld yn fan hyn bod Mam wir yn poeni am Jini. Mae nhw’n dod yn lled gyfeillgar ai gilydd, wrth i Mam fynd i nol neges Jini iddi yn wythnosol.
Mam yw’r unig un yn y pentref sydd erioed wedi cael gwadd i dy Jini, ac mae hi hyd yn oed yn cael allwedd i’w thy ganddi. Mae hyn yn dangos bod Jini yn ymddiried yn Mam ac bod ei perthynas nhw’n eithaf cryf erbyn y diwedd. Mae’r ffaith mai Mam sydd yn edrych ar ol ci bach Jini ar ol iddi farw yn dangos eu bod nhw’n agos iawn hefyd. Ond ni ddywedodd Jini ei chyfrinach wrth Mam hyd yn oed ar ol iddynt ddod yn ffrindiau.
Gan mai agoriad uniongyrchol sydd ir stori hon, rydym yn cael gwybodaeth am Jini yn syth ac felly mae’n amlwg i in ar bwy mae’r stori yn canolbwyntio arno. Does dim llawer o ddeialog yn y stori hon, nid yw’r deialog yn bwysig iawn, y cymeriad sydd yn bwysig i ni. Mae’r faith fod yna ddim deialog rhwng Jini a phobl eraill yn dangos nad ydi hi’n gymdeithasol iawn o gwbl. Mae’r diwedd yn gorffen yn effeithiol iawn gan ei fod yn gorffen gyda tro mawr nad ydym yn ei ddisgwyl, mae hyn yn effeithiol gan ei fod yn chwarae ar ein hemosiynnau ac yn gwneud i ni fedddwl ac ystyried. Mae e hefyd yn pwysleisio pa mor rhyfedd oedd Jini Blackburn Jones, ac na allwch chi ragweld beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf.
Mae’r iaith yn y stori fer hon yn ffurfiol ar y cyfan ac yn defnyddio tafodiaeth ddeheuol.
‘Nac yn cynnig dishgled o de iddi’.
Mae llawer o nodweddion arddul yn y stori sydd yn ei gwneud yn fwy diddorol, er engraifft,
‘Darlun plentyn o dŷ’
Trosiad yw’r nodwedd arddull yma, ond mae’n effeithiol iawn gan ei fod hefyd yn eironig. Mae tŷ Jini yn cael ei droi yn ddarlun plentyn o dŷ, tŷ syml iawn,
‘Tŷ sgwar, drws yn y canol, pedair ffenestr, llwybr syth at y drws, lawnt bob ochr’. Mae ei thŷ hi’n syml iawn, ond mae Jini ei hyn yn gymleth ofnadwy, mae ganddi bob math o gyfrinachau ac mae hi’n ddynes ryfedd iawn, anodd ei deall. Dyma pam ei bod hi mor unig.
Yn fy marn i mae’r stori hon yn dda iawn gan ei fod yn gwneud i chi feddwl llawer, ac mae’r tro ar y diwedd yn effeithiol iawn ac yn creu ymateb ynddom. Roeddwni yn hoffi’r stori hon gan ei bod hi’n wahanol, ac roedd ychydig o hiwmor ynddi hefyd.
Y stori fer orau, yn fy marn i oedd ‘Pam’ oherwydd roeddwni’n hoffi’r ffordd roedd yr awdur wedi edrych ar y stori o ochr arall ac wedi mynd yn ddwfn i mewn i’r cymeriad. Hefyd roeddwni i’n meddwl fod y ffordd wnaeth yr awdur gloi’r stori yn benagored yn effeithiol ac yn ddramatig iawn. Mi wnaeth y stori hon chwarae ar fy emosiynnau i, a gwneud i mi deimlo’n drist iawn. Roeddwn i yn cydymdeimlo gyda’r bachgen, er ei fod wedi lladd James Bulger. Llwyddodd yr awdur i gael y darllenydd i gydymdeimlo ar bachgen ar ol gweld sut roedd yn cael ei drin gan ei fam, ac ar ol gweld sut fath o fywyd oedd ganddo.