Roedd cyrraedd Poultney, Vermont, fel cyrraedd Cymru i'r pedwar athro o Gymru a oedd newydd dreulio rhai dyddiau yn ninas wallgo Efrog Newydd.

Authors Avatar
 Mynydd glas Roedd cyrraedd Poultney, Vermont, fel cyrraedd Cymru i'r pedwar athro o Gymru a oedd newydd dreulio rhai dyddiau yn ninas wallgo Efrog Newydd.Y wlad yn y lle cyntaf: gwlad fryniog, a'r golygfeydd yn ymestyn yn bell; tomen ambell chwarel lechi'n dringo'r llechweddau uchwben y llynnoedd llonydd... Y prif wahaniaeth yn y wlad oedd diffyg cloddiau, a mwy o goed.A phentref Poultney ei hun: er ei fod yn bentref tawel, braf, yn nodweddiadol o bentrefi hyfryd LLoegr Newydd, roedd yma ddigon o olion bywyd Cymraeg byrlymus blynyddoedd a fu. Roedd y Ddraig Goch yn chwifio o flaen ambell dy, llechi Cymreig eu golwg ar do ambell dy, capeli Cymreig yma a thraw, ambell un o'r hen drigolion yn dal i siarad Cymraeg, a'r mynwentydd yn llawn o feddau rhai a anwyd yng ngogledd Cymru.Nid cyd-ddigwyddiad oedd hyn oll, wrth gwrs. Yma y cynhaliwyd y cwrs Cymraeg cyntaf, ugain
Join now!
mlynedd yn ol, wrth i ymwybyddiaeth am y dreftadaeth Gymreig a Chymraeg gael ei deffro ymhlith rhai o'r trigolion wedi gwaith a wnaed gan rai yn y Green Mountain College.Manteisiodd y cwrs eleni ar y cysylltiadau Cymreig yn yr ardal, a dyma oedd un o'r agweddau mwyaf diddorol i'r athrawon o Gymru. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu yn y Capel Presbyteraidd Cymreig, a threuliwyd awr ddiddan yn astudio'r casgliad llyfrau Cymraeg a'r arddangosfa yn y Coleg ei hun. Ymwelwyd ag amgueddfa lechi newydd, lle y sgyrsiwyd a William Williams, hen chwarelwr sydd bellach yn grefftwr llwyau caru, ac aethpwyd ar daith o ...

This is a preview of the whole essay