Rydym yn gallu gweld roedd hen draddodiad o drais Yng Nghymru cyn 1839.

Authors Avatar

Simon Johnson                                    Gwaith Cwrs Hanes                                                              2003

Terfysgoedd Rebecca

    Rydym yn gallu gweld roedd hen draddodiad o drais Yng Nghymru cyn 1839.

Mae tystiolaeth yn dangos y mathau o drais roedd yn cael ei wneud trwy’r cyfnod. Roedd y trais a oedd yn cael ei wneud yn cynnwys dwyn, potsio a terfysgio. Roedd rhan fwyaf o’r trais yn cael ei wneud gan y bobl gyffredin yn erbyn eiddo.

         Rydym yn gallu weld o’r dystiolaeth a oedd wedi cael ei ysgrifennu gan David Evans am y llyfr ‘ A history of Wales’ ei bod y ffermwyr ar bobl gyffredin yn yr adeg yn dwyn defaid a photsio oherwydd y ffordd roeddynt yn cael ei drin gan y tirfeddianwyr a nifer o ffactorau arall. Roedd y ffermwyr a’r gweithwyr yn byw mewn amodau gwael ac roeddynt yn cael ei drin fel’anifeiliaid’ felly roeddynt yn grac efo’r tirfeddianwyr. Credaf fod hyn yn nhystiolaeth ddibynnol oherwydd mae’n dod o lyfr hanesyddol felly bydd llawer o ymchwil wedi mynd mewn i’r llyfr. Nid yw hun ffynhonnell ogwydd, ond ar y llaw arall dydy o ddim yn dweud pryd cafodd ei ysgrifennu felly dydyn ni ddim yn gwybod o ba gyfnod mae’r wybodaeth wedi dod.

          Mae’r llyfr ‘When was Wales’ gan Gwyn William yn sôn am y terfysg yn ystod yr argyfwng diwygio, Roedd y ffermwyr a gweithwyr yn terfysgio yn erbyn y prinder bwyd. Felly dyma drosedd arall oedd yn cael ei wneud yn yr 1830’âu. Eto oherwydd y faith bod y’r dystiolaeth wedi dod o lyfr sydd wedi cael ei ymchwilio yn fy marn i mae’r dystiolaeth yn ddibynnol. Mae’r trais sydd wedi cael ei ystyried yn un sydd yn cael ei wneud mewn grwpiau o bobl. Rydym yn gallu weld trwy ddarllen rhan o’r ‘The Rebecca Riots’ gan cyngor sir dyfed ar dystiolaeth Daniel Williams roedd trosedd mewn grwpiau yn boblogaidd trwy’r cyfnod.

   Mae’r Cyngor Sir Dyfed yn sôn am drais oedd yn cael ei wneud mewn grwpiau yn erbyn eiddo e.e perthi a ffensiai.

“ Roedd y drafferth wedi dilyn yr amgáu tiroedd yn San Clêr ym 1809 ac ym Maenclochog ym 1820.”  Hefyd mae’r Cyngor yn sôn am ei bod y terfysgwyr yn llosgi a dinistrio clwydi a thai a oedd ar yr hen dir comin. Mae o’n wybodaeth ddefnyddiol oherwydd mae’n sôn am fath arall o drais, hefyd rydym yn gwybod roedd dystiolaeth arall yn cefnogi’r dystiolaeth yma. Felly mae nifer o ffynonellau yn sôn am y trosedd roedd yn erbyn eiddo ac yn cael ei wneud mewn grwpiau.

     Mae Daniel Williams a oedd yn byw ger Milford yn 1828 yn sôn am drais gwahanol i’r dystiolaeth arall. Mae’r trais yma yn erbyn pobl yn lle eiddo. Mae o’n sôn am ei brofiad efo’r ‘Ceffyl Pren’. Roedd hyn yn ble mae unigolion sydd wedi cythruddo y gymdeithas yn cael eu cario o gwmpas ar geffyl pren a’u bychanu. Mae o’n dweud roedd torf o bobl wedi eu dieithrio yn dilyn y ceffyl ac nid oedd y cwnstabliaid yn atal y dorf. Does dim tystiolaeth arall yn cefnogi y ffynhonnell yma. Felly efallai fod hyn ffynhonnell wael. Ond ar y llaw arall rydym yn gwybod roedd y bobl yn grac a roedd yn enghraifft o drais arall.

          Mae tystiolaeth sydd yn dod o gyfweliad o’r bwrdd gwarchodwyr Narbeth yn sôn am yr ymosiad gan y bobl yn erbyn yr Wyrcws.  Roedd y bobl ac nad oedd gan swydd ac y bobl oedd yn dlawd iawn yn cael gorfodi mynd i’r wyrcws oherwydd y ddeddf diwygio deddf y tlawd. Roedd rhaid wneud gwaith anodd iawn ac nid roeddynt yn cael ei thalu llawer o gwbl. Mae’r ymosodiad yn erbyn yr Wyrcws yn fath arall o drais. Mae’r dystiolaeth o’r bwrdd gwarchodwyr yn sôn am y faith ei bod y llywodraeth yn apwyntio cwnstabl arbennig. “Mae’r bwrdd yma yn cefnogi cynnig gwobr a chreu swydd o gwnstabl arbennig, fel canlyniad i’r ymdrech a welwyd i losgi lawr yr wyrcws newydd.”

Join now!

Dyma ddarn o’r ffynhonnell sydd yn sôn am y problemau a oedd gan y llywodraeth oherwydd y’r faint o drais a oedd yn digwydd. Efallai mae’r ffynhonnell yma yn ogwydd i’r llywodraeth oherwydd mae o wedi cael ei ysgrifennu ganddyn nhw. Ond ar y llaw arall mae’r ffynhonnell yma yn cael ei gefnogi gan ffynonellau arall sydd hefyd yn sôn am ymosodiad ac arswn.

        Felly rydym yn gallu weld bod amrywiaeth o drais ym gweld yn y cyfnod. Gwelwyd arswn yn yr ardaloedd gwledig. Mae ‘The Rebecca riots’  gan y cyngor sir Dyfed a’r munudau ...

This is a preview of the whole essay