Tasg Asesu Bioleg; Disgrifiad o daith moleciwl o garbohydrad drwyr

Authors Avatar by 98jma (student)

Tasg Asesu Bioleg; Disgrifiad o daith moleciwl o garbohydrad drwy’r system dreulio

Disgrifiad o’r broses treuliad sy’n digwydd i foleciwl o garbohydrad, yn dechrau o’r ceg hyd at y coluddyn fach, drwy’r corff a sut y defnyddir cynnyrch y broses hynny ar gyfer prosesu eraill yn y corff.

Mae starts, neu carbohydradau cymhleth, yn  hanfodol yn y corff gan eu bod yn gallu rhoi egni sydyn drwy resbiradaeth pan y treulir yn briodol. I ddechrau, y cam gyntaf yw pan y bwytir y carbohydrad cymhleth ar ffurf starts gan yr organeb. Ceir yr rhain o fwydydd megis bananas, barli, ffa, reis brown, bara brown, ceirch, tatws ayb.. Mae gan y sylweddau yma’r fformiwla gyffredinol Cm(H2O)n lle y gallai m fod yn wahanol oddi wrth n, a dangosir enghraifft o’u strwythr i’r dde.

Oherwydd y strwythr a’r fformiwla yma, buasai’n hawdd eu disgrifio yn fras fel hydradau o garbon – mewn un ffordd, mae hynny’n wir ond i fod yn fwy dechnegol gywir disgrifir hwy fel aldehydau a chetonau polyhydrocsi (polyhydroxy ketones). Pan y cant eu bwyta, yn y ceg mae’r ensymau carbohydras  a geir yn yr amalas poer,  a ddaw o’r poer o’r prif glandiau parotid, sublingual, a submandibular  yn dechrau gweithio ar y bondiau rhwng y monomeriaid yn y gadwyn starts i’w rhyddhau; mewn geiriau eraill, mae’r ensym yn gweithio fel catalydd i leihau meintiau’r polymeriaid.  Mae cymeryd bwyd i fewn fel hyn yn cael ei adnabod fel safniad, ag adnabyddir yr hyn sy’n digwydd fel canlyniad iddo fel y broses o ‘depolymerisation’ syml, sydd, fel y mae’r enw yn awgrymu, y broses o dad-wneud cadwyn polymer yn raddol er cael, yn y diwedd, y monomeriaid unigol. Ond, ni wneir llawer o hyn oherwydd fod y  bwyd ddim ond yn y ceg am gyn lleied o amser; felly, yn y rhan yma o’r corff, efallai mai dim ond torri’r cadwyni mawr i dreuannau, hecsannau ar y mwyaf efallai. Helpir hyn gan y dannedd, sy’n troi’r bwyd a’r ensymau yn gyson drwy’r ceg. Gwneir y broses yn agos iawn at pH niwtral, pH7, oherwydd fod yr ensym a enwir yn flaenorol yn gweithio ar y optimwm o dan yr amodau hyn. I brofi hyn, cynhelir arbrawf syml; poeroedd unigolyn sawl gwaith mewn fflasg wedi sawl awr o beidio a bwyta unrhyw fwydydd, er sicrhau na effeithiont ar pH arferol y ceg, ag yna ychwanegwyd ychydig o hydoddiant dangosydd cyffredinol. Nodir lliw gwyrdd pendant, sy’n profi amodau gymharol niwtral – buasai’r hydoddiant yn troi’n felen, oren neu coch yn dangos presenoldeb asid, a lliw glas neu piws yn dangos presenoldeb alcali.

Join now!

Wedi’r broses yma yn y ceg, mae’r molecylau sydd nawr ychydig yn llai yn teithio ar hyd yr osoffogws nes cyrraedd y  stumog. Ni wneir dim iddynt yn y stumog; dim ond prodinau caiff eu treulio yma. Mae hyn oherwydd ei fod yn rhy asidig yno, oherywdd presenoldeb asid hydroclorig (HCl (aq)), i ffafrio gwaith yr ensym carbohydras fel sydd i’w gael yn y ceg; yn wir, oherwydd yr amodau hyn, yr unig beth a dreuliwyd yn y stumog yw prodinau, gan yr ensym proteas, i asidau amino.  Felly, ar ol gwario amser yn y stumog heb wneud dim yn ...

This is a preview of the whole essay