Welsh poems - THEMA : CYMRU A CHYMREICTOD

Authors Avatar by lusa (student)

THEMA : CYMRU A CHYMREICTOD

11.12.82

gan

Iwan Llwyd

MESUR – Cerdd Rydd

        Er nad oes patrwm sefydlog gwelir rhai nodweddion sefydlog:

  • odl fewnol rhwng yr ail a’r drydedd llinell ym mhob pennill

         Cilmeri, diferu

                       oesau, gymylau…

  • Nid yw nifer y sillafau’n gyson ond mae curiad pendant
  • Tair llinell i bob pennill oni bai am y pennill olaf sydd â phedair
  • Dim cynghanedd

CYNNWYS

Cynhaliwyd cyfarfod coffa ar Ragfyr 11eg, 1282 wrth y gofeb yng Nghilmeri i gofio’r saith can mlynedd ers marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf. Llywelyn ap Gruffydd oedd tywysog olaf Cymru.  Fin nos ger Pont Irfon lladdwyd ef gan filwyr Edward I, brenin Lloegr, saith can mlynedd ynghynt. Gwaedodd Llywelyn i farwolaeth a danfonwyd ei ben i Lundain i’w chario ar bicell o gwmpas y ddinas.

Dechreua’r pennill cyntaf trwy ddweud bod “saith canrif” wedi bod ers marwolaeth Llywelyn. Clywn ei bod hi’n ddiwrnod oer iawn ar ddiwrnod y cyfarfod coffa, “daeth saith canrif ynghyd yn oerfel Cilmeri”. Ar y dydd roedd hyd yn oed y dail fel pe baent yn galaru a cholli dagrau -“ a’r dail yn diferu atgofion”. Mae byd natur yn gefndir i’r gerdd ac yn adlewyrchu teimladau’r bardd am y sefyllfa. 

Join now!

Mae’r ail bennill yn dweud ein bod wedi treulio saith can mlynedd yn edrych yn ôl yn hiraethus ar ein gorffennol,

“saith canrif o sôn

 am orchestion hen oesau”.

Dywedir yn y trydydd pennill ein bod wedi “sefyll ar erchwyn y dibyn” am saith canrif, h.y. ein bod ni mewn perygl o golli ein hiaith, ein hunaniaeth a’n diwylliant. Mae hi mor oer o gwmpas y garreg goffa nes bod y gynulleidfa â’u “traed bron fferru’n eu hunfan”. Awgryma hyn hefyd ein bod fel cenedl wedi’n parlysu, yn methu symud ac yn gwneud dim i achub sefyllfa Cymru.

...

This is a preview of the whole essay