Ym mha fodd yr oedd y chwechdegau yng Nghymru yn gyfnod o brotest wleidyddol a newid cymdeithasol?

Authors Avatar

Leah Khalil 11 Dafydd                                                                                          Mr Thomas

Hanes TGAU                                                                                                                 Ysgol Gyfun Rhydfelen

Ym mha fodd yr oedd y chwechdegau yng Nghymru yn gyfnod o brotest wleidyddol a newid cymdeithasol?

Bu’r chwechdegau yn degawd llawn newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol ar draws y byd. Gelwir yn ‘Degawd llawn anfodlonrwydd’ oherwydd yr holl derfysgion, fel y rhai yn erbyn Vietnam. Gelwir hefyd yn ‘Degawd o heddwch, cariad a cynghanedd’ oherwydd mudiadau heddwch a ymddangosiad “plant y blodau”,a newidiadau yn ffasiwn hefyd. Digwyddodd llawer o newidiadau cymdeithasol yn y chwechdegau, fel cynydd ym mhoblogrwydd y teledu. Newidiodd cerddoriaeth yn dramatig iawn - roedd negeseuon pwerys yn nhelyneg rhai caneuon, a roedd yr ifanc yn cael ei argraffu gan y geiriau pwerus a ganir gan caneuwyr rhywiol a phoblogaeth.      Fe ddaeth eitemau ffasiynol o ddillad fel y ‘mini skirt’ a ‘hot pants’ allan a fe gynyddodd hwn blas yr ifanc i wrthrhyfela. Digwyddod campiau fel dyn yn cyrraedd y lleuad am y tro cyntaf, a trychinebau fel llofruddiaeth J.F.Kennedy a Martin Luther King. Yn wleidyddol, roedd pobl yn gwrthrhyfela yn erbyn rhyfel Vietnam, a thegwch a hawliau i’r pobl du. Hefyd roedd panig enfawr wrth i America a Rwssia cymryd rhan yn y “Rhyfel Oer”.

Cafodd Cymru ei effeithio’n wleidyddol wrth i digwyddiadau fel boddiad Cwm Tryweryn, ac wrth gwrs, Mudiad yr iaith. Yn gymdeithasol, fe gafodd llawer o ieuenctid Cymru eu argraffu gan telyneg caneuwyr fel Bob Dylan a Dafydd Iwan wrth iddynt geisio ennill cefnogaeth am eu mudiadau hwy. Mae’n eithaf ddiogel i ddweud bu’r chwechdegau yn un o’r cyfnodau fwyaf unieuthol efo newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol erioed.

        Cafodd y teledu ei gyflwyno yn y 40au i’r byd, ond roedd hi’n adeg rhyfel ac roedd pobl methu fforddio eu brynu oherwydd eu bod nhw’n ceisio arbed pob ceiniog a oedd ganddynt. Fe ddaeth y teledu’n boblogaidd yn y 60au pan roedd gan y bobl yr arian a’r ewyllus i wario arian. Erbyn 1963 roedd gan tua 85% o gartrefi set deledu ac erbyn diweddy degawd doedd braidd neb heb un. Roedd yn ffordd ffasiynol o adloniant, ac yn ffordd barhaolo ddiddymu’r bobl.

Dywedir fod twf ym mhoblogrwydd y teledu yn gloygu fod niferoedd y bobl a oedd yn mynuchu’r capel yn lleihau, a lleihaoedd y torfeydd pel droed. Roedd yn well gan y bobl i aros i fewn o flaen y teledu ‘na mynd i’r capel, i wylio pel droed , neu mynd i’r sinema. Dywedir hefyd fod y teledu wedi chwarae rhan fawr yn difetha y cymraeg a chymreictod. Roedd y teledu yn cael ei rheoli gan un grwp o bobl, a barn pobl Llundain am y byd a welir ar y teledu. Gwasanaeth teledu Saesneg oedd yn fygythiad difrifol i’r Gymraeg a Chymreictod. Mae’n amlwg fod gan yr awdur safbwynt – yn erbyn y saeson – oherwydd mae ef/hi yn beio rhaglennu saesneg am dadfeiliad yr iaith Gymraeg.

Mae’r ffynhonell a gymerir y wybodeath yma, A2, yn ddefnyddiol oherwydd fod awdur y llyfr – Gareth Elwyn Jones – wedi ymchwilio’n ddwfn i fewn i’r pwnc, a gall ef cael ei gosbi os ydyn nhw’n cyhoeddi unrhywbeth heb dystiolaeth i gefni eu llyfr/erthygl. Er nad oedd y ffynhonell wedi ei ysgrifennu yn y chwechdegau, ac ei fod yn ffynhonell eilaidd, mae’n parhau i fod yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy oherwydd nid oedd yr awdur wedi gadael unrhyw ffeithiu allan.

Join now!

        Ond, ar y llaw arall, nid y teledu oedd unrhyw gyfrwng adloniant yn y chwechdegau. Mae ganddo ychydig o safbwynt oherwydd fod Gareth Elwyn Jones yn arbennigwr hanesyddol Cymraeg, a’i bwnc arbenigol yw Cymraeg a Chymreictod. Mae’n amlwg fod gan yr awdur safbwynt – yn erbyn y saeson – oherwydd mae ef/hi yn beio rhaglennu Saesneg am dadfeiliad yr iaith Gymraeg.

Cefnogir y wybodaeth yma wrth i ffynhonell A3 sôn am newid cymdeithasol. Mae’n ffynhonell cryf oherwydd fod yr awduron eto wedi gorfod gwneud ymchwil. Ond, ar y llaw arall, mae’n ffynhonell wan oherwydd nid yw’n sôn am pawb, a ...

This is a preview of the whole essay