Hefyd roedd Tom Jones yn bwysig i Cerddoriaeth Cymro yn y 60au ond ar y ddechrau yr oedd o fewn band a oedd yn cael ei alw yn “Tommy Scott and the Senators”, fe cafodd Tom Jones ei spotio gan Gordon Mills a oedd yn chwaraer harmonica ac fe ddaeth yn ei rheolwr ac gyda fo llofnododd Tom Jones gyda Decca Records. Ar Mai 1af 1965 fe wnaeth Tom Jones rhyddhau ei sengl cyntaf a oedd yn flop fe wnaeth Tom rhyddhau ei ail sengl “It’s Not Unusual” a oedd yn sengl fawr, yn gyntaf roedd yn arddangosfa i artist arall ond fe wnaeth Tom penderfynnu iddo fynd i’r charts fe wnaeth e fynd i rhif 1. Rhwng 1965 ac 1968 creuodd Tom mwy o senglau fel “Dellilah”, “I’ll Never Fall in Love Again” ac “Funny Familiar Forgotten Feelings”. Yn 1965 wnaeth Tom Jones fynd ar y soie “The Ed Sullivan Show” ac wrth cael y teimlad o teledu yr oedd o eisau mwy ac felly wnaeth dechrau rhaglen ei hun rhwng 1969-1971 a oedd yn cael ei alw yn y “This Is Tom Jones!” fe cafodd y rhaglen ei rhoi ar ABC-TV yn America ac ar ITV yn Prydain. Roedd y rhaglen yma yn dangos yr cnwyr gorau ac yn siarad am beth i wneud yn y 1970au.
Hefyd fe newidiodd ffasiwn llawer yn y 1960au. Yn y 1950au, y ffasiwn a merched oedd sgyrtiau hir ac bwts bach. Roedd y bechgyn yn y 1960au y gwisgo siwtiau smart, crysau ty a jeans. Fe neidiodd hyn llawer yn y 1960au pan daeth pobl yn mwy rhywiol ac eisau fforio ei rhywoldeb. Felly newidiodd ffasiwn y merched. Cafodd y sgert mini ei chreu gan Mary Quant ac felly am y tro cyntaf roedd coesau merched arddangos ac hefyd roeddent yn gwisgo bwts i’r penglyn. Roedd y bechgyn yn y 1960au yn gwisgo festiau lledr gyda brest noeth, crysau T a jeans gyda ‘flare’ ar y penglyn oedd y ffasiwn.
Oherwydd yr holl rhyfela yn y diweddar roedd nifer o pobl wedi cael llond bol o ymladd a phobl yn marw. Roedd y pobl yma yn cel ei alw yn Hippis. Roeddent yn gwisgo crysau T tye-dye sef amryw o liwiau mewn phatrwm arbennig, cymrud llawer o cyffuriau fel cannabis ac marijuana, gyrru bysiau bach lliwgar o amgylch y lle, protestio am heddwch, gwrando i cerddoriaeth fel Bob Dylan ac darlunio celf ‘Psycadelic’. Hefyd yr oedd yn defnyddio geiriau fel “Peace Man” i cyflei ei syniadau am rhyfel.
Hefyd fe newidiodd Cymru yn diwyllianol. Roedd diwydiant yn newid yn esgybol yn ystod yr 1960au. Cyn yr 1960au yr oedd glo yn ddiwydiant fwyaf yng Nghymru. Roedd llawer o glo yn gallu cael ei ffeindio yn y cymoedd yn yr pyllau glo fel Merthyr Tydfil, roedd glo yn cael ei allforio o Cymru ar raddfa eang.
Ond yn y 1960au yr oedd pyllau glo Cymru yn cael ei cau. Roedd y weithwyr yn protestio am hyn gan nad oedd waith arall yn yr ardal lleol, nid oedd y protestiadau yma yn weithio am ddwy rheswm: roedd y weithwyr eisau mwy o arian ac nil all tali am hyn ac hefyd roedd gormod y damweiniau yn digwydd.
Un o’r damweiniau mwyaf enwog yw’r Trychineb Aberfan ac nid y weithwyr yr oedd wedi cael ei anafu. Ar y 20/10/1966 roedd o wedi bod yn bwrw glaw yn ddrwm iawn yn pentref bach yn Merthyr Tydfil sef Aberfan nid oedd unrhyw un yn gwybod gall glaw y dydd yma lladd cynhedlaeth o pobl. Ond ar 9:15am dydd Gwener, 21ain o Hydref, 1966 roedd ‘slag heap’ ar ben y mynydd o’r mwyngladd glo agos wedi dechrau llithro lawr y mynydd yn cyflymu ac yn cyflymu wth mynd wnaeth difetha ffarm yn lladd pawb arno. Yn Ysgol Gynradd Pantglas roedd y plant just wedi canu y can “All Things Bright and Beautiful” yn yr neuadd. Roedd pobl dim ond yn gallu gweld o fewn 50yds ni welodd neb y llithriad on d clywodd pawb y swn
“It was a tremendous rumbling sound and all the school went dead. You could hear a pin drop. Everyone just froze in their seats. I just managed to get up and I reached the end of my desk when the sound got louder and nearer, until I could see the black out of the window. I can’t remember any more but I woke up to find that a horrible nightmare had just begun in front of my eyes”
Wnaeth y llithriad o slag llyncu yr ysgol ac tua 20 o tai yn y pentref cyn stopio. Wnaeth 144 pobl yn Trychineb Aberfan: 116 ohonynt plant ysgol cynradd. Roedd dros hanner o’r plant o Ysgol Gynradd Pantglas, ac pump o’i athrawon, wedi marw.Mor dychrynllyd yr oedd y trychineb roedd pawb eisau helpu. Wnaeth canoedd o pobl wedi stopio beth bynnag yr oeddent yn wneud, rhoi shofel yn ei char ac gyrru i Aberfan i trio helpu gyda’r achubiad. Nid oedd neb wedi dos mas yn fyw ar ol 11:00am diwrnod y trychineb, ond yr oedd yn bron wythnos cyn i gyd o’r cyrff cael ei tynnu o’r slag yma. Roedd rhai pobl mor grac at y mwyngladd haearn wnaeth un dad o’r plentyn oedd wedi marw dweud “I want i put down on record.........killed by the mining industry”.
Yn 1965 wnaeth Cymru newid yn diwyliannol gan fod pentref Capel Chelyn a Chwn Treweryn, Y Bala, Meirionnydd er mwyn cyflenwi dwr i ddinas Lerpwl. Boddwyd tua 800erw o dir, ac hefyd yr ysgol, y llyfrgell, y capel a’r fynwent er mwyn creu cronfa ddwr Llyn Celyn. Boddwyd deuddeg fferm ac effeithiwyd ar diroedd pedair fferm arall.
Pasiwyd Mesur Boddi Cwm Treweryn gan y Senedd ar 1af o Awst 1957. Mesur preifat ydoedd a noddwyd gan gyngor Dinas Lerpwl ac a basiwyd gan lywodraeth Geidwadol Harold Macmillan a’i Weinidog dros faterion Cymreig, Henry Brooke. Roedd y mesur yn caniatau pwrcas gorfodol o’r tir ar gyfer creu cronfa ddwr. Gwrthwynebwyd y cynnlun gan y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymru, ond nid oedd ganddynt rym i rwystro’r datblygiad gan fod y llywodraeth am wthio’r mesur drwy’r Senedd. Nid oedd gan awdurdodau lleol chwaith lais yn y penderfyniad ac fe wnaeth hyn beri anfodlonrwydd mawr. Roedd y peidiau gwleidyddol yng Nghymru yn unol mewn gwrthwynebiad i’r cynllun, oherwydd fe’i gwelwyd fel sarhad ar Gymru am fod ei hadnoddau gwerthfawr yn cael eu dwyn oddi arni. Roedd gwerth amaethyddol y tir yn uchel o’i gymharu a darnau eraill o dir y gellid wedi eu hystyried, a teimlwyd nad oedd cynlluniau posibl eraill wedi eu trafod yn ddigonol. Hefyd roedd teimlad o dristwch am fod cymuned yn cael ei chwalu a theuluoedd a wreiddiwyd yn yr ardal ers cenhedlaethau yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi. Roedd y trigolion lleol yn gadarn yn eu penderfyniad i wrthwynebu i’r pendraw a bu gwrthdystio a deisebu. Yn 1956 ffurflwyd Pwyllgor Anddifyn Tryweryn a oedd yn cynnwys rhai o hoelion wyth Cymru megis Ifan ab Owen Edwards, Megan Lloyd George, T. I. Ellis, a’r Arglwydd Ogmore. Ffurfuwyd nifer o ganghenau eraill hefyd megis Pwyllgor Amddifyn Capel Celyn a Phwyllgor Amddifyn Tryweryn yn Lerpwl. Nid oddi wrth genedlaetholwyr yn unig deuai gwrthwynebiad, ond bu achos Tryweryn yn ysgogiad o bwys i Blaid Cymru ac yn sbardun i ymgyrchu. Ym mis Medi 1956 cynhaliwyd Rali ‘Cadw Tryweryn’ gan Blaid Cymru pan goryndeithiwyd lawr stryd fawr y Bala. Ym mis Hydref 1956 galwyd cyfarfod i achub Tryweryn yng Nghaerdydd gan Faer y ddinas, J H Morgan, lle roedd dros 300 o gynrychiolwyr awdurdodau lleol, undebau llafur, a deg AS yn bresennol. Penodwyd yr Henadur Huw T Edwards yn gadeirydd a phenderfynwyd danfon dirprwyaeth o’r gynhadledd i gwrdd ag aelodau Corfforaeth Lerpwl i apelio arnynt i newid eu meddyliau. Y rhai a ddanfonwyd oedd Mr D R Grefnell AS, Arglwydd Faer Caerdydd, Huw T Edwards, y Cynghorydd Emrys Owen a Dr R Robinson. Ym mis Tachwedd 1956 cafwyd gorymdaith yn Lerpwl, gyd Gwynfor Evans yn arwain 70 o bentrefwyr er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i’r cynllun, ond pleidleisiodd cynghorwyr Lerpwl i barhau a’r cynllun. Cynigodd Gwynfor Evans yn Awst 1957 bod Cyngor Sir Feirionydd yn creu cronfa yng Nghwm Croes, lle roedd un fferm yn unig, ac wedyn yn gwerthu’r dwr i Lerpwl. Ar dri achlysur rhwng 1962 – 1963 cyflanwyd difrod yng Nghwm Tryweryn. Ar 10fed o Chwefror 1963 ffe ffrwydrwyd trosglwyddydd a oedd yn y gronfa ac Emyr Llewelyn Jones, myfyriwr yn Aberystwyth a gosobwyd am y weithred. Fe’i dedfrydwyd i garchar am dauddeg mis. Pan gafodd ei ddedfrydu aeth Owain Williams a John Albert Jones, a oed yn aelodau o Fudiad Amddifyn Cymru, i chwythu peilon trydan yn Gellilydan. Er gwaetha’r gwrthwynebiad cyhoeddus aeth y cynllun yn ei flaen ac fe agorwyd Llyn Celyn fel cronfa ddwr yn swyddogol ar 28ain o Hydref 1965. Rhaid oedd adeiladau heolydd newydd gan fod yr heol o Bala i Ffestiniog yn cael ei foddi, a chost y prosiect oedd £20miliwn. Roedd llyn Celyn un dal 71,200megalitr o ddwr yr argae mwyaf yng Nghymru. Ceir cofeb wrth ymyl y llyn a gerddi coffa, a symudwyd hen gerrig beddi Capel Celyn yno. Cynhaliwyd protest yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol lle roedd Arglwydd Faer Lerpwl yn bresennol. Yn bresennol hefyd mewn lifrau milwrol yr oedd Byddin Rhyddid Cymru. Dechreuwyd ymgyrch recriwtio gan Fyddin Rhyddid Cymru yn 1963, ond protest Tryweryn oedd yr achlysur cyntaf iddynt ymddangos yn gwrthdystio. Rhyddhawyd lluniau o’r aelodau yn ymarfer gydag arfau yn diweddarach ond nid oedd tystiolaeth eu bod yn gweithredu’n dreisiol. Yn 1969 arestiwyd yr arweinwyr a dedfydwyd chwech ohonynt, yn cynnwys yr arweinydd Julian Cayo Evans, i bymtheg mis yn carchar.
Wnaeth yr arwisgiad o Charles Windsor i wneud yn Tywysog Cymru newid Cymru yn gwleidyddol. Fe cafodd Charles Windsor ei arwisgo ar y 1af o Gorffennaf 1969 yn Castell Caernarfon. Wrth penglinio i’r Brenhines wnaeth Charles Windsor derbyn cleddyf, sy’n cynrychioli fod yn barod i amddifyn ei wlad, modrwy, i dangos ei cyfrifoldeb, ac gwialen, sy’n cynrychioli symbol o’i llywodraeth. Fe cafodd y ‘Letters Patent’ ei darllen yn Cymraeg ac yn Saesneg. Roedd yr FWA (Free Wales Army), a oedd yn cael ei dilyn gan Julian Cayo Evans. Wnaeth o dilyn y pobl yn milwrol: roeddent yn cario fanner y Ddraig Coch ac yn gwisgo capiau gyda phig, ond ar yr 1sf o Gorffenaf 1969 (sef arwysgiad Charles) cafodd 6 aelod o’r FWA ei ddal ac cael ei rhoi o flae llys o dan yr “Public Order Act”. Ar ol treial yn para 53 diwrnod, cafodd Cayo ac ei ail yn ‘command’ cael ei cyheddo ac rhaid mynd i’r carchar am 15 mis. Wnaeth Cayo farw yn 57mlwydd oed ar Mawrth 1995.