Adroddiad ar baratoi hydoddiant safonol a Thitradu mewn Diwydiant

Adroddiad ar baratoi hydoddiant safonol a Thitradu mewn Diwydiant Beth yw hydoddiant safonol - Mae hydoddiant safonol yn hydoddiant sydd gyda chrynodiad sy'n fanwl gywir? Mae crynodiad fel arfer yn cael ei mesur mewn Mol DM-3. Wrth greu hydoddiant safonol mae'n hollol bwysig bod y mas yn gywir a bod sylweddau wedi cael ei mesur yn fanwl gywir. Beth yw Titradu - Mae titradu yn cael ei defnyddio er mwyn gweithio allan beth yw crynodiad hydoddiant safonol? Mae titradu yn cael ei defnyddio mewn llawer o ddiwydiannau dyma restr o rai:- • Diwydiant gwin • Ffermydd llaethdy • Corfforaeth mwyngloddio • Diwydiant iechyd • Gorsafoedd dwr • Ffarmacoleg (Pharmacology) • Ymchwiliadau Amgylcheddol - sy'n edrych ar law asid Mae hefyd diwydiannau sydd fod mesur pH yn enwedig os ydw i'n cael rhywbeth i wneud a phobl ei dreulio neu i body n agos i yn defnyddio titradu. Mae hefyd yn cael ei defnyddio i weld fod cynhyrchion yn iawn i ddefnyddio megis cynhyrchion glanhau. Mae angen i gynhyrchion glanhau fod yn asidig felly mae angen defnyddio titradu er mwyn cael y molaredd cywir. Ymchwiliad Amgylcheddol Mae pobl sydd yn gweithio gyda'r amgylchedd yn defnyddio titradu. Mae titradu yn cael ei defnyddio i fesur faint mae dwr glaw, eira wedi cael ei lygru. Maen nhw hefyd yn defnyddio titradu er mwyn mesur pa mor asidedd yw tir. Mae hyn felly yn ddefnyddiol os

  • Word count: 489
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Adroddiad ar sut i cludo cemegolion a sylweddau yn ddiogel

Adroddiad ar sut i cludo cemegolion a sylweddau yn ddiogel Rydw I'm ysgrifennu'r adroddiad hyn er mwy'n dweud sut I cludo ac trosglwyddo cemegolion yn ddiogel. Mae'n bwysig gwybod sut I wneud hyn yn ddiogel er mwyn lles iechyd. Rydw I'n mynd I trafod sut I cludo : . Cemegolion amrywiol 2. Cemegolion Tocsig 3. Offer miniog 4. Sylweddau sydd ddim yn heintiol 5. Solidau cyrydol 6. Hylifau cyrydol 7. Solidau fflamadwy 8. Sylweddau heintiol 9. Carbon Deuocsid solid a Hylifau cryogenig 0. Mercwri 1. Addasiad I gerbydau Cemegolion Amrywiol Wrth gludo cemegolion amrywiol mewn cerbydau mae rhaid gwneud yn siwr bod yna symbolau diogelwch priodol yn arddangos tu allan i'r cerbyd er mwy'n rhybuddio pobl o'r perygl. Wrth gludo cemegolion yn y cerbyd mae rhaid gwneud yn siwr bod y cemegolion mewn cynhwysydd addas ac sydd wedi cael ei chysylltu'n addas ac yn ddiogel i'r cerbyd er mwyn rhwystro unrhyw arllwysiadau wrth i'r cerbyd symud. Rhaid bod cemegolion sydd yn gallu adweithio gydau gilydd wedi cael ei gwahanu er mwyn lleihau perygl o unrhyw adweithiadau sydd yn gallu achosi ffrwydradau neu tan. Nid ydyn yn syniad da i adael y cerbyd heb berson i'w warchod. Cemegolion Tocsig Mae rhaid storio cemegolion tocsig yn barod i'w casglu . Gall cael gwared a chyfeintiau bach gan hydoddi ac yna gwanedu a golchi i ffwrdd gyda dwr. Offer Miniog Mae yna dau liw priodol ar

  • Word count: 856
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Welsh poems - THEMA : CYMRU A CHYMREICTOD

THEMA : CYMRU A CHYMREICTOD 1.12.82 gan Iwan Llwyd MESUR – Cerdd Rydd Er nad oes patrwm sefydlog gwelir rhai nodweddion sefydlog: . odl fewnol rhwng yr ail a’r drydedd llinell ym mhob pennill Cilmeri, diferu oesau, gymylau… . Nid yw nifer y sillafau’n gyson ond mae curiad pendant 2. Tair llinell i bob pennill oni bai am y pennill olaf sydd â phedair 3. Dim cynghanedd CYNNWYS Cynhaliwyd cyfarfod coffa ar Ragfyr 11eg, 1282 wrth y gofeb yng Nghilmeri i gofio’r saith can mlynedd ers marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf. Llywelyn ap Gruffydd oedd tywysog olaf Cymru. Fin nos ger Pont Irfon lladdwyd ef gan filwyr Edward I, brenin Lloegr, saith can mlynedd ynghynt. Gwaedodd Llywelyn i farwolaeth a danfonwyd ei ben i Lundain i’w chario ar bicell o gwmpas y ddinas. Dechreua’r pennill cyntaf trwy ddweud bod “saith canrif” wedi bod ers marwolaeth Llywelyn. Clywn ei bod hi’n ddiwrnod oer iawn ar ddiwrnod y cyfarfod coffa, “daeth saith canrif ynghyd yn oerfel Cilmeri”. Ar y dydd roedd hyd yn oed y dail fel pe baent yn galaru a cholli dagrau -“ a’r dail yn diferu atgofion”. Mae byd natur yn gefndir i’r gerdd ac yn adlewyrchu teimladau’r bardd am y sefyllfa. Mae’r ail bennill yn dweud ein bod wedi treulio saith can mlynedd yn edrych yn ôl yn hiraethus ar ein gorffennol, “saith canrif o sôn am orchestion hen oesau”. Dywedir yn y

  • Word count: 1035
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Tasg Asesu Bioleg; Disgrifiad o daith moleciwl o garbohydrad drwyr

Tasg Asesu Bioleg; Disgrifiad o daith moleciwl o garbohydrad drwy’r system dreulio Disgrifiad o’r broses treuliad sy’n digwydd i foleciwl o garbohydrad, yn dechrau o’r ceg hyd at y coluddyn fach, drwy’r corff a sut y defnyddir cynnyrch y broses hynny ar gyfer prosesu eraill yn y corff. Mae starts, neu carbohydradau cymhleth, yn hanfodol yn y corff gan eu bod yn gallu rhoi egni sydyn drwy resbiradaeth pan y treulir yn briodol. I ddechrau, y cam gyntaf yw pan y bwytir y carbohydrad cymhleth ar ffurf starts gan yr organeb. Ceir yr rhain o fwydydd megis bananas, barli, ffa, reis brown, bara brown, ceirch, tatws ayb.. Mae gan y sylweddau yma’r fformiwla gyffredinol Cm(H2O)n lle y gallai m fod yn wahanol oddi wrth n, a dangosir enghraifft o’u strwythr i’r dde. Oherwydd y strwythr a’r fformiwla yma, buasai’n hawdd eu disgrifio yn fras fel hydradau o garbon – mewn un ffordd, mae hynny’n wir ond i fod yn fwy dechnegol gywir disgrifir hwy fel aldehydau a chetonau polyhydrocsi (polyhydroxy ketones). Pan y cant eu bwyta, yn y ceg mae’r ensymau carbohydras a geir yn yr amalas poer, a ddaw o’r poer o’r prif glandiau parotid, sublingual, a submandibular yn dechrau gweithio ar y bondiau rhwng y monomeriaid yn y gadwyn starts i’w rhyddhau; mewn geiriau eraill, mae’r ensym yn gweithio fel catalydd i leihau meintiau’r polymeriaid. Mae cymeryd bwyd i

  • Word count: 1766
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Hanes-Gwaith Cwrs.

Hanes-Gwaith Cwrs . Yn ôl ffynhonnell A1, sef dyfyniad o bapur newydd y 'Western Mail', fedrwn feddwl bod Cymru a'u pobl dal yn credu yn hen draddodiadau a diwylliant y wlad. Bod yr eisteddfod yr un mor boblogaidd yn nawr ac yr oedd deng mlynedd yn ôl. Cyn darllen y dyfyniad fedrwn weld y darlun mae'n ei beintio, y teitl yw "Gwlad y Gan ac Offerynnau". Er bod y 'Western Mail' yn bapur cydnabyddedig nid oes rhaid i'r darlun mae'n ei bortreadu fod yn wir, byddai'r 'Western Mail' eisiau plesio ei darllenwyr, y mwyafrif o'i darllenwyr fyddai'r Cymry dosbarth canol, ac y rheini fyddai'r bobl oedd eisiau Cymru aros fel yr oedd, gwlad dawel draddodiadol, byddai'r 'Western Mail' ddim ond yn ceisio cadarnhau y ddelwedd yma yn eu meddyliau. 2. Mae ffynhonnell A2, sef dyfyniad allan o lyfr 'Pobl, Protest a Gwleidyddiaeth' gan Gareth Elwyn Jones a gyhoeddwyd yn 1988 gyda darlun hollol wahanol, pan bod ffynhonnell A1 yn cyfleu Cymru fel gwlad gryf, nad yw dan fygythiad mae hwn yn cyfleu Cymru fel gwlad gwan, sydd dan fygythiad cryf o'r cyfrwng newydd, sef teledu. Yn y ffynhonnell disgrifir teledu "bygythiad difrifol i'r Gymraeg a Chymreictod", credu'r hyn oherwydd mae un grwp bychan oedd yn ei rheoli, a Saeson cyfoethog o Lundain ar hynny, doedd dim modd i nhw wybod ddim byd ar arferion a diwylliant Cymru, felly ni fyddai ar y teledu, os oedd pobl ifanc yn gwario mwyafrif o'i amser

  • Word count: 1416
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Cyfres o ymsonau yn seiliedig ar y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis Ymson Blodeuwedd (Act 1)

Beca Dafydd Tasg Ddrama Creadigol Cyfres o ymsonau yn seiliedig ar y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis Ymson Blodeuwedd (Act 1) Dim ond morgrug yn y pellter yw Llew a Gwydion bellach. Eu meirch a oedd fel tarannau cynt, yn awr mor ddistaw â chwymp plu eira. Mi ddylwn eu casáu, y ddau ohonynt. Fe’m rhwygwyd o’m cynefin gan Gwydion a’m gosod mewn byd anghyfarwydd. Fe ddylai Gwydion ddeall fy nheimladau anesmwyth, wedi’r cyfan, fe dreuliodd ef amser o dan rym y byd natur. Ond y mae ef yn rhy brysur yn cywilyddio am ei orffennol i boeni am deimladau brau “campwaith” ei “hudolaeth oll” . A Llew, fy ngwr, a aeth a’m gadael er i mi bledio arno i aros, yr unig ffafr a geisiais erioed. Pam na wnaeth ef roi i mi beth ofynnais amdano? Nid yw’n gais afresymol. Nid yw fel gofyn i aderyn i beidio â chanu neu ofyn i’r haul i beidio â gwawrio. Na, gwraig yn pledio i’w gwr i pheidio â’i gadael ydwyf. Mi wn yn f’esgyrn na ddaw da o hyn. Ai fy mai i yw’r ffaith na all fy ngwr weld sicrwydd yn fy ngeiriau? Mae geiriau Gwydion yn atsain yn ogof fy meddwl. Ai ffôl y bûm i beidio â disgyblu Llew? Ar y dydd fe’m crëwyd roedd ei lygaid mawr dwfn yn llawn llonder a gobaith. Fe’i syfrdanwyd gan fy ngwallt euraidd a’m croen difrucheulyd, heb ei gyffwrdd gan law dyn. Bu distawrwydd rhyngom wrth iddo ymgolli yn fy harddwch. Syllais o’m cwmpas. Roedd

  • Word count: 2621
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Gwrthiant mewn Gwifren

Cyflwyniad Mewn metelau mae’r atomau wedi’i pacio’n dynn at ei gilydd mewn patrwm rheolaidd. Oherwydd y pacio tynn, mae’r electronau allanon yn gwahanu oddi wrth eu hatomau sy’n ffurfio môr o electronau rhydd. Llif o electronnau neu llif gwefr yw cerrynt a gwrthwynebiad i lif cerrynt yw gwrthiant. Mae gwrthiant yn cael ei achosi gan electronau’n gwrthdaro â’i gilydd a gyda atomau metel. Y mae yna llawer o ffactorau sy’n effeithio ar gwrthiant er enghraifft mae mwy o wrthiant mewn gwifrau tenau na mewn gwifrau trwchus oherwydd mewn gwifren drwchus mae gan yr electronau fwy o le i symud ac felly maent yn llai tebygol i wrthdaro a’i gilydd. Wrth ddyblu lled y wifren bydd y gwrthiant yn hanneru. Y mwyaf mae’r electronau’n gwrthdaro, y mwyaf o wrthiant sydd. Y mae’r fath o wifren hefyd yn effeithio ar gwrthiant. Gallwn weld hyn drwy gymharu gwifren nicrom a gwifren gopr. Y mae mwy o wrthiant mewn gwifren nicrom oherwydd mae’n anoddach i’r cerrynt lifo trwyddo am bod nicrom yn aloi o ddau fetel, nicel a cromiwm. Yn lle llifo yn llyfn trwy’r defnydd mae’r electronau yn taro oddi ar ei gilydd. Y mae gwrthiant hefyd yn cael ei effeithio gan tymheredd. Y poethaf y wifren y mwyaf o wrthiant sydd. Y mae hyn oherwydd pan mae’r wifren yn poethi mae’n achosi i’r electronau wrthdaro mwy. Y mae hyn yn golygu ni fydd yr electronau’n llifo

  • Word count: 1335
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Cyfradd adwaith yw; pa mor gyflum mae adwaith yn digwydd. Pan mae dau gronnyn

Arbrawf effaith crynodiad ar cyfradd adwaith Cyfradd adwaith yw; pa mor gyflum mae adwaith yn digwydd. Pan mae dau gronnyn yn taro yn erbyn ei gilydd yn egniol mae gwrthdrawiad llwyddiannus yn digwydd. Po fwyaf o wrthdrawiadau llwyddiannus sy'n digwydd mewn adwaith, y cyflymaf bydd yr adwaith. Mae hyn yn cael ei defnyddio mewn bywyd pob dydd e.e Faint o amser mae rhywbeth yn cymryd i gogino neu faint o amser cyn mae rhyw fath o fwyd yn pydru. Caiff ei cyfrifo trwy'r hafaliad: Gall 4 prif peth dylenwadu ar gyfradd adwaith; Maint y gronynnau mewn solid, tymheredd, catalyddion a crynodiad. Pan fydd solid yn adweithio dim ond ar arwyneb y solid y gall yr adwaith digwydd felly os oes gan solid arwynebedd fawr, bydd y cyfradd adwaith yn fwy. Trwy rhoi gwres i gronnynau mae fwy o egni ynddynt, felly maent yn symud yn gyflymach gan creu fwy o wrthdrawiadau llwyddiannus. Mae catalydd yn cyflymu adwaith heb newid eu hunan, engraifft o gatalyddion yw; Manganis ocsid a zinc ocsid. Trwy cynyddu crynodiad toddaint mae'n golygu fod fwy o gronynnau ar gael i bwrw yn erbyn y peth mae'n adweithio gyda, mae hyn yn cynyddu'r posibilrwydd o wrthdrawiadau llwyddiannus. Rydyn yn mynd i ymchwilio i fewn i effaith crynodiad ar cyfradd adwaith. Byddwn yn defnyddio asid hydroclorig a magnesiwm. Asid hydroclorig + Magnesiwm = Magnesiwm Clorid + Hydrogen 2HCl + Mg

  • Word count: 1937
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Pobl unig a ryfedd yw prif gymeriad pob stori yn ein cyfrol

Pobl unig a ryfedd yw prif gymeriad pob stori yn ei'n cyfrol Mae'r ffurf stori fer yn ffordd effeithiol iawn o drafod pobl unig a rhyfedd oherwydd ei bod hi'n ffordd dda o ddod i adnabod cymeriad yn syth ac yn gyflym heb orfod darllen am ei cefndir. Mae'r awdur yn canolbwyntio ar un cymeriad mewn stori fer fel arfer, ac felly rydym yn dod i'w hadnabod yn well ac weithiau mae'n rhoi siawns i ni edrych o dan yr wyneb ac edrych ar ochr arall y stori. mewn geiriau eraill, mae'n edrych ar brofiad neu ddigwyddiad mewn ffordd arbennig. Mae stori fer yn llwyddo i ddweud llawer am gymeriad mewn ychydig o eiriau. Weithiau, mewn stori fer, mae tro ar y diwedd sy'n creu ymateb ynddom, ac yn agor yn uningyrchol. Tewi nid gorffen mae stori fer, fel arfer, mae'n gorffen yn ben agored, mae hyn yn effeithiol i wneud i ni feddwl. Mae stori fer yn effeithiol ac yn chwarae ar ein hemosiynau. Mae llawer o wahanol fathau o bobl ryfedd ac unig, gall person fod yn unig oherwydd nad oes ganddynt deulu na ffrindiau, neu efallai oherwydd profedigaeth neu unrhyw newid yn ei bywyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, mae pobl unig yn dewis bod yn unig, gall fod oherwydd cyfrinach. Tra mae eraill yn ysu am gael cwmni. Mae llawer o bethau yn gallu gwneud person yn rhyfedd, os ydynt yn edrych neu'n ymddwyn yn wahanol i bawb arall, mae pobl yn tueddu i feddwl ei bod nhw'n rhyfedd. Gall gefndir rhywun, neu eu

  • Word count: 5351
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay

Welsh coursework - speaking assessment on Wales

Gwaith cwrs Hylo, shwmae. Lauren ydy f’enw i ac rydw i’n un deg pump oed ac bydda i un deg chwech oed ar dau deg pump yn yr mis ionawr. Rydw i’n mynd i’r ysgol gyfun Pencoed ac rydw i’n yn mlwyddyn unarddeg. Fy hobiau ydy pel-rwyd, darllen llyfr, cymdeithasu ac dysgu pethau newydd. Heddiw, rydw i wedi dewis siarad am Cymru! Rydw i wedi dewis siarad am y testun yma achos rydw wrth fy modd yn byw yng Nghmru ac rydw i’n fach i fod yn Gymraes! Yn fy marn i mae Cymru yn fendigedig achos mae llawer o bethau rhyfeddol yma. Rydw wrth fy modd yn siarad yr iath Gymraeg ac siarad yn Gymraeg ond does dim llawer o gyfle i ymarfer cymraeg heblau ond yn yr ysgol. Mae Cymru yn wych, mae llawer o bethau sy’n hwyl! Mae’r mynyddoedd yn hardd ac yn gret i ddringo! Mae Caerdydd yn boblogaidd achos mae llawer o bethau diddorol i wneud e.e mwynhau gem y stadiwm Mileniwm, ymweld a chastell, ymweld ag amgueddfa. rwyt ti’n gally mynd i fwyta mewn tai yn ty bwyta a canolfannau siopa. Hefyd, rwyt ti’n gally syrffio ar lan y mor llawer of hwyl! Mae Caerdydd yn ddinas iawn ac mae Bae Caerdydd yn bwysig iawn achos prifddinas Cymru ydy Caerdydd. Prif Weinidog Cymru ydy Carwyn Jones, mae e’n dod o Benybont. Mae Cymru yn enwog am gantorion talentog iawn fel Dame Shirley Bassey ac Sir Tom Jones. Mae Shirley Bassey yn arwes gerddoriaeth! Mae llawer o draddodiadau diddorol yn

  • Word count: 548
  • Level: GCSE
  • Subject: Welsh
Access this essay