Prosiect T.G.A.U.

Authors Avatar

Prosiect        Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu        TGAU

Prosiect T.G.A.U.

Cyflwyniad (Introduction)

Rhaid cyflwyno adroddiad sy’n disgrifio datrysiad i broblem sy’n dangos eich sgiliau technoleg gwybodaeth. Rhaid dylunio system ar gyfer pobl eraill i’w defnyddio. Medrir dewis unrhyw system realistig o fewn eich gallu fel testun i’r prosiect. Holl bwrpas y gwaith yma yw i gyflwyno system gyfrifiadurol i fusnes neu glwb bach er mwyn gwella'r sefyllfa bresennol. Gallai'r system fod yn un sy'n cymryd lle system bapur (h.y. does dim cyfrifiadur yno ar hyn o bryd) neu gallai eich system fod yn un sy'n gwella'r hen system gyfrifiadurol sydd yno yn barod. Mae darganfod sefyllfa realistig sydd o fewn eich profiad chi yn holl bwysig er mwyn llwyddiant eich prosiect.

Fe fydd yn rhaid creu gwaith sy’n cynnwys enghreifftiau o:

  • Gyfleu Gwybodaeth
  • Drin Gwybodaeth
  • Fodelu.

Fe ddylai’r gwaith yma fod yn realistig ac yn berthnasol i’r sefydliad (organisation) rydych wedi dewis i greu system ar ei gyfer.

Syniadau o destunau addas:

  • Trefnu achlysur ar gyfer clwb chwaraeon (Gala nofio, cystadleuaeth 7 bob-ochr ac ati).
  • Trefnu gwibdaith i rywle arbennig (Gwibdaith ysgol i Alton Towers ac ati).
  • Creu systemau ar gyfer busnes arbennig (Siop sy’n gwerthu cyfrifiaduron, busnes merlota, ac ati).

Cyflwyno’r Gwaith

Wrth gyflwyno’r cywaith i gael ei farcio rydym yn disgwyl:

  • Tudalen flaen gyda
  • Teitl y Prosiect
  • Enw y Disgybl
  • Rhif Arholiad y Disgybl
  • Tudalen Cynnwys
  • Tudalennau â phennyn a throedyn gyda rhif y tudalen

Yr adrannau wedi cael eu rhannu’n glir.


Canllawiau Marcio y Prosiect

Rhan 1 - Datganiad o’r Broblem a Dadansoddiad (Statement of Problem and Analysis) [10 Marc]

Teitl a Chefndir [2 farc]

Dechreuwch eich prosiect drwy ddweud pam y dewisoch y sefyllfa rydych yn astudio. Efallai eu fod e'n glwb neu'n gymdeithas rydych yn aelod ohonno neu efallai fod aelod o'r teulu yn rhedeg y clwb/cymdeithas/busnes. Mae'n rhaid dweud yn hollol glir pam yr ydych yn ymchwilio i weld os yw datrysiad cyfrifiadurol yn ymarferol. Dylai'r cefndir gynnwys gwybodaeth gyffredinol fel: Pryd dechreuwyd/sefydlwyd y clwb/busnes e.e 1980

1. Beth yw nod ac amcanion y clwb/busnes? e.e. i ddatblygu diddordeb mewn rygbi ymysg ieuenctid ac oedolion ardal Caerdydd.

2. Ble mae'r clwb/busnes a beth yw ei oriau agor e.e. Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00 tan 5.00. Byddai lluniau yn fanteisiol

3. Faint o aelodau/cwsmeriaid sydd gan y clwb/busnes?

4. O ble mae’r aelodau/cwsmeriaid yn dod?

5. Nifer o staff sydd ganddynt.

6. Beth yw cyfrifoldebau a dyletswyddau y staff?

7. Pa weithgareddau sy’n cael eu cynnal?

8. Beth yw eich cysylltiad â’r clwb/busnes?

9. Pa dasgau rydych wedi penderfynu helpu gwella?

10. Pam rydych wedi dewis y tasgau yma, h.y. pam eu bod yn addas ar gyfer cael eu gwella?

11. Pwy yn y clwb/busnes sy’n gyfrifol am y tasgau h.y. pwy ydych yn helpu.

12. Beth yw’r rheswm am ddewis gwneud hyn h.y. cysylltu addasrwydd y dasg â gofynion y cwrs TGaCh TGAU?

13. Sut medrwch ymchwilio i’r tasgau sydd angen eu gwneud?

Join now!
  • Holiadur
  • Cyfweliad
  • Arsylwi
  • Darllen llyfrau/ cylchgronau/ safwe

14. Pa gwestiynau sydd angen darganfod atebion iddynt?(Gweler isod)


Disgrifiad o’r system bresennol [4 marc]

Canlyniad yr ymchwiliad uchod.

Byddwch yn siwr i ystyried holl agweddau y sefydliad dan sylw. Rhaid cael manylion ar gyfer ymchwiliad llwyddiannus. Nid yw ychydig o bwyntiau cyffredinol yn ddigon.

Tasgau Trin Gwybodaeth

Rhaid disgrifio yn fanwl sut mae data a gwybodaeth yn cael eu casglu, storio, prosesu a’u trosglwyddo o fewn y clwb/busnes.  Pa ddata/wybodaeth sydd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y clwb/busnes e.e.

  1. manylion personol am yr aelodau - ...

This is a preview of the whole essay