Yn act 6 adeiladodd Peter Ilyich Tchaikovsky symudiad andantino-allegro allan o’r bennod yma gan geisio creu naws yn llawn tensiwn trwy ddefnyddio’r defnydd o ‘crescendo’ .
Mae hen ddyn yn ymddangos yn feddw , ac mae’r gerddoriaeth yn mynd yn gyflymach (Allegro) tan i’r hen ddyn gwympo a’r cord uchel (pwynt a farciwyd yn x), yn troi yn ddawns a’r thema newydd.
Yn y finale ymddangosir criw o elyrch yn yr awyr. Mae un o’r cymeriadau yn awgrymu helfa, ac mae’r tywysog yn cytuno.
Wedi ei ysgrifennu’n gyfoethog gyda’g arpeggios i’r delyn a thremolos i’r llinynnau, mae yna lawer o themâu y ‘swan maiden’ yn ymddangos: dyma’r thema sy’n ymddangos yn y bale i blant.
Mae hon yn cael ei thrawsgyweirio i’r cywair B fwyaf gyda chordiau cryf a'r graddfeydd disgynnol yn llawn pŵer yn dangos bwriad Peter Ilyich Tchaikovsky i orffen ar nodyn bygythiol.
Cyfansoddwyd y ‘Nutcracker’ rhwng 1981-1982. Fe’i perfformiwyd gyntaf ar y 19eg o Fawrth yn ‘St Petersburg’. Mae’r gerddoriaeth wedi ei sgorio ar gyfer llawer o offerynnau sy’n darparu gwead trwchus mewn mannau o’r bale. Seiliwyd bale’r 'Nutcracker' ar y stori ‘The Nutcracker and the King of Mice’ a ysgrifennwyd gan E.T.A Hoffman. Mae’r stori am Almaenes ifanc yn breuddwydio am dywysog ‘Nutcracker’ a brwydr milain yn erbyn brenin y llygod gyda saith pen.
Yn y rhan yma ychwanegodd Peter Ilyich Tchaikovsky drôn ostinato bas gyda rhai cyffyrddiadau cynnil o liw, er enghraifft tincial tambwrin. Mae’r arwydd metronom yn rhyfeddol gyflym: mae’r darn yn cael ei chwarae fel arfer yn llawer arafach. Efallai ‘roedd Tchaikovsky am ddangos y tensiwn yn y darn.
Yn symudiad ‘Waltz of the flowers’ ceir llawer o sgorio gofalus gan Peter Ilyich Tchaikovsky a hefyd cychwyn y walts boblogaidd i weision y Sugar Plum Fairy. Gofynnodd am ‘wyth bar i gychwyn y walts, yna estyniad o’r bariau’; Mae Peter Ilyich Tchaikovsky’n ymateb gyda brawddeg pedwar bar yn y chwythbrennau, mewn ateb ar ôl arpeggios telyn ac yna ateb unwaith eto o frawddeg naw bar cyn bod cadenza telyn yn arwain i mewn i’r brif thema. Eto mae yna felodi arall yn dilyn cyn y brif thema. Melodi gref a chynnes i’r fiolas a cellos lle mae cyfeiliant arbennig gyda’g arpeggios llinynnau uwch, cyrn a chwythbrennau oddi ar y curiad yn dangos cyferbyniad gyda’r symudiadau eraill yn y bale. Mae helaethrwydd a rhagoriaeth y melodïau yn dangos gallu Peter Ilyich Tchaikovsky i drin amrywiol ddyfeisiadau, ac mae’r sgiliau yn y darn yma yn dangos technegau cerddorol sy’n debyg iawn i dechnegau miwsig bale.
Yn yr act ‘Pas de deux’ nid oedd yna bosibilrwydd fod Clara yn mynd i ddawnsio’r pas de deux (math o ddawns) gyda’r Tywysog Nutcracker (roedd Belinskaya, y Clara wreiddiol yn ddeuddeg oed). Rhoddwyd yr agoriad Andante
maestoso i Clara a’i thywysog cyn gynted ag yr oedd yn ddigon aeddfed i’w chyflawni.
Mae yna ddarn ar ôl hwn wedi ei sgorio’n ofalus gan Peter Ilyich Tchaikovsky, yn dechrau gyda thema cello a seiliwyd ar raddfa sy’n cwympo wedi ei farcio yn ‘poco piứ mosso., Chwaraewyd y thema newydd gan obo ac yna clarinét bas, ac ar ôl hynny mae’r gerddoriaeth yn cynyddu i uchafbwynt a chwaraeir gan gerddorfa lawn lle daw trombonau i draddodi datganiad pwerus o’r thema raddfa ddisgynnol: mae iddi flas cryf o themâu angau Peter Ilyich Tchaikovsky, er nad oedd yna reswm pam y dylai motif o’r fath ddigwydd yn y fan hyn.
Ysgrifennodd Peter Ilyich Tchaikovsky ddawns y Sugar Plum Fairy, lle rhoddir lle parhaol i’r celesta yn y gerddorfa. Mae’n debyg ei fod wedi ei chael hi’n anodd ar un cyfnod i ddod o hyd i gerddoriaeth iddi. Fe fu canfod yr celesta yn gaffaeliad mawr iddo a’r gred gyffredin yw bod y gerddoriaeth brydferth a gyfansoddodd Peter Ilyich Tchaikovsky i’r Sugar Plum Fairy yn cydweddu’n berffaith â Theyrnas y Melysion. Dylid nodi nad oedd gan Tchaikovsky llawer o feddwl o’r alaw. Nodwedd bwysicaf y darn yw’r cordiau ysgafn o’r celesta ynghyd â’r clarinét bas sy’n rhoi lliw rhyfedd ond delfrydol i’r gwead.
Yn y walts olaf mae’r Llys i gyd yn ymuno i mewn , ac mae’r llenni’n syrthio ar y deyrnged derfynol i Clara. Ar ôl swyn y ‘Walts of the Flowers’ a’r ‘Sugar Plum Fairy’ mae’r walts yma braidd yn swta, ond yn fedrus yn y ffordd mae’n adeiladu at uchafbwynt sydd yn arwain i mewn i’r Apotheosis. Gofynnodd Petipa am ‘grandiose Andante’. Cyfansoddodd Peter Ilyich Tchaikovsky symudiad wedi ei seilio ar sgorio cyfoethog o’r thema a agorodd yr act gyda llinynnau yn chwarae’n gyfoethog ac arpeggios ar y telynau a celesta. Fe ddaw cordiau cryf i ddod â’r llenni i lawr.
Mae’r bale ‘Sleeping beauty’("La Belle au Bois dormant") yn glasur o stori dylwyth teg. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn 1697 gan Charles Perrault. Yn ôl Peter Ilyich Tchaikovsky dyma oedd un o’i gyfanweithiau gorau.
Sylfaenwyd cerddoriaeth y rhagarweiniad ar ddwy thema, yr un gyntaf yw'r dylwythen ddrygionus o’r enw ‘Carabosse’:
A’r ail sef y dylwythen dda - ‘Lelog’.
Mae’r rhain yn dechrau ac yn cael ei datblygu mewn adrannau gwrthgyferbyniol cyn i’r gerddoriaeth symud i mewn i rhythm ymdeithgan.
Mae cerddoriaeth yr ymdeithgan mewn ffurf rondo gyda dwy atgan. Mae’r ymdeithgan yn fywiog ond hefyd yn ‘grandiose’ ac yn y cywair A fwyaf. Wrth i’r gwestai gyrraedd mae’r llenni’n codi. Ar ôl i’r ymdeithgan ddychwelyd mae yna uchafbwynt, gyda ffanffer gan y cyrn i ddangos bod y brenin a’r frenhines wedi cyrraedd. Mae’r fersiwn yma o’r ymdeithgan, wedi ei sgorio’n gyfoethog iawn dros ben i’r gerddorfa, yn darparu naws seremonïol.
Mae finale'r ‘Sleeping Beauty’ yn hir, yn symffonig ei naws, yn cyd deithio gyda’r digwyddiadau cyflym yn ddisgrifiadol ac yn dangos y ddrama a’r gwrthdaro rhwng y da a’r drwg (Carabosse a Lelog) . Mae’r agoriad llyfn yn cael ei ymyrryd gan gerddoriaeth gynhyrfus wrth i’r dylwythen ddrwg ymddangos, ac mae’r tensiwn o’r gerddoriaeth yn datblygu’n raddol iawn.
Yn y finale darlunnir un o’r cymeriadau yn pigo ei fys ac fe glywir cerddoriaeth danllyd:-
Wrth ddefnyddio’r fersiwn o’r hanner cwaferi (y) mae’r ddawns o bendroni yn datblygu.
Un o fy hoff ddarnau allan o’r bale yma yw'r dyfyniad uwchben. Mae’r trawsffurfiad yma yn galluogi i Peter Ilyich Tchaikovsky i foddi ei glust mwyaf cywrain ar gyfer sgorio, ar gyfer y rhannau tawel gyda’r dylwythen dda’n ymddangos, ond yn sydyn mae rhannau o’r thema’n diflannu y tu ôl i dremolos y llinynnau a’r delyn i ddangos bod newid yn yr hwyl. Mae’n ddarn hyfryd iawn. Mae’r sgil ardderchog o drawsffurfio thema ‘Carabosse’ yn dangos bod yna grisis yn y stori. Ar ôl y gerddoriaeth dywyll yn dangos tymer wael ‘Carabosse’, mae’r gerddoriaeth heddychlon y dylwythen ‘lelog’ yn dangos llawer o wrthgyferbynnu yn y gerddoriaeth.
Dylanwadodd cerddoriaeth Peter Ilyich Tchaikovsky yn drwm iawn a’r tri cyfansoddwr enwog iawn. Enw’r cyfansoddwyr yw ‘Puccini’, ‘Sibelius’ a ‘Stravinsky’. Yr un mwyaf adnabyddus o ddefnyddio gwaith Peter Ilyich Tchaikovsky fel dylanwad oedd Puccini Gwelir effaith Peter Ilyich Tchaikovsky yn y ffordd mae Puccini yn cyfansoddi melodïau fortissimo ac yn dyblu alawon mewn wythfedi.
Rhai blynyddoedd ar ôl marwolaeth Peter Ilyich Tchaikovsky, darganfyddwyd erthyglau o’i eiddo yn beirniadu ei weithiau’n llym iawn. “Lake of the Swans” oedd enw gwreiddiol ar “Swan Lake”. Teimlai eu bod yn rhy hir, ac nid oedd wedi llwyddo i gyfansoddi cerddoriaeth briodol ar eu cyfer. Buan iawn y sylweddolodd nad oedd hyn yn gywir; ‘roedd cerddoriaeth Peter Ilyich Tchaikovsky yn gwneud llawer mwy nag addurno a chyfeilio i’r dawnswyr. Yn sicir, mae’r gerddoriaeth yn ychwanegu at y stori a’r awyrgylch, ac yn yr un ffordd, mae’r dawnsio yn ychwanegu at y gerddoriaeth. Newidiodd Peter Ilyich Tchaikovsky fyd cerddoriaeth bale’n llwyr; gwelir bod cyfansoddwyr fel Prokofiev a Stravinsky yn dilyn y drefn newydd a osodwyd gan Peter Ilyich Tchaikovsky. Bu ei ddylanwad yn fawr a phell gyrhaeddol.
Peter Ilyich Tchaikovsky
Rhestr o’i weithiau:
- 8 opera gan gynnwys ‘Eugene Onegin’(1879).
- 3 bale: ‘Swan Lake’(1877), ‘The Sleeping Beauty’(1890) a ‘The Nutcracker’(1892).
- Gwaith cerddorfaol gan gynnwys 7 symffoni, 3 consierto i biano, 1 consierto i’r ffidil.
- Gwaith siambr a chorawl.