Mae na ddigonedd o ologfeydd yn sefyll yn glir yn fy nghof.
Er enghraifft pryd mae llun o babell yn ymddangos ar y sgrin ar gefn y llwyfan ac mae yna gysgodion o ddau pobl sef Mari a’i thad Tom yn ymddangos yno- mae’r tad yn gofyn i’w ferch chwarae gem o ‘orfwys’,- yng gyntaf doeddwn i ddim yn siwr beth oedd ei thad yn gofyn iddi wneud ond wedyn sylweddolais i. Pryd sylweddolais i cefais i ias lawr ft asgwrn cefn. Roedd hyn yn anodd ond rwy’n siwr cafodd o dylanwad mawr ar y gynulleidfa.
Golygfa arall a gyddiodd im cof fel gwenyn i fel, oedd ar ddiwedd y drama pryd mae’r tad yn ddweud wrth ei deulu eu fod o’n fynd allan, ond pryd mae o’n ymadael y llwyfan mae swn car yn dechrau yn y cefndir ac doeddwn i ddim wedi deall hyn yn syth ond roedd y tad wedi lladd ei hun- mae hyn yn hynod o effeithiol oherwydd roedd hyn yn gwneud i’r gynulleidfa feddwl, ffordd ffwl allan o’r trap.
Ynghyd a’r stori am berthynas rhywiol rhwng merch a’i thad, mae o’n son am berthynas rhwng y tad a’r fam yn gael ei chwalu- ond nid yn unig hynnu- roedd i mam yn gwybod bod y tad wedi cael perthynas rhywiol efo’i ferch am oesau ond mae hi’n anwybyddu’r gwir am ei ferch ac yn byw eu bywydau fel normal.
Syml iawn oedd yr ochr dechnegol or ddrama- roedd yna golau lle roedd actorion, e.e. os oedd actorion uwchben y grisiau yn unig roedd yna golau ar y actor yn unig- os oedd actor o dan y grisiau roedd golau yna yn unig. Ond pan oedd llun yn ymddangos ar y sgrin yn unig fydda’i golau i gyd yn gael i ganolbwyntio ar y sgrin. Roedd y goleuadau yn swyddfa’r seicolegydd yn wahanol roedd yn fwy llachar yn dangos gobaith ac yn fwy agored. Ar y cyfan roedd y goleuo yn dywyll iawn yn symbol o cyfrinach tywyll.
Roedd pedwar actor yn y cast i gyd Mari y ferch, Tom y thad, Gwen y mam a’r seicolegydd. Yn fy mharn i Mari oedd y cymeriad gryfach oherwydd riedd yn rhaid i rhywun canol oed actio fel merch ifanc oedd yn cael i treisio gan ei thad-(rwy’n credu fe fydd hyn yn galed).
Roedd wisg Mari yn cynnwys esgidiau a top ifanc sy’n symbol o ddiniwedrwydd ac roedd ganddi siaced coch fel symbol o peryg- yn cuddio’i hyn. Roedd osgo corff Mari’n wych oherwydd roedd hi’n symud o gwmpas y llwyfan fel ferch fach diniwed. Cymeriad arall yr oeddwn i’n hoff oedd Tom sef u tad, roedd dillad Tom yn rhai hen effallai bod hyn yn symbol bod ei perthynas efo’i teulu yn dod i ben fek eu dillad. Roedd gan y tad esgidiau llechwra i symud o gwmpas y llwyfan yn sleimlyd ac yn dawel. Trwy gydol y ddrama roedd osgo corff Tom yn syth fel eu bod o’n falch o’i hyn- does dim cywylydd arno fo.
Ond yn bersonnol roedd Mari’n gryf trwy gydol y ddrama oherwydd roedd Tom yn treisio hi pryd oedd yn ifanc ond yn y diwedd Mari a ennillodd y frwydr oherwydd dywedodd gi ‘’NA’’. Ac mae hyn yn dangos eu bod yn cymeriad cryf.
Roedd yr ymateb i’r ddrama yn wych trwy gydol y ddrama roedd pob llygaid ar y llwyfan. Roedd chwerthin yn mannau priodol, ond distawrwydd o’n nghwmpas clymon trwy gydol y ddrama. Enghraifft o’r chwerthin oedd pryd oedd Gwen(y mam) yn gafael yn Tom(y tad) yn man wan iawn i ddyn- ac roedd yn rhaid chwerthin ar hyn.
Rwy’n credu fod y cyfarwyddydd yn bwriadu trosglwyddo’r neges o syt mae bywyd bob dydd yn digwydd- drama sy’n adlewyrchu realiti bywyd bob dydd.
Roedd gan ‘Perthyn’ set syml iawn, ond roedd o’n set llawn symboliaeth.
Yn fy mharn i roedd y grisiau metal yn symbol o rhywbeth oer a galede.e. beth oedd Tom yn gwneud yw ferch. Roedd u sofa yn hen e.e. roedd y camdrin yn hen. Roedd y seddau yn esmwyth er mwyn ymlacio er mwyn darganfod y gwir. Roedd pobeth yn minimlaidd. Doedd neb yn defnyddio propiau yn y ddrama.
Roedd yr actorion yn gweithio’n dda efo’i gilydd ac roedd hyn yn adluwyrchu’n gryf trwy gydol y ddrama oherwydd roedd hyn yn ddangos yn well i’r gynulleidfa oherwydd i ni roeddent yn actio yn gyfan gwbwl.
Roeddwn wedi mwynhau’r ddrama yn fawr iawn ac rwy’n credu oherwydd y dechrau roeddent wedi dal sylw’r gynulleidfa trwy gydol y ddrama i gyd.
Yn fy mharn i mae tebygrwydd rhwng y ddau drama sef ‘Perthyn’ a Freda a Diego’ oherwydd mae’r ddau drama yn son am sefyllfaeodd does neb yn hoffi son amda e.e. yn perthyn mae’r ferch yn cael i camdrin gan ei thad. Ac yn freda a diego mae’n son am bywyd ddyn a menyw sy’n gweld a gwneud pethau yn wahanol yn eu bywydau. Mae’r ddau drama yn rhoi’r un neges i’r gynulleidfa sef- ‘dydi pethau ddim yr un peth tu ol i ddrws a peth mae pobl yn gallu gweld yr ochr arall.' Ac mae hyn yn amlwg yn y ddau drama. Ond hefyd mae gwahaniaethau mawr rhwng y ddau.