Mae symboliaeth yn nodwedd holl bwysig iw gael mewn dramau a gwelir hyn yn glir yng nghyfres deledu Alan Beasdale, sef Boys from the Blackstuff.

Authors Avatar

Awen Llwyd Williams                                                                        02/03/10

Y Ddrama Deledu

‘Y mae’r defnydd o symboliaeth yn hanfodol ar gyfer drama effeithiol, ond mae gor-ddefnydd ohono’n medru tynnu oddi ar brif neges y ddrama a rhediad naturiol y llinyn storiol.’

Trafodwch y gosodiad hwn yng nghyd-destun cyfres ddylanwadol Alan Beasdale – Boys from the Blackstuff.

        Mae symboliaeth yn nodwedd holl bwysig i’w gael mewn dramau a gwelir hyn yn glir yng nghyfres deledu Alan Beasdale, sef Boys from the Blackstuff. Drama unigol ar BBC2 ym 1978 oedd hon yn wreiddiol ond gan ei bod yn gymaint o lwyddiant fe’i darlledwyd fel cyfres deledu gan y ‘Play for Today’ ar BBC1 ym 1980. Hanes dynion o ardal Lerpwl yn ymdopi â cholled eu swyddi yw’r gyfres hon. Credaf bod cyd-destun hanesyddol y gyfres benodol hon wedi bod yn rhan allweddol iawn i’w llwyddiant. Fe’i hysgrifenwyd yng nghyfnod y Prif Weinidog Margaret Thatcher, sef 1979 hyd at 1990, cyfnod a oedd yn galed iawn ar nifer o bobl y dosbarth gweithiol yn ogystal â’r dosbarth canol oherwydd diweithdra. Drama gymdeithasol yw hon sy’n dangos sut mae’r werin yn ymdopi â diweithdra a sut mae trefn y gwasanaethau cymdeithasol a’r awdurdodau yn trin bobl. Gellir dadlau ei bod yn feirniadaeth ar bolisiau economaidd Thatcher. Roedd Alan Bleasdale yn realydd cymdeithasol a seiliodd ei gymeriadau ar bobl cyffredin, nid oedd wedi glamareiddio unrhyw nodwedd o’r stori. Galluogodd hyn i’r gwylwyr uniaethu â’r cymeriadau a’i gwneud yn haws iddynt dosturio â hwy. Dywed yn y llyfr Boys from the Blackstuff, The Making of a TV Drama,

Join now!

        “Bleasdale’s writing is noted for its truth-to-life, particulary Liverpool life. The situations, the events, the characters and the dialogue were generally accepted by the audience as an accurate reflection of life on the dole in Britain in the 1980s.”

Profa hyn yr effaith a gafodd y ddrama hon ar fywydau pobl Brydain yn y cyfnod. Llwyddodd y ddrama chwyldroadol hon ennyn dipyn o sylw ac enillodd ‘Drama Academi Brydeinig’ ym 1983. Dywedodd Beasdale ei hun “It is my belief that at least 90% of those who are out of work, want to work.” Cydymdeimlodd â’i gymeriadau fel y cydymdeimlodd â’r ...

This is a preview of the whole essay