Dyma ddarn o’r ffynhonnell sydd yn sôn am y problemau a oedd gan y llywodraeth oherwydd y’r faint o drais a oedd yn digwydd. Efallai mae’r ffynhonnell yma yn ogwydd i’r llywodraeth oherwydd mae o wedi cael ei ysgrifennu ganddyn nhw. Ond ar y llaw arall mae’r ffynhonnell yma yn cael ei gefnogi gan ffynonellau arall sydd hefyd yn sôn am ymosodiad ac arswn.
Felly rydym yn gallu weld bod amrywiaeth o drais ym gweld yn y cyfnod. Gwelwyd arswn yn yr ardaloedd gwledig. Mae ‘The Rebecca riots’ gan y cyngor sir Dyfed a’r munudau o lyfr y gwarchodwyr yn wyrcws Narbeth yn dystiolaeth ddefnyddiol i ddangos fod arswn wedi cael ei defnyddio, llosgwyd eiddo, adeiladau a’r tir comin a’r wyrcwsau. Mae’r ddwy ffynhonnell yma yn ddibynnol oherwydd ei bod yn ei gefnogi eu gilydd. Rydym hefyd yn gallu gweld o’r adroddiad Daniel Williams ei bod trais yn erbyn pobl yn cael ei wneud.
Nid oedd llawer o barch gan y werin pobl tuag at yr awdurdodau oherwydd nid roeddynt yn cael ei drin yn deg. Mae hyn yn adlewyrchiad o’r lefelau o drais a welwyd.
Rydym yn gwybod fod trais wedi bodoli yng Ngorllewin Cymru cyn 1893, ond wedyn fe waethygodd yn ystod y terfysgoedd Rebecca. Mae’r adroddiad gan y lluoedd cwnstabliaid yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn amlinellu fod mwy o weithgaredd trwy geffyl pren. Roedd y terfysgwyr yn cosbi’r bobl a oedd yn rhoi gwybodaeth i’r heddlu. Dylai hyn bod yn ffynhonnell gryf oherwydd mae o’n adroddiad gan cwnstabl, ond ar y llaw arall roedd y’r cwnstabliaid yn gweithio i’r llywodraeth ac nid roedd y terfysgwyr yn boblogaidd gan y llywodraeth.
i ddechrau roedd y trais oedd yn cael ei wneud yn nhrais yn erbyn eiddo ond datblygodd y trais yma a dechreuodd bod yn drosedd difrifol yn erbyn pobl.
Mae tystiolaeth o’r y ‘Camarthen Journal’ a’r llyfr ‘People, protest and politics’ gan David Egan yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn dweud wrthym am yr ymosodiadau cyntaf ar y tollbyrth ac wedyn beth a ddilynodd. Mae’r darlun o ‘The Illustrated London News’ yn dangos y terfysgwyr yn ymosod ar bobl yn y strydoedd efo ffoniau pren. Mae’r faith bod y darlun wedi dod allan o newyddion Llundain yn efallai golygu nid roedd yr arlunwyr wedi dod i Gymru ac mae’r llun yn beth roeddynt yn meddwl oedd yn digwydd. Felly mae’r ffynhonnell yma yn un wan.
Mae’r erthyglau o’r ‘Carmarthen Journal’, papur newydd, yn esbonio y faith roedd y bobl gyffredin yn ofni y terfysgwyr. “Dychrynwyd pobl Aberteifi ar nos Wener gan Rebecca a’i ferched a gasglodd wrth Tollborth Pensarn…Roeddynt yn cario gyniau,”
Mewn ffordd roedd Y terfysgwyr wedi dechrau mas yn terfysgio am y bobl gyffredin ond mae’r dystiolaeth yma yn dangos ei bod roeddynt yn troseddu yn erbyn pobl gyffredin ddiniwed.
Mae David Egan yn esbonio sut bu’r ymosodiad datblygu yn fwy treisiol ac yn ddifrifol iawn, “ yn ystod dinistrio y tollty a’r tollborth yno, llofruddiwyd ceidwad y tollbyrth, hen wraig 75 mlwydd oed, Sara Davies” Mae’r dystiolaeth yma yn dangos ei bod y terfysg wedi mynd yn ‘rhy bell’ ac mas o bob rheolaeth. Mae’r gyd o’r dystiolaeth yma yn cefnogi ei gilydd yn y ffordd maen nhw’n dangos sut mae’r trais y terfysgoedd wedi cynyddu a mynd yn fwy difrifol. Mae’r ffaith roeddynt wedi llofruddio rhywun yn dangos bod y terfysgoedd Rebecca wedi gwaethygu gormod.
Yn olaf, mae’r digwyddiad arall yn dangos faint mor eang roedd y trais wedi dod. Mae tystiolaeth yn profi ei bod roedd y terfysgwyr wedi ymosod ar yr Wyrcws “ Gwthiodd cannoedd o derfysgwyr mewn i’r wyrcws lle ymosodwyd ar y matron, Mrs Evans.” Dyma ddarn o dystiolaeth sydd wedi cael ei ysgrifennu gan ‘The Carmarthen Journal’ ym 1843. Credaf fod y ffynhonnell yma yn ddibynnol oherwydd mae’n enghraifft arall o drais difrifol. Hefyd rydym yn gwybod bod y bobl yn casáu yr wyrcws oherwydd yr amodau llym.
Felly rydym yn gallu gweld ei bod y trais yn ystod terfysgoedd Rebecca yn cynyddu a datblygodd y trais i fod yn drais difrifol yn erbyn pobl. Roedd hyn wedi arwain at y llofruddiaeth o hen wraig Sara Davies gan y terfysgwyr ym Medi 1843.
Roedd nifer o gwynion hir dymor gan y tenantiaid ffermydd yng Ngorllewin Cymru yn yr 19ganrif oherwydd y ffordd roeddynt yn cael ei drin.
Mae’r graff sydd yn dod o Census ym 1841 yn dangos ei bod rhan fwyaf or poblogaidd orllewin Cymru yn ffermwyr. Felly rydym yn gwybod bod ffermio yn ddiwydiant pwysig yn yr ardal yn yr 1800’âu.
Trwy’r darllen darn o lythyrau ysgrifennwyd Y Parchedig J. Evans ar daith trwy Gymru yn 1804 rydych yn cael yr argraff nid oedd llawer o arian gan y ffermwyr yng Nghymru. Mae’r llythyr yn sôn am yr amodau gwael y tir ac mae o’n dweud roedd o’n anodd i’r ffermwyr yng Nghymru tyfu cnydau. Hefyd mae o’n dweud ei bod y caeau yn Lloegr yn llawer well. Yn fy marn i mae’r ffynhonnell yma gan yr Parchedig yn ddibynnol oherwydd doedd dim rheswm am y dyn yma fod yn ogwydd ac mae’n cytuno efo’r amodau gwael ac roedd yn cael ei ystyried mewn ffynonellau eraill. Fel darn o bapur newydd ‘The Times’ ym 1843.
Rydyn yn dysgu o’r gwybodaeth yma ei bod yr teniataid ffermydd a’i gweithwyr yn byw mewn amodau gwael. Mae o’n dweud ei bod y tai oeddynt yn byw ynddo ddim mwy na hofelau mwd. Nid oeddynt yn bwyta cig ond tatws. Eto mae’r ffynhonnell wedi cael ei ysgrifennu mewn ffordd di-gogwydd.
Felly mae’r wybodaeth rydym wedi ystyri yn dangos bod tlodi yn ffactor a oedd yn effeithio’r ffermwyr yn yr 19ganrif. Roedd y poblogaidd Cymru yn cynyddu trwy’r cyfnod ac nid oedd digon o swyddi ar gael yn yr ardal felly roedd hyn yn rheswm arall oedd yn arwain at tlodi.
Rydych yn gallu weld gwahaniaeth enfawrth rhwng bywydau y tirfeddianwyr a’r ffermwyr trwy ddarllen tystiolaeth arall. Nid roedd y tirfeddianwyr yn dlawd fel y ffermwyr, nhw oedd yn berchen 90% o’r tir. Roeddynt yn Saeson a oedd wedi derbyn addysg ac nid oedd y fferwyr Cymraeg yn gallu siarad Saesneg. Mae’r gwybodaeth yma wedi cael ei ysgrifennu gan Y Cyngor Sir Dyfed ym 1987, credaf fod y cyngor wedi gwneud llawer o ymchwilio o’r cyfnod felly credaf fod hyn gwybodaeth cryf. Rydym hefyd yn gallu weld o’r ffynhonnell ei bod y tirfeddianwyr yn rheoli’r llywodraeth a oedd nifer yn aelodau seneddol. Felly oes oedd problem gan y ffermwyr am y ffordd oeddynt yn cael ei drin nid oeddynt yn gallu defnyddio’r llys. Felly roedd y tirfeddianwyr yn gallu trin y ffermwyr fel anifeiliaid ac nid oedd unrhyw beth i stopio nhw’n gwneud hyn. Roedd yr holl ardal yng Ngorllewin Cymru fel bom-amserol.
Mae darn arall o bapur newydd ‘The Times’ yn sôn am y nifer o toll-byrth yn y gorllewin Cymru ym 1843. Mae’n o’n dweud ei bod tollbyrth pob tair milltir. “ fel rheol nid oes unrhyw ffordd yn fwy na 3 milltir heb dollborth” Felly roedd y ffermwyr yn gorfod talu arian i fwydo’r anifeiliaid sydd yn y caeodd 3 milltir i fwrdd. Rydym yn gwybod nid oedd llawer o arian gan y’r ffermwyr felly roedd y toll-byrthau yma yn gwneud nhw’n mwy grac. Mae’r fynhoneel yn dweud ei bod o’n rhatach i’r ffermwyr cadw’r anifeiliaid gartref na’r fynd i’r farchnad oherwydd y toll-byrth
Roedd y ddeddf helwriaeth yn golygu nid oedd y ffermwyr yn gallu lladd anifeiliaid a oedd yn byw ar ei wlad. Yr unig ffordd o gael cig oedd i botsio a roedd hyn yn cael ei weld fel trosedd difrifon iawn gan yr ynad(a oedd yn dirfeddianwyr) Felly efallai roedd y tirfeddianwyr yn gwneud arian trwy wneud i’r ffermwyr talu dirwy. Mae’r gwybodaeth yma wedi cael ei ysgrifennu gan y cyngor Sir Dyfed ym 1987. Credaf y ffynhonnell oherwydd rydw i’n meddwl ei bod y cyngor wedi astudio y’r terfysg Rebbeca yn fanwl.
“ Rydym ni ( y ffermwyr ) yn cael ein trin fel cn.”
Dyma farn T.C Foster tenitiaid fferm yn y cyfnod, efallai fod ei barn yn ogwydd oherwydd y faith mae’n dod o’r ochr y ffermwyr. Ond ar y llaw arall rydym wedi dysgu nid oedd y tirfeddianwyr yn trin y ffermwyr efo unrhyw barch.
Rydym yn gallu gweld hefyd roedd y tirfeddianwyr yn codi rhentiau ar y tir. Roedd y rhentiau yng Nghymru llawer fwy na Lloegr. Felly roedd y ffermwyr yn iawn i deimlo’n angyfiawderat y system prydlesu a rhentiau. “Roedd nifer o dirfeddianwyr yn codi rhentiau er mwyn manteisio ar y nifer a oedd eisiau rhento tir” Dyma ddarn o ffynhonnell mae’n dangos ei bod y ffermwyr tlawd yn meindio fo’n anodd iawn i gael tir. Roedd prydlesau hefyd yn lleihau felly roedd y tirfeddianwyr yn gallu codi y rhent yn fwy aml. Mae’r ffynhonnell yma wedi cael ei ysgrifennu yn 1990 gan golygyddion felly rydw i’n cael yr argraff roeddynt wedi astudio’r amser a gredaf fod y ffynhonnell yn dangos enghraifft arall o’r tirfeddianwyr yn trin y’r ffermwyr yn annheg.
Felly rydyn yn gallu gweld ei bod llawer o achosion hir dymor dros derfysg Rebbeca. Yn fy marn i nid oedd y ffermwyr yn cael ei drin yn iawn gan y tirfeddianwyr a oedd yn rheoli’r llywodraeth. Mae llawer o dystiolaeth yn cefnogi fy marn. Felly rydyn yn gallu gweld am sawl blynedd cyn 1939, roedd y rhesymau dros y terfysg a thrais yna yn barod.
Roedd hefyd nifer o resymau bir dymor a oedd wedi arwain at y terfysgoedd Rebecca. Nid roedd y bobl gyffredin yn hoff o’r ddeddf diwygio’r ddeddf dlawd oherwydd yn lle cael bwyd, lloches, ac arian oddi wrth y llywodraeth roedd y bobl fwyaf tlawd yn gorfod myndi’r wyrcws. “ Roedd y tlawd nawr i fynd i’r wyrcws i dderbyn unrhyw cymorth.” Dyma ddarn o’r dystiolaeth cafodd ei ysgrifennu gan yr Cyngor sir Dyfed ym 1987. Credaf fod y ffynhonnell yma yn ddibynnol oherwydd rydw I’n cael yr argraff ei bod y cyngor wedi gwneud ymchwil i ysgrifennu’r ffynhonnell. Roedd y bobl yn casáu yr wyrcws ac roeddynt yn cael ei gwahanu o’u teuluoedd. Roeddynt yn fwy parod i lwgu na gorfod mynd i’r wyrcws. Roeddynt yn gwneud gwaith caled fel megis torri cerrig ac roedd y bwyd yn blasu’n raenog ac yn sur. Rydyn yn gwybod hyn o ddarn o’r llyfr ‘People, protest and politics’ gan David Egan sydd yn sôn am yr amodau gwael yn yr wyrcws. Dydy’r ffynhonnell ddim yn ogwydd. Mae’r gwybodaeth yma wedi dod o lyfr hanesiol a does dim pwynt o David Egan ysgrifennu llyfr sydd yn dweud celwydd, felly credaf fod hi’n ffynhonnell ddibynnol.
Roedd y ddeddf cymudiad y degwm yn golygu roedd rhaid i’r bobl talu arian i’r eglwys Anglicanaidd. Roedd y bobl a oedd yn talu yn anghydfforwyr. Felly roedd y bobl yn gorfod talu 10% o’i incwm i’r eglwys Anglicanaidd pryd roeddynt yn anghydfforwyr. Roeddynt yn gosod treth sefydlog roedd y bobl yn gorfod talu a rydym yn gwybod roedd tlodi yn ffactor a oedd yn effeithio’r bobl ac nid oedd llawer o arian ganddynt i dalu’r arian. Mae’r dystiolaeth yma yn dod o’r llyfr ‘ Wales in modern times’ gan David Evans ym 1980. Eto oherwydd mae’r llyfr wedi cael ei ysgrifennu yn yr 20Ganrif credaf fod llawer o ymchwil wedi mynd i mewn i’r llyfr ac mae’n ffynhonnell ddefnyddiol.
Mae W.Day a oedd yn ffermwr o Gaerfyrddin o’r amser yn sôn am sut roedd y degwm yn effeithio’r ffermwyr. “wedi 1836 roedd y cyfanswm I dalu yn sefydlog, heb ystyried os oedd y cynhaeaf wedi bod yn dda neu’n un ddrwg.”
Efallai’r dydy’r ffynhonnell ddim yn ddibynnol oherwydd efallai mae’r ffermwr wedi gorliwio y maint o gynnyrch roedd rhaid rhoi I’r eglwys. Ond ar y llaw mae’r llyfr gan David Evans yn sôn am y Ddeddf cymudiad y degwm yn dod yn gyfanswm sefydlog.
Mae’r dystiolaeth a roddwyd gan William Williams I’r comisiwn ymchwiliad I dde Cymru ym 1844 yn eithaf defnyddiol I ddarganfod agweddau pobl leol at y tollau ar galch. Mae Williams yn dweud roedd y tollau yn costi fwy na’r calch, efallai ei bod Williams yn ffermwr ei hunain ac ei fod o’n gor-ddweud y prisiau. Rydym yn gallu gweld o’r ffynhonnell nid oedd y ffermwyr yn hoffi y tollau oherwydd y ffaith roeddynt mor ddrud ag roedd sut gymaint ohonyn. Yn ôl Williams roedd y ffermwyr yn meddwl roedd y bobl a oedd yn rhedeg y tollau yn gwneud llawer o arian. Felly roeddynt yn grac ei bod yr awdurdodau yn gwneud arian allan ohonyn nhw.
Trwy ddarllen dystiolaeth rydyn yn gallu gweld roedd nifer o resymau pam dechreuodd y Terfysg Rebbeca. Mae’r dystiolaeth yn dangos y ffaith nid roedd y ffermwyr a gweithwyr yn cael ei drin yn deg gan y llywodraeth a oedd hefyd yn y tirfeddianwyr. Roeddynt yn byw mewn amodau gwael ac roeddynt yn cael ei drin fel’anifeiliaid’. Hefyd roedd niferoedd o dollbyrth o gwmpas y De Orllewin ac nid roedd y ffermwyr yn hapus yn talu am y rhain oherwydd roedd tlodi yn bodoli. Felly roedd y ffermwyr yn cael ei drin yn annheg a roedd rhaid I rywbeth cael ei wneud, datblygodd y terfysgoedd Rebecca.
Rydym yn gallu weld roedd problem gyda’r faint o’r trais cyn 1839. On fe wnaeth y trais cynyddu ar ôl 1839 efo’r terfysgoedd Rebecca. Daeth y trais yn fwy a mwy difrifol ac roedd y bobl gyffredin yn ddechrau ofni y terfysgwyr. Ond aeth y terfysgwyr yn rhi pell yn 1843 pryd lladdwyd hen wraig.
Roedd rhaid I rywbeth cael ei wneud am y ffordd roedd y ffermwyr yn cael ei drin cyn 1839 a chwarae teg roedd y terfysg Rebecca wedi newid yr holl system. Ar y llaw arall efallai aethon nhw’n rhy bell ac roedd y trais wedi gwaethygu gormod. Neu efallai roedd rhaid lladd rhywun I gael y llywodraeth I wrando.