Cyn gynted a gyrhaeddais sylweddolais fod y lle dan ei sang. Pawb yn dawnsio fel ffyliaid, fflyrtio a’i gilydd, pawb yn ceisio ei wneud e’n noson bythgofiadwy.
“Hei!” gwaeddodd un o’m ffrindiau
“Pawb draw i ‘Mammas’ nawr?”
Roeddwn bob amser yn cwpla yno ar ôl noson allan.
Fe rhuthrodd pawb allan or dafarn a gwneud ei ffordd o ochr arall y dref i ymuno a’r ciw. Roeddwn ar fin talu pan sylweddolais bod bownsar yn syllu arnai. Roeddwn yn gwybod beth oedd yn mynd i’w ddweud.
“Oedran?” poerodd yn fy ngwyneb
Wrth sychu fy ngwyneb fe atebais “18”.
Doedd hyn byth wedi digwydd o’r blaen. Iawn roeddwn dal yn 17 ond dim ond pythefnos oedd i fynd tan fy mhenblwydd a meddylais pa wahaniaeth neiff pythefnos. Rhaid taw bownsar newydd oedd e am nad oedd yn fy nghredu i.
“ID?” fe ofynodd.
Fe siglais fy mhen yn araf o ochr i ochr am fod dim byd gen i. Fe siglodd y bownsar i ben hefyd.
“Wel allai ddim dy adael i mewn os nad oes dim byd gen ti”
Fe syllais arno am funed neu ddau. Roeddwn yn ymbil arno i fy adael i mewn ond doedd dim byd yn mynd i newid ei feddwl. Ceisiais ddweud wrth un o’m ffrindiau beth oedd yn digwydd ond pan edrychais roeddent i gyd wedi diflannu i mewn i’r dorf o bobl meddw. Yn y diwedd fe gerddais allan i geisio ffonio rhywun.
Yn sydyn fe ges i syniad. Roedd rhaid bod ffordd arall i fewn i’r lle. Allanfa dân efallai? Cerddais o gwmpas yr adeilad i geisio edrych am rhyw fath o ddrws. Or diwedd fe ddes i o hyd i risiau metel yn ngefn y clwb. Doedd e ddim mynd i fod yn hawdd i’w dringo mewn sgidiau uchel ond roeddwn yn benderfynnol o ymuno â fy ffrindiau. Doedd hi ddim wedi croesi fy meddwl bod dringo mewn esgidiau gyda sawdl o 3 modfedd yn beryglus. Wrth edrych o gwmpas i weld nad oedd neb yn gwylio fe ddechreiais i ddringo.
Ni gyrrhaeddais i’r top. Fe gollais fy ngydbwysedd rhyw hanner ffordd lan a chwympo syth i’r llawr. Pythefnos yn ddiweddarach fe agorais fy llygaid, a theimlais boen yn saethu trwy fy nghorff i. Mewn rhyw ffordd fe welais siap fy nhad yn sefyll wrth ymyl y gwely. Wedyn clywais llais mam yn galw fy enw.
“Oh Lowri!! Rwyt ti’n fyw!”
Dros y diwrnodau nesaf, fe esboniodd fy rhieni i mi beth oedd wedi digwydd. Fe glywodd bownsar swn sgrech yn dod o gefn y clwb a rhedodd i weld beth oedd yn digwydd. Galwodd 999 yn syth. Fe feindion nhw fi’n ar waelod allanfa dan 30 troedfedd o uchder. Roedd gwaed yn arllwys mas o’m mhen ac roedden wedi torri bron pob asgwrn yn fy nghorff.
“Dydy’r doctoriaid ddim yn meddwl byddet ti’n cerdded eto.” dywedodd mam wrthai yn anesmwyth.
Fe deimiais yn dost ofnadwy. Doeddwn i ddim am hala fy mywyd i gyd â ffram wedi’i scriwio i mewn i fy mhen, masgiau ocsigen dros fy ngheg a chael fy mwydo drwy tiwbiau!
Aeth wythnosau heibio. Ces i fy mhenblwydd yn 18 ar fy nhefn a fy nhgorff llawn morffin. Roedd fy ffrindiau i gyd i ffwrdd yn Y Brifysgol felly doedd dim modd iddynt dod i ymweld a mi. Weithiau roeddwn yn crio trwy’r dydd, ond ar adegau erill roeddwn yn gwybod fy mod yn lwcus i fod yn fyw. Yn araf roeddwn yn stopio meddwl am y pethau roeddwn wedi colli, a dechrau meddwl am y pethau mwy pwysig a allaf wneud gyda fy mywyd.
Mae hi chwe mis ers y ddamwain. Dwi wedi dechrau cerdded eto. Ond ddim ymhell. Dwi’n gobeithio cael fy nerth i gyd yn ol mewn amser. Bydd y platiau metel yn fy nghoesau a fy mreichiau yno am byth ond ni fyddent yn fy rhwystro rhag gwuned dim. Gobeithio bydd fy mharti nesaf yn un bythgofiadwy am y rhesymau cywir.